Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Methu â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF ac rhai eraill
Mae llawer o ddogfennau ar ein gwefan ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch Mae'r rhain yn methu'r meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 canlynol:
-
PDF 1 - Mae rhai delweddau PDF ar goll testun 'alt'
-
PDF 2 – Mae rhai PDFs heb lyfrnodau
-
PDF 3 - Nid yw'r trefn tabiau ar gyfer rhai PDFs wedi'i nodi
-
PDF 12 – Mae gan rai PDFs feysydd ffurf sydd heb dagiau disgrifiad
-
PDF 16 – Nid oes gan rai PDFs iaith benodol
-
PDF 18 – Nid oes gan rai PDFs deitl penodol
Rydym yn cynnal rhaglen dreigl o adolygu a dileu'r PDFs hyn. Os oes angen gwybodaeth arnoch o PDF nad yw'n hygyrch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
Penawdau a theitlau
Mae problemau gyda'r penawdau a'r teitlau ar rai o'n tudalennau:
-
Mae penawdau gwag ar rai o'n tudalennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (Penawdau a Labeli)
-
Nid yw rhai penawdau ar ein tudalennau yn ddisgrifiadol ac maent yn rhy hir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (Penawdau a Labeli)
Rydym yn adolygu strwythur a chynnwys ein tudalennau. Byddwn yn darparu hyfforddiant i'n golygyddion cynnwys ar arfer gorau ar gyfer penawdau a theitlau ar dudalennau gwe. Rydym yn bwriadu datrys unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.
Dolenni
Mae problemau gyda'r dolenni ar rai o'n tudalennau:
-
Defnyddiwyd yr un testun ar gyfer dolenni i wahanol URLs ar rai o'n tudalennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (Cynnwys heb destun) neu 2.4.4 (Diben Dolenni)
-
Nid oes disgrifiadau i rai dolenni ar ein gwefan. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (Cynnwys heb destun) neu 2.4.4 (Diben Dolenni)
-
Ni ellir pennu diben rhai dolenni ar ein gwefan o destun y ddolen yn unig. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (Cynnwys heb destun) neu 2.4.4 (Diben Dolenni)
Rydym yn adolygu'r dolenni ar ein gwefan. Byddwn yn darparu hyfforddiant i'n golygyddion cynnwys ar arfer gorau ar gyfer fformatio dolenni ar dudalennau gwe. Rydym yn bwriadu datrys unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.
Ffurflenni
Nid oes gan rai rheolaethau ffurflenni ar ein gwefan labeli. Mae hyn yn golygu nad yw pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin yn gallu gweld cynllun y ffurflen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). Rydym yn adolygu'r mater hwn ac yn bwriadu ei ddatrys cyn gynted â phosibl.
Cynnwys ymatebol
Mae rhai o'n tudalennau yn sgrolio mewn dau ddimensiwn ar sgriniau bach (er enghraifft ar iPhone 5). Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.10 Ail-lifo. Rydym yn adolygu'r mater hwn ac yn bwriadu ei ddatrys cyn gynted â phosibl.
Codio a fformatio
Mae nifer o faterion mwy technegol ar ein gwefan:
-
Nid yw rhai o'n tudalennau yn cydymffurfio â manyleb HTML. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1 (Dosrannu) neu 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth)
-
Nid yw rhai o'n tudalennau wedi'u ffurfio'n dda. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.10 (Dosrannu)
-
Nid yw rhai o'n tudalennau yn dilysu. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.10 (Dosrannu)
Rydym yn adolygu'r materion hyn ac yn bwriadu eu datrys cyn gynted â phosibl.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF ac rhai eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau. Rydym yn gweithio ar adolygu a dileu cymaint o PDFs a dogfennau hŷn â phosibl. Bydd unrhyw ddogfennau newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Cynnwys fideos
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud sain a fideo wedi'u recordio ymlaen llaw a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 yn hygyrch. Darperir trawsgrifiadau neu gapsiynau testun plaen ochr yn ochr â'r holl gynnwys sain a fideo ar ôl y dyddiad hwn. Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud sain a fideo fyw yn hygyrch.