Cost of Living Support Icon

Cwm Colhuw

Glamorgan-Heritage-Coast-logo

Mae traeth Cwm Colhuw yn boblogaidd â syrffwyr a theuluoedd fel ei gilydd, ac mae’n llawn o’r adnoddau sydd eu hangen am ddiwrnod gwych i’r teulu. Gwelir yma nifer o nodweddion amlwg Arfordir Treftadaeth Morgannwg, megis pyllau creigiog, traeth tywodlyd a chlogwyni garw.

 

Yn ogystal, mae Cwm Colhuw yn gartref i rywogaethau prin a phrydferth, yn cynnwys y Pili-pala Bach Glas, iâr fach yr haf frodorol leiaf Prydain. Gwelir llawer o fywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Cwm Colhuw hefyd, sy’n rhedeg ar hyd pen y clogwyni tua’r gorllewin ac yn ôl i gyfeiriad y dref.

 

Mae tref hanesyddol Llanilltud Fawr ger llaw, ac mae yma siopau annibynnol ac amrywiaeth o lefydd bwyta. Mae’n werth ymweld ag Eglwys Sant Illtud a Chapel Galilea hefyd.

 

Cwm Col-huw

 

Treftadaeth a Bywyd Gwyllt

Flynyddoedd maith yn ôl, deuai ysbeilwyr Gwyddelig a Llychlynnaidd i’r lan yn y fan hon i ymosod ar y dref a dwyn trysorau.

 

Ymhen tipyn, cawsai trigolion y dref ddigon ar hyn, ac ymladd yn ôl. Fe lwyddon nhw i guro grŵp o ysbeilwyr drwy eu denu â merched del a gwin, ac yna ymosod arnynt!

 

Cafodd diwrnod y fuddugoliaeth ei ddathlu am flynyddoedd lawer ar 3 Mai o dan yr enw Diwrnod Annwyl.

 

Cyfleusterau

  • Caffi
  • Croeso i gŵn Hydref-Mawrth
  • Safle Hanesyddol
  • Parcio
  • Gwarchodfa
  • Toiledau