Cost of Living Support Icon

Llwybr Arfordir Cymru

Mae golygfeydd ysblennydd a llwybrau cyswllt ar hyd 870 o filltiroedd yn golygu mai Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr arfordirol di-dor hiraf yn y byd.

 

Wrth i chi ddilyn Llwybr Arfordir Cymru, mi fyddwch yn darganfod adran naw milltir o hyd ohono sy’n rhedeg drwy Fro Morgannwg. Ymhlith y nodweddion trawiadol a welir ar hyd y llwybrau ffurfiol, mae golygfeydd godidog Arfordir Treftadaeth Morgannwg, gwarchodfeydd natur ac eglwysi hynafol. 

 

Walking on a cliff

 

Ymhlith yr uchafbwyntiau ar hyd y rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru, mae:

  • Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr

  • Goleudy Nash Point

  • Eglwys y Drindod Sanctaidd, Marcroes

  • Castell San Dunwyd a Choleg Iwerydd 

  • Arfordir Treftadaeth Morgannwg  

 

"Mae’r daith gerdded hon yn cynnwys un o uchafbwyntiau arfordir De Cymru gyfan – pennau clogwyni dramatig Arfordir Treftadaeth Morgannwg a’r golygfeydd dros Fôr Hafren at arfordir Gwlad yr Haf a bryniau Exmoor." - Quentin Grimley, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Llwybr Arfordir Cymru