Cost of Living Support Icon

Ffosiliau a Daeareg

Teithiwch yn ôl 350 miliwn o flynyddoedd i Oes y Glo a’r cyfnodau Triasig a Jurasig, a dod o hyd i olion oes a fu

 

Mae’r clogwyni a’r traethau ar hyd Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg yn gyforiog o gyfrinachau’r gorffennol. Crwydrwch y cynoesoedd ar hyd yr arfordir, a darganfod hanes y Ddaear, o’r calchfaen a ffurfiwyd yn Oes y Glo (350 miliwn o flynyddoedd yn ôl) i garreg galch las y cyfnod Liasig (180 miliwn o flynyddoedd yn ôl).

 

Mae amrywiad llanw Mor Hafren yn un o’r mwyaf yn y byd, ac mae’n hawdd cael eich dal ganddo. Gwiriwch amserau’r llanw cyn ymweld â’r traeth.


Gallwch gasglu ffeithlen Daeareg am ddim o Ganolfan yr Arfordir Treftadaeth, neu brynu llyfr tywys ar Ddaeareg leol a’r ffosiliau y gallwch ddod o hyd iddynt yn yr ardal:

  • Glamorgan Heritage Coast: A guide to its Geology - £1.50
  • Coastal processes and Landforms - £2.50

 

Gellir rhagnodi teithiau cerdded daeareg i grwpiau drwy Wasanaeth y Ceidwaid.

 

Gofal: nid yw’n beth anghyffredin gweld cwympiadau creigiau oddi ar y clogwyni ar hyd yr Arfordir Treftadaeth. Byddwch yn wyliadwrus ac osgoi troed y clogwyni. 

 

Devils-toenails-Gryphaea