Cost of Living Support Icon

Cymorth i Wcráin

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch helpu'r rhai y mae'r rhyfel yn effeithio arnynt yn Wcráin. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru i'w gweld ar:

 

Sesiynau galw heibio wythnosol i bobl o Wcráin

 

Galw Heibio Wcrainiaidd: Cyngor Tai a Symud ymlaen

  • Dydd Iau 10-1pm

Llyfrgell y Barri, 160 Sgwâr y Brenin, Y Barri, CF63 4RW.

 

Інформаційна підтримка громадян України: Поради стосовно житла та переїзду від спонсорів

Щочетверга 10:00-13:00

Адреса: Barry Library, 160 Kings Square, Barry, CF63 4RW.

 

Информационная поддержка граждан Украины: Советы относительно жилья и переезда от спонсоров

Каждый четверг 10:00-13:00

Адресс: Barry Library 160 Kings Square, Barry, CF63 4RW.


Sesiwn Galw Heibio i Bobl o Wcráin:  Gwybodaeth Gyffredinol a Chyngor gan Dîm Cymunedau am Waith y Fro 

  • Dydd Mercher cyntaf pob mis 1pm - 3pm

Canolfan Byd Gwaith Penarth, Plymouth Road, Penarth, CF64 3DA

 

Зустрічі для українців: Загальна інформація та поради разом із командою Vale Communities for Work

Перша середа кожного місяця з 13:00 до 15:00

Адреса: Penarth Job Centre, Plymouth Road, Penarth, CF64 3DA

  

Cysylltwch â Thîm Cymorth Wcráin gydag unrhyw gwestiynau neu os oes angen cyngor ychwanegol ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk

 

Cynllun Cartrefi i Wcráin

Os ydych chi am gynnig cartref i bobl sy'n ffoi o Wcráin, gallwch ddod yn noddwr fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin. 

 

Gall unrhyw un yn y DU sydd ag ystafell sbâr neu gartref gofrestru i fod yn noddwr, cyn belled â bod y canlynol yn berthnasol:

  • Gallwch gynnig llety am o leiaf 6 mis

  • Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, mae gennych ganiatâd i aros yn y DU am o leiaf 6 mis

 

  • Hysbysiad Preifatrwydd Cartrefi i Wcráin Cyngor Bro Morgannwg

    Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Bro Morgannwg (fel Rheolydd y Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol yn benodol mewn perthynas â'r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin.

     

     

    Er mwyn rhoi cymorth i ddinasyddion Wcráin sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn y wlad, bydd Cyngor Bro Morgannwg a'n partneriaid yn y sector cyhoeddus lleol yn prosesu data personol adnabyddadwy'r bobl sy’n dianc rhag y rhyfel a'r rhai sy'n eu noddi i ddod i'r DU.

     

    Cesglir y data o sawl ffynhonnell, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, ac yn uniongyrchol gan unigolion. Byddwn ond yn casglu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i gefnogi dinasyddion Wcráin sy'n cael eu noddi i ddod i Fro Morgannwg naill ai gan Lywodraeth Cymru neu gan unigolion a sefydliadau eraill yn y DU.

     

    Cyngor Bro Morgannwg fydd Rheolydd y Data ar gyfer y data personol y mae'n ei gasglu, ac unrhyw ddata personol sy'n cael ei rannu gyda ni gan adrannau o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

     

    Byddwn yn prosesu’r data hwn yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni.  Lle mae'r wybodaeth yn gyfystyr â data categori arbennig, byddwn yn ei brosesu er budd sylweddol y cyhoedd o amddiffyn pobl sy'n agored i niwed.

     

    Caiff y data ei brosesu i gefnogi dinasyddion Wcráin yn ystod y broses gyrraedd ac am gyfnod unrhyw drefniadau noddi ym Mro Morgannwg.  Bydd y data hefyd yn cael ei ddefnyddio i asesu addasrwydd a chefnogi gwesteiwyr o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin.  

    Ni fyddwn ond yn rhannu data personol i'r graddau y mae'n angenrheidiol i gefnogi dinasyddion Wcráin, gwesteiwyr o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin neu lle mae'n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith.  Gall hyn gynnwys rhannu gwybodaeth gydag Addysg, y GIG a thrydydd partïon pan fo angen.

      

    Mae data personol sy'n cael ei roi i Gyngor Bro Morgannwg yn cael ei storio ar weinyddion diogel.

     

    Dim ond drwy ddefnyddio systemau trosglwyddo data diogel achrededig y caiff data personol, adnabyddadwy a rennir gyda'n sector cyhoeddus a phartneriaid eraill ei drosglwyddo. Dim ond data sy'n gwbl angenrheidiol ar gyfer darparu cymorth i ddinasyddion Wcráin a gaiff ei rannu.

     

    Bydd data personol adnabyddadwy a gedwir gan Gyngor Bro Morgannwg yn cael ei gadw drwy gydol y cynllun noddi, ac am gyfnod o chwe mis o leiaf wedi hynny.  Gellir cadw data am gyfnodau hwy, gan gynnwys gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, lle mae rhwymedigaeth statudol neu ofyniad parhaus i wneud hynny. Caiff y data ei ddinistrio'n ddiogel unwaith y penderfynir nad oes ei angen mwyach.

