Cost of Living Support Icon

Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn ymestyn am 14 milltir o Aberddawan i Borthcawl. Mae’r clogwyni serth, y traethau cudd a’r golygfeydd bendigedig yn rhan hanfodol o’i apêl at gerddwyr, seiclwyr a phawb sydd wrth eu bodd â chefn gwlad. 

 

Mae arfordir cyfan wedi'i amgylchynu â threfi diddorol, pentrefi bach a milltiroedd o lwybrau cerdded a lonydd gwledig.  O bell ffordd y dull gorau o ddod i adnabod yr arfordir pellennig a phrydferth hwn yw ar ddeudroed.

 

Yr amrediad llanw yma yw'r ail uchaf yn y byd ar ôl Bae Fundy yng Nghanada, mae hyn, ynghyd â'r clogwyni lias glas dramatig yn creu morluniau syfrdanol sydd cystal os nad gwell nag unrhyw arfordir ym Mhrydain!

 

Mae hyn oll wedi’i gyfuno â dyffrynnoedd coediog, bywyd gwyllt ardderchog a 2000 o flynyddoedd o hanes dyn yn gwneud yr arfordir hwn yn wirioneddol unigryw.