Cost of Living Support Icon

Friends of Glamorgan Heritage Coast LogoCyfeillion Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Ni yw Cyfeillion Arfordir Treftadaeth Morgannwg (CATM), elusen gofrestredig sy’n ymroddedig i warchod, diogelu a hyrwyddo’r darn arbennig hwn o arfordir. 

 

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gadwraeth ymarferol — cynnal llwybrau troed, cefnogi diogelu cynefinoedd, gwella mynediad, a darparu offer sy’n helpu i gadw’r arfordir yn ddiogel ac yn bleserus i bawb.

 

Rydym hefyd yn hyrwyddo iechyd hirdymor yr arfordir. Ein nod yw sicrhau bod Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn parhau i gael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – o lobïo dros ddŵr glân a rheolaeth gyfrifol o’r arfordir i dynnu sylw at faterion sy’n bygwth y dirwedd.

 

Mae’r gwaith yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl drwy ffioedd aelodaeth, rhoddion a gweithgareddau codi arian. Mae pob cyfraniad yn cefnogi prosiectau cadwraeth yn uniongyrchol a’n hymdrechion parhaus i ofalu am yr arfordir.

 

Mae aelodau’n derbyn cylchlythyrau rheolaidd gyda diweddariadau am ein prosiectau, cyfleoedd gwirfoddoli a digwyddiadau cymunedol.

 

Rhif yr elusen gofrestredig: 519187 

Ymuno â Chyfeillion Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Gallwch chi ymuno â’r Cyfeillion a gwneud eich cyfraniad chi at gadwraeth Arfordir Treftadaeth Morgannwg.  

 

Prisiau Aelodaeth Flynyddol

 

  • Aelodaeth Unigol: £10.00

  • Aelodaeth Deuluol: £20.00

  • Noddwr: £25.00

  • Aelodaeth Oes: £100.00


 

 

Os oes gennych ddiddordeb ymuno â Chyfeillion Arfordir Treftadaeth Morgannwg, llenwch y ffurflen berthnasol:

 

Ymunwch ar-lein

 

neu

 

Anfonwch eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn ynghyd â siec am y ffi sy’n daladwy i ‘Friends of the Heritage Coast Association’ at:

 

Yr Ysgrifennydd

Cyfeillion Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Canolfan yr Arfordir Treftadaeth

Parc Dwnrhefn

Southerndown

Bro Morgannwg

CF32 0RP