     

    Mae'r Cyngor eisoes yn cadw data am noddwyr a'r rhai sydd wedi derbyn fisa o dan y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, sydd ar fin byw yn ein hardal ni. 

     

    Mae'n bosibl y bydd angen i ni, yn yr argyfwng presennol, ofyn i chi am ddata personol gan gynnwys data personol sensitif nad ydych eisoes wedi'i ddarparu - er enghraifft, eich oedran neu a oes gennych unrhyw salwch sylfaenol neu a ydych yn agored i niwed.  Gwneir hyn er mwyn i'r Cyngor eich helpu a sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch i fyw yn y gymuned.

     

    Gallwch weld prif Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor, sy'n cynnwys mwy o wybodaeth am sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu data personol yn gyffredinol, yn ogystal â'ch hawliau fel Gwrthrych y Data.

     

    Noddwyr a gwladolion o Wcráin sy’n cyrraedd 

     

    Mae data personol yn cael ei gasglu er mwyn asesu a rhoi cymorth i oedolion, plant a phobl ifanc sy'n cyrraedd Bro Morgannwg a allai fod angen cefnogaeth a chymorth gan wasanaethau'r Cyngor.

     

    Asesu a rhoi cymorth i staff

    Mae data personol yn cael ei gasglu er mwyn galluogi'r Cyngor i nodi unrhyw gymorth angenrheidiol i deuluoedd neu unigolion sy'n cyrraedd o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. 

     

    Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data personol?

    Chi sy’n rhoi rhan fwyaf yr wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu i ni'n uniongyrchol, dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

     

    Dyma'r seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol:

    • Erthygl 6 (d) GDPR y DU Mae angen i ni ddiogelu eich buddiannau hanfodol
    • Erthygl 6 (e) GDPR y DU Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus

     

     

    Eich hawliau 

     

    Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:

     

    • Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. 
    • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
    • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau penodol mae gennych hawl i gyfyngu i ba raddau rydym yn prosesu eich gwybodaeth.
    • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
    • Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau.  Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.

     

     

     

    Gyda phwy ddylech gysylltu os oes gennych bryderon am y ffordd y caiff eich data ei brosesu? 

     

    Gallwch gysylltu â Thîm Diogelu Data Cyngor Bro Morgannwg neu gysylltu'n uniongyrchol â Swyddog Diogelu Data Cyngor Bro Morgannwg:

     

    E-bost: DPO@bromorgannwg.gov.uk  

     

    Drwy’r post: Swyddog Diogelu Data, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri, CF63 4RU

     

    Gallwch hefyd gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion hyn:


    Trwy'r post:  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF

    Ffôn:  0330 414 6421

     

    Ceir rhagor o gyngor ac arweiniad gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar y mater hwn ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth​​​​​​​​​​​​​

 

 

 

Taliadau 'Diolch' i letywyr/noddwyr

Yn dilyn diweddariad gan Lywodraeth Cymru ym Mawrth 2023 am gynnydd mewn taliadau Diolch i letywyr gallwn gadarnhau bod pob lletywr bellach yn gymwys am daliad 'diolch' dewisol o £500 y mis. Mae'r taliad 'diolch' wedi'i gyfyngu i un taliad fesul cyfeiriad preswyl a bydd yn cael ei wneud fel ôl-daliad ar ôl cwblhau'r gwiriadau gofynnol ar gyfer y lletywyr.  Cysylltwch ag ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk os oes gennych ragor o gwestiynau'

 

 

Llenwch y ffurflen taliad 'diolch' a'i dychwelyd atom yn:

 

Dylech lenwi'r ffurflen mor drylwyr â phosibl, gan gynnwys y dyddiad y cyrhaeddodd eich gwesteion a'r dyddiad y gwnaethant adael, os yn berthnasol. Rhaid i chi anfon e-bost atom i roi gwybod i ni os bydd eich gwesteion yn gadael eich llety cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw ordaliadau.  Bydd angen ad-dalu unrhyw ordaliadau i ni.

 

Cwestiynau Cyffredin i westeiwyr

Hoffai Cyngor Bro Morgannwg ddiolch i chi am ymrwymo i noddi Gwladolyn o Wcráin yn eich cartref. Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am sut bydd cynllun lletya Cartrefi i Wcráin yn gweithio a rhai o'r pethau i'w disgwyl.

 

  • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng noddwr a lletywr?

    Yng nghynllun Cartrefi i Wcráin, rydym yn cyfeirio at y rhai sy'n croesawu Wcreiniaid i'w cartrefi fel 'lletywyr' neu 'noddwyr.' Mae hyn wrth gwrs am eich bod yn lletya rhywun yn eich cartref neu ail eiddo, ond rydych hefyd yn cael eich enwi fel eu noddwr ar eu cais am fisa i'r DU - efallai y gwelwch y termau hyn yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol gan eu bod yn golygu'r un peth.

     

     

    Os ydych wedi cael eich paru â rhywun sydd wedi cyrraedd y DU ond nad ydych wedi bod yn rhan o noddi eu fisa, yna byddech yn cael eich ystyried yn 'lletywr' nid yn 'noddwr'.

     

     

     

     

     

     

  • Pa wiriadau sydd angen eu cynnal cyn i westai gyrraedd?

    RBydd Cyngor Bro Morgannwg yn cysylltu â chi i gynnal archwiliad tŷ. Bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) Bro Morgannwg a bydd yn archwiliad lefel is na'r archwiliadau sy’n cael eu cynnal ar lety rhent preifat.

     

    Os byddwch yn lletya yn eich cartref eich hun, bydd gofyn i’r cyngor gynnal gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) sylfaenol ar gyfer pob person 16 oed ac yn hŷn sydd ar aelwyd y noddwr. Dylech ystyried unrhyw blant sy'n oedolion a all ddychwelyd i'r cartref am gyfnodau, er enghraifft plant sy'n dychwelyd o'r brifysgol neu'n gweithio dramor, oherwydd gall fod angen iddynt hefyd gael archwiliad GDG. Mewn achosion lle mae plant a/neu oedolion agored i niwed ymhlith y rhai sy’n cyrraedd, bydd angen gwiriad GDG manylach ar gyfer pob oedolyn ar aelwyd y noddwr. Dylech roi gwybod i'r awdurdod lleol os bydd oedolyn newydd yn symud i mewn pan fydd y bobl rydych chi'n eu lletya yn dal i aros gyda chi fel bod modd cynnal gwiriad GDG arnyn nhw hefyd. Mewn achosion lle mae gwesteion mewn llety sydd mewn eiddo ar wahân i’ch un chi, bydd angen gwiriad GDG o hyd.

     

    Ni allwn roi amserlen benodol ar gyfer canlyniadau GDG gan fod hyn yn amrywio o berson i berson. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn darparu eich dogfennau adnabod (ID) cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu dilysu eich manylion adnabod a symud ymlaen â'ch cais cyn gynted ag y bo modd.

     

    Bydd y Cyngor ond yn gallu gweinyddu'r taliadau "diolch" i noddwyr unwaith bydd y gwiriadau wedi'u cwblhau ac rydym yn fodlon bod y noddwr yn bodloni gofynion addasrwydd y cynllun.

     

     

     

     

     

     

  • A oes unrhyw hyfforddiant noddwr/lletywr ar gael a sut galla i baratoi ar gyfer dyfodiad gwestai?

    BMae lletya person arall/pobl eraill yn eich cartref yn ymrwymiad enfawr ac mae'n bwysig eich bod yn teimlo mor barod â phosibl ar gyfer eu dyfodiad.

     

    Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllaw i noddwyr sy'n cynnig cyngor ymarferol a dolenni defnyddiol ar y ffordd orau y gallwch gefnogi'r person neu'r teulu rydych chi'n eu lletya. Mae'r canllaw hwn hefyd yn cynnwys dolen i hyfforddiant diogelu ar-lein sy’n rhad ac am ddim i’w wneud. Rydym yn eich annog i neilltuo amser i fynd trwy'r hyfforddiant hwn.

     

    Mae Housing Justice Cymru yn cynnig cyngor ac arweiniad ynghylch lletya o dan gynllun Cartrefi i Wcráin yn ogystal â sesiynau hyfforddi a gweithdai cymorth. Gellir cael mwy o wybodaeth yn Hyb Cymorth Lletywyr Housing Justice ac rydym yn eich annog i fynychu'r sesiynau hyn er mwyn cael mewnwelediad gwell i rôl lletywr. Maent hefyd yn rhedeg llinell gymorth i letywyr ar 01654 550 550 sy'n gweithredu 9am – 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am – 12pm ar benwythnosau.

     

    Mae RESET yn cynnig pecyn cymorth lletya defnyddiol iawn i'ch helpu i ystyried agweddau pwysig ar letya, fel paratoi eich eiddo, ffiniau priodol, diogelu a chynllunio ar gyfer diwedd eich cymorth.

     

    Mae’r Sanctuary Foundation yn cynnig cwrs hyfforddi ar-lein am ddim sy’n cyflwyno diogelwch, lles a chymorth ffoaduriaid yn ogystal â gweminarau sy'n ymdrin â phynciau penodol fel gweithio gyda theuluoedd a phlant sy’n agored i niwed. Ceir yr holl adnoddau hyn ar wefan y Sanctuary Foundation.

     

    Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Cymorth i Wcráin ar ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk am unrhyw gymorth neu gyngor mewn perthynas â'r cynllun lletya neu alw heibio i un o'n sesiynau galw heibio rheolaidd, gellir dod o hyd i’r diwrnodau a’r amseroedd yn ein hyb Cymorth i Wcráin

     

     

     

     

     

     

     

  • Beth os yw'r person yr wyf yn ei noddi am ddod â'i anifail anwes i'r DU?

    Meddyliwch yn ofalus a fyddech chi'n hapus i groesawu anifail anwes eich gwestai/gwesteion i'ch cartref a sut byddent yn ffitio i mewn i'ch aelwyd. Rhaid i unrhyw anifail anwes sy'n teithio i'r DU fodloni gofynion iechyd llym a gall fod yn ofynnol iddo fynd i gwarantîn mewn cyfleuster awdurdodedig am hyd at 4 mis. Mae'r canllawiau i Gymru yn wahanol i'r canllawiau ar gyfer Lloegr a'r Alban.

     

    Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r rheolau ar ddod ag anifeiliaid anwes i Gymru o Wcráin.

     

    Cyn i chi gytuno i noddi rhywun ag anifeiliaid anwes, cofiwch, pan ddaw’r amser i’ch gwestai/gwesteion symud ymlaen o’ch cartref, y gallai fod yn heriol iddynt ddod o hyd i lety, er enghraifft rhentu preifat neu drefniant lletya arall, fydd yn derbyn anifeiliaid anwes.

     

     

  • Pa lefel o gymorth y bydd angen i mi ei darparu i westai? 

    Bydd gan rai letywyr fwy o amser nag eraill i gynnig cymorth i'w gwestai/gwesteion gyda rhai o'r tasgau ymarferol y mae angen iddynt eu cyflawni ar ôl iddynt gyrraedd, megis cofrestru gyda meddyg teulu, agor cyfrif banc a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Cyn i'ch gwestai/gwesteion gyrraedd, bydd aelod o’r tîm cymorth i Wcráin yn cysylltu â chi i drafod y tasgau ymarferol sydd angen eu gwneud a pha lefelau o gymorth y gallwch a/neu yr hoffech eu cynnig. Bydd hyn yn helpu i lywio cynllun cymorth ar gyfer eich gwestai/gwesteion i hwyluso'r broses ymsefydlu ac integreiddio i'w cymuned newydd. Mae'r tîm cymorth yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd gyda chymorth ieithyddol y mae croeso i westeion a lletywyr eu mynychu ar unrhyw adeg. Gellir dod o hyd i’r amseroedd galw heibio yn ein Hyb Cymorth i Wcráin.

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Sut galla i wneud cais am y taliadau "diolch" misol?

    Mae cyngor Bro Morgannwg yn gweinyddu'r taliadau "diolch" ar ran Llywodraeth y DU. Gellir dod o hyd i ddolen i'r ffurflen gais ar gyfer y taliadau diolch ar wefan 'Cymorth i Wcráin' y Cyngor.

     

    Bydd y Cyngor ond yn gallu gweinyddu'r taliadau "diolch" i noddwyr/lletywyr unwaith bydd y gwiriadau gofynnol wedi'u cwblhau ac rydym yn fodlon bod y noddwr yn bodloni gofynion addasrwydd y cynllun. Byddant yn cael eu talu fel ôl-daliad misol yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc.

     

    Gellir talu taliadau "Diolch" am uchafswm o ddwy flynedd o'r dyddiad y cyrhaeddodd Gwladolyn Wcráin y DU a dechrau trefniant lletya.

     

    Os ydych yn derbyn gostyngiad meddiannaeth unigol ar eich bil treth gyngor, ni fydd derbyn taliadau "diolch" yn effeithio ar hyn. Mae llywodraeth y DU yn sicrhau nad yw taliadau "diolch" yn effeithio ar hawl i fudd-dal a byddant yn parhau i fod yn ddi-dreth.

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Beth os oes gen i bryderon diogelu mewn perthynas ag unrhyw un o’m gwesteion?

    Gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'r Heddlu sy'n bennaf gyfrifol am ymateb pan fydd unrhyw un yn pryderu eu bod nhw neu rywun arall mewn perygl o niwed, cam-drin neu esgeulustod. Fodd bynnag, mae angen i rywun roi gwybod iddynt (adrodd) am bryder diogelu cyn y gallant helpu. Efallai y byddwch yn gweld neu'n clywed rhywbeth sy'n gwneud i chi boeni bod y person neu'r teulu yr ydych yn eu lletya mewn perygl o niwed, cam-drin neu esgeulustod. Gall cam-drin ddigwydd ar sawl ffurf, gan gynnwys corfforol, emosiynol, rhywiol ac ariannol. Gallai hyn fod yn bryder am y ffordd y maent yn trin eu plant neu berthnasau neu'r ffordd y mae rhywun arall yn eu trin nhw.

     

    Efallai y byddwch hefyd yn gweld neu'n clywed rhywbeth sy'n gwneud i chi boeni bod eich plant, eich perthnasau neu rywun arall mewn perygl oherwydd ymddygiad y person neu'r teulu rydych yn eu lletya. Gallai’r person neu'r teulu rydych chi'n eu lletya o Wcráin hefyd ofyn am eich help i roi gwybod am bryder diogelu.

     

    Gofyn am help yw'r peth iawn i'w wneud. P'un a ydych yn poeni am blentyn o Wcráin neu oedolyn, neu amdanoch chi eich hun, eich teulu neu rywun yn y gymuned.

    Mae'n bwysig rhannu'r pryderon hyn cyn gynted ag y gallwch. Os ydych chi'n poeni bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, er enghraifft os bydd plentyn neu oedolyn o Wcráin yn mynd ar goll, yna dylech ffonio'r Heddlu ar 999.

     

    Bydd eich awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch cysylltu â'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol os ydych yn poeni y gallai rhywun fod mewn perygl o niwed, cam-drin, neu esgeulustod.  Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar wefan eich awdurdod lleol drwy chwilio am enw eich awdurdod lleol ac yna 'rhoi gwybod am blentyn mewn perygl' neu 'roi gwybod am oedolyn mewn perygl'.

     

    Mae hyfforddiant ar-lein ar gael am ddim a gall eich helpu i ddeall mwy am ddiogelu. Rydym yn eich annog i gymryd amser i fynd drwy'r hyfforddiant hwn drwy ymweld â gwefan Learning@Wales.

     

     

     

     

  • Beth arall ddylwn i ei ystyried yn ystod y cyfnod ar ôl cyrraedd / setlo i mewn?

    Efallai eich bod eisoes wedi sefydlu rhai rheolau sylfaenol o fewn eich teulu eich hun fel disgwyliadau am yr hyn y dylid ei wisgo o amgylch y tŷ, defnyddio ystafelloedd ymolchi, preifatrwydd, cyfrinachedd, pobl sy’n ymweld â’r tŷ yn rheolaidd, ysmygu ac ati. Mae'n bwysig cael y sgyrsiau hyn gyda'ch gwestai/gwesteion cyn gynted â phosibl fel y gallwch i gyd fod yn glir am eich ffiniau a sut byddwch yn byw yn yr un eiddo yn gytûn.

     

     

    Pethau ychwanegol i'w hystyried fydd yn helpu eich gwestai/gwesteion i ymgartrefu ac ymgyfarwyddo yw:

     

    - Rhannu eich cod WIFI â nhw

    - Disgrifio sut i ddefnyddio'r ffwrn, y peiriant golchi llestri, y peiriant golchi dillad, a sut i waredu sbwriel, yn cynnwys ailgylchu

    - Dangos iddynt ble mae synwyryddion carbon monocsid ac esbonio beth i'w wneud os ydyn nhw'n clywed larymau carbon monocsid. Dangos ble mae’r llwybrau gadael os bydd tân a ble mae allweddi'r drws blaen a chefn yn cael eu cadw er mwyn iddyn nhw allu mynd allan mewn argyfwng.

    - Egluro sut i ddefnyddio 999 ac 101

    - Dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio’r wefan noddfa i ddysgu am Gymru, a'u hawliau, yn ogystal â systemau a phrosesau lleol

    -Dangoswch dudalen we cyngor Bro Morgannwg Cymorth i Wcráin iddynt er mwyn iddynt allu canfod pa gymorth lleol sydd ar gael iddynt

    - Cyfeiriwch nhw i’r archfarchnad fawr, safle bws, gorsaf drenau, swyddfa bost, blwch postio, llyfrgell, fferyllfa a’r orsaf heddlu agosaf

     

    Gallwch ddefnyddio apiau iaith defnyddiol fel 'Google Translate' neu 'sayhi' i helpu gyda chyfathrebu os nad yw eich gwesteion yn siarad llawer o Saesneg.

     

     

    Cysylltwch â thîm Cymorth i Wcráin os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda chyfieithu neu ddehongli.

  • Sut bydd fy ngwesteion yn cael eu cefnogi'n ariannol?

    Mae eich gwestai/gwesteion yn gymwys am daliad dros dro o £200 am gostau cynhaliaeth wrth iddynt aros am eu taliad cyntaf o'r Credyd Cynhwysol a chwilio am gyflogaeth. Cyngor Bro Morgannwg fydd yn rhoi’r taliad hwn. Nid oes angen ad-dalu'r taliad o £200 ac mae'n perthyn i'r person sy’n cyrraedd o Wcráin, felly ni ddylai'r noddwr/lletywr wneud cais amdano.

     

    Gellir casglu'r taliad hwn o ddesg yr ariannwr yn y dderbynfa yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri CF63 4RU unrhyw ddydd Mawrth neu ddydd Iau rhwng 10am a 2pm. Bydd angen i'ch gwestai ddod â phrawf adnabod â llun fel eu pasbort Wcreinaidd neu fisa.

     

    Os yn bosibl, hysbyswch y tîm yn ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk o'r diwrnod y mae eich gwestai/gwesteion yn bwriadu dod i gasglu eu £200 er mwyn iddynt gael hysbysu'r arianwyr ymlaen llaw.

     

     

     

     

     

     

  • A ddylwn i roi neu dderbyn arian gan fy ngwestai/ngwesteion?

    Mae'n bwysig nad yw lletywyr yn derbyn arian gan eu gwesteion, nac yn llofnodi unrhyw beth y gellid ei ddehongli fel cytundeb tenantiaeth. Mae hyn er mwyn diogelu gwesteion a lletywyr. Nid oes gan westeion yr hawl i aros yng nghartref lletywyr ond os yw lletywr yn derbyn arian neu'n llofnodi unrhyw beth sy'n awgrymu bod trefniant tenantiaeth ac nad yw'r gweithdrefnau cywir wedi'u dilyn, gallai hyn achosi problemau difrifol. Mae'n bwysig nad yw lletywyr yn disgwyl rhent na gwasanaethau gan eu gwesteion yn gyfnewid am eu hystafell. Mae hyn hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau bod y ffiniau priodol rhwng gwesteion a lletywyr yn parhau yn eu lle. Efallai y bydd gwestai sy'n ennill arian eisiau cyfrannu a gallai siopa am nwyddau i’r tŷ, er enghraifft, fod yn gwbl briodol.

     

     

     

    Os ydych yn bwriadu rhannu'r taliad "diolch" a gewch gyda'ch gwestai, cofiwch y gallai hyn effeithio ar eu hawl i fudd-dâl. Rydym yn cynghori eich bod yn trafod hyn gyda’r thîm Cymorth i Wcráin ymlaen llaw. 

  • Sut mae fy ngwesteion yn cael eu Trwydded Breswylio Fiometrig? 

    Mae'r broses ar gyfer cael Trwydded Breswylio Fiometrig yn dibynnu a yw eich gwestai/gwesteion wedi darparu gwybodaeth fiometrig (olion bysedd a ffotograff) cyn teithio i'r DU.

     

    Os nad ydynt eisoes wedi rhoi eu gwybodaeth fiometrig mewn canolfan ymgeisio am fisa cyn teithio i'r DU, bydd angen iddynt wneud cais i ymestyn eu caniatâd i fod yn y DU trwy lenwi'r ffurflen gais berthnasol. Ar ôl cwblhau'r ffurflen Statws Cynllun Wcráin yn y DU, gofynnir iddynt drefnu apwyntiad mewn canolfan ymgeisio am fisa yn y DU i ddarparu gwybodaeth fiometrig. Yn yr apwyntiad hwn, gofynnir iddynt ddangos eu pasbort neu eu dogfen deithio fel prawf adnabod. Rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni 'Oedolyn Cyfrifol', sy'n gorfod dangos prawf adnabod hefyd. Oni bai bod yr oedolyn hwn yn rhiant neu’n warcheidwad cyfreithiol sy'n cael ei enwi ar sticer vignette y plentyn (yn eu pasbort neu ddogfen deithio) ac yn casglu eu Trwydded Breswylio Fiometrig ei hun ar yr un pryd, rhaid ei enwebu yma.

     

    Rhaid darparu gwybodaeth fiometrig o fewn chwe mis i gael mynediad i'r DU. Sylwch y gallai apwyntiadau canolfannau ymgeisio am fisa fod yn llawn am sawl wythnos, felly mae'n bwysig peidio â gadael hyn yn rhy hwyr.

     

    Os aeth eich gwestai/gwesteion i ganolfan ymgeisio am fisa i roi eu gwybodaeth fiometrig cyn teithio i'r DU, dylent gasglu eu Trwydded Breswylio Fiometrig o'r lleoliad a nodir ar eu "llythyr penderfyniad Trwydded Breswylio Fiometrig".

     

    Os yw eich gwestai/gwesteion yn wynebu unrhyw broblemau mewn perthynas â'r Drwydded Breswylio Fiometrig, cysylltwch â ni yn ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk er mwyn i ni geisio helpu. 

     

     

     

     

  • A fydd fy ngwestai/ngwesteion angen cerdyn SIM y DU?

    Bydd, bydd angen i'ch gwestai/gwesteion gael cerdyn sim yn y DU yn fuan ar ôl iddynt gyrraedd, ac mae'r rhain ar gael o siop ffôn leol ac mewn rhai archfarchnadoedd. Ar adeg ysgrifennu hwn, roedd y Groes Goch Brydeinig yn cynnig cardiau sim am ddim i bobl oedd newydd gyrraedd y DU o Wcráin. Mae mwy o wybodaeth am wneud cais am gerdyn sim am ddim ar gael ar wefan Link International.

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  • A fydd angen cyfrif banc yn y Deyrnas Unedig ar fy ngwesteion?

    Bydd, mae'n bwysig bod eich gwestai/gwesteion yn agor cyfrif banc cyn gynted â phosibl. Byddai'n ddefnyddiol rhoi gwybod iddyn nhw bod amrywiaeth o fanciau y gallant ddewis ohonynt, gan gynnwys darparwyr sydd ar-lein yn unig. Fel arfer i agor cyfrif banc, bydd angen i'ch gwestai/gwesteion ddangos prawf adnabod fel pasbort neu drwydded yrru neu gerdyn adnabod cydnabyddedig yn ogystal â phrawf o gyfeiriad. Mae mwy o wybodaeth am agor cyfrif banc ar gael ar Wefan Noddfa Llywodraeth Cymru.

     

     

     

     

     

     

  • Sut mae fy ngwesteion yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol?

    Bydd angen cyfrif banc yn y DU ar eich gwestai/gwesteion i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

     

    Gellir dechrau cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein ar wefan Llywodraeth y DU.

     

    Mae llawer o bobl wedi darganfod, gyda’r cais i ddarparu prawf adnabod, mai’r peth hawsaf yw ticio'r blwch sy’n dweud "Ni allaf wneud hyn ar-lein". Bydd hyn yn trefnu apwyntiad yn eich Canolfan Waith leol lle bydd yn rhaid i chi ddarparu dogfennau. Mae dogfennau adnabod a dderbynnir yn cynnwys pasbort rhyngwladol Wcreinaidd gyda stamp mynediad, Trwydded Breswylio Fiometrig, a thrwydded yrru ffotograffig Wcreinaidd lawn neu dros dro. Mae'n debygol y gofynnir iddynt hefyd brofi eu cyfeiriad yn y DU - y ffordd hawsaf o wneud hyn yw trwy ddangos llythyr cofrestru meddyg teulu neu gyfriflen banc yn y DU.

     

    Gellir dechrau cais Credyd Cynhwysol heb rif Yswiriant Gwladol; ond bydd angen hwn cyn y gallant dderbyn taliadau. Gellir cynhyrchu'r rhif hwn fel rhan o'r broses ymgeisio am Gredyd Cynhwysol ond mae hyn yn gofyn am roi atebion i gwestiynau diogelwch dros y ffôn; mae rhai pobl wedi ei chael hi'n haws ac yn gyflymach gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol ar-lein

  • Oes gan fy ngwesteion hawl i deithio am ddim yng Nghymru?

    Dechreuodd cynllun teithio am ddim i ffoaduriaid Llywodraeth Cymru ar 26 Mawrth a bydd yn parhau tan 31 Mawrth 2024, yn amodol ar adolygiad pellach.

     

    Mae'r cynllun yn galluogi teithio diderfyn ar:

    - Holl wasanaethau bysus lleol

    - Gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru

    - Gwasanaethau bysus a threnau Trafnidiaeth Cymru sy'n croesi’r ffin i Loegr os ydynt yn dechrau neu’n gorffen yng Nghymru

    - Mae'r cynllun ar gael i ffoaduriaid sy'n teithio i Gymru yn chwilio am hafan ddiogel

     

    Mae'n ofynnol ar Wladolion o Wcráin ddangos prawf adnabod â llun i fod yn gymwys i deithio am ddim, fel eu pasbort Wcreineg neu gerdyn Trwydded Breswylio Fiometrig.

     

    Mae mwy o wybodaeth am gyngor teithio am ddim i ffoaduriaid ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

  • A fydd y plant a'r bobl ifanc dwi'n eu lletya yn gallu cael addysg?

    Byddant, mae gwybodaeth am wneud cais am ysgolion ym Mro Morgannwg ar gael wefan y cyngor. Dim ond rhieni/gwarcheidwaid all lenwi'r ffurflenni cais. Gall y tîm cymorth helpu i gyfathrebu â'r adran derbyn i ysgolion os oes angen.

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Pa weithgareddau sydd ar gael i’r plant a'r bobl ifanc rwy'n eu lletya?

    Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro yn gallu cynnig gwybodaeth am ofal plant, gweithgareddau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc a chymorth i deuluoedd ym Mro Morgannwg.

     

    Mae Rhaglen Ffoaduriaid a Lloches TGP Cymru yn cynnig dull cyfannol sy'n seiliedig ar hawliau o gefnogi a grymuso pobl ifanc yng Nghymru. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau y gallwch ddarllen amdanynt ar wefan TGP Cymru.

     

    O bryd i'w gilydd mae tîm cymorth Wcráin yn gallu cynnig sesiynau lles creadigol i blant yn ystod y gwyliau. Cysylltwch â ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf. 

  • Sut bydd fy ngwesteion yn cael eu cynorthwyo i ddod o hyd i waith?

    Bydd eich Canolfan Waith leol yn helpu gwesteion i ddod o hyd i waith ac mae gwybodaeth hefyd ar gael ar dudalen swyddi gwefan Noddfa.

     

    Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn galluogi pobl i chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn eu hardal leol.

     

     

     

    Mae gwefan Cyngor Bro Morgannwg  yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli’n lleol.

     

    Mae Cymunedau am Waith y Fro yn cynnal sesiynau CV/cyflogadwyedd ar brynhawn Gwener yn Llyfrgell y Barri 1pm-4pm a hefyd ar ddydd Iau am 3pm. Hefyd mae modd iddyn nhw fod ar gael ar gyfer sesiwn bore Iau os ydych chi’n cysylltu â nhw ymlaen llaw.

     

     

    Gall mentor cyflogaeth gynorthwyo gyda phob agwedd ar ddod o hyd i waith, fel llunio CV a thechnegau cyfweld.  Cysylltwch â ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

     

    Mae Cymru'n Gweithio yn cynnig cyngor, arweiniad a mynediad am ddim i hyfforddiant i helpu pobl i mewn i waith neu i ddatblygu eu gyrfa.

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Pa ddosbarthiadau Saesneg y bydd fy gwesteion yn gallu mynd iddynt?

    Mae Canolfan Ddysgu'r Fro yn cynnig Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill a gall gynghori ar asesu a dosbarthiadau.

     

    REACH+ yw'r hyb a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill mewn dinasoedd ledled Cymru. Mae canolfannau REACH+ yn darparu un pwynt cyswllt canolog i unrhyw un sy'n dymuno mynd i ddosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill.

     

    Mae elusen Ffrindiau a Chymdogion yn cynnal cyfarfodydd wythnosol yn Ne Cymru a thu hwnt sy'n cynnig ffordd gyfeillgar a hamddenol i bobl leol a phobl o bob cwr o'r byd gyfarfod, siarad a gwrando ar ei gilydd.

     

     

     

     

     

    Gallwch hefyd gadw llygad yn eich cymuned am ddosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill anffurfiol neu grwpiau sgwrsio. 

     

     

  • Beth am gymorth iechyd meddwl i fy ngwesteion?

    Mae Straen Trawmatig Cymru wedi datblygu rhestr o adnoddau i bobl y mae’r sefyllfa yn Wcráin wedi effeithio’n benodol arnynt. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys gwybodaeth am C.A.L.L, llinell gymorth iechyd meddwl i Gymru, sydd wedi'i chyfieithu i Wcreineg a Rwsieg.

     

    Fel rhan o'u gwasanaeth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches ifanc, mae TGP Cymru yn rhedeg Prosiect Perthyn sy'n ceisio helpu pobl ifanc i fagu hyder, gwydnwch a 'bod y gorau y gallant fod' trwy gynnig mannau diogel i gwrdd â’i gilydd, dysgu sgiliau newydd, ehangu gorwelion a chyfleoedd i ddeall ac ymgyfarwyddo â systemau a diwylliant yng Nghymru.

     

     

     

     

     

     

  • A oes unrhyw gymorth ychwanegol ar gael i fy ngwestai/ngwesteion?

    Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhai sefydliadau trydydd sector i gefnogi Gwladolion o Wcráin a grwpiau eraill o ffoaduriaid tra’u bod yn byw yng Nghymru, fel rhan o'u hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa. Gall y sefydliadau hyn gynnig cymorth fel gwaith achos unigol, fforymau eiriolaeth a grwpiau cymorth i deuluoedd. Cysylltwch â'r tîm i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth trydydd sector sydd ar gael.

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Beth sy'n digwydd os yw fy ngwestai yn gadael y trefniant lletya dros dro?

    Os yw'r person neu'r teulu rydych chi'n eu lletya yn gadael y trefniant lletya dros dro am fwy na phedair wythnos yn olynol mewn un cyfnod, yna mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol cyn gynted â phosibl gan y bydd eich taliadau "diolch" yn cael eu heffeithio. Gweler arweiniad pellach ar hyn yn yr adran 'Absenoldeb Gwesteion' o fewn Canllawiau i letywyr a noddwyr Cartrefi i'r Wcráin Llywodraeth Cymru 

     

  • Ydw i’n gallu noddi aelodau o deulu fy ngwestai er mwyn gallu eu haduno?

    Er ei bod yn bwysig cefnogi aduniad teuluol lle bynnag y bo hynny'n bosibl, nid yw'n bosibl noddi fisa Gwladolyn Wcráin os na allwch gynnig 6 mis o lety fel man cychwyn (nid yw hyn yn berthnasol i'r trefniant lletya dros dro y sonnir amdano yn nes ymlaen yn y Cwestiynau Cyffredin). Rydym yn ymwybodol o nifer o achosion diweddar lle mae Gwladolion Wcráin wedi cael eu noddi er mwyn cefnogi aduniad teuluol ond ni all y noddwr gynnig unrhyw lety. Os yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn bwriadu ei wneud ac yn sicr bod y Gwladolyn o Wcráin yn gallu ymuno â'u teulu yn eu llety rhentu preifat, ac mae eu landlord wedi cytuno ar hyn ymlaen llaw, yna trafodwch gydag aelod o'r tîm cyn cyflwyno cais am fisa.

     

     

  • Beth os bydd y lletya yn methu?

    Os ydych chi'n ystyried dod â'r trefniant lletya i ben yn gynnar am unrhyw reswm, dylech e-bostio Cyngor Bro Morgannwg yn ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk cyn gynted â phosibl i drafod ymhellach.

     

    Mae Housing Justice Cymru yn cynnig cymorth i letywyr a allai fod yn cael y profiad o letya yn heriol, yn cynnwys gweithdai cymorth i letywyr sy'n darparu lle i rannu profiadau gyda lletywyr eraill a thrafod sut i reoli sgyrsiau anodd.

     

    Os bydd materion yn codi na ellir eu datrys gyda chymorth a bydd rhaid i leoliad ddod i ben, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynorthwyo'r gwestai/gwesteion i adael. Bydd cynnig lletya pellach gyda lletywr gwahanol yn cael ei ystyried fesul achos, ond ar hyn o bryd ychydig iawn o letywyr sydd ar gael yn yr ardal.

     

    Os bydd modd rhoi "rhybudd rhesymol" i'ch gwestai, yna byddai hynny'n cael ei annog er mwyn i’r tîm cymorth allu chwilio am y llety amgen mwyaf priodol.

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Beth sy'n digwydd ar ddiwedd fy nghyfnod noddi/lletya?

    Mae noddwyr wedi ymrwymo i letya pobl o Wcráin am o leiaf chwe mis, ond efallai y byddwch yn dewis parhau y tu hwnt i'r 6 mis cychwynnol os ydych chi a'r person neu'r teulu rydych chi'n eu noddi am barhau â'r trefniant. Bydd pobl o Wcráin yn gallu byw a gweithio yng Nghymru am hyd at dair blynedd a chael budd-daliadau, gofal iechyd, cyflogaeth a chymorth arall. Os ydych chi am ystyried troi'ch trefniant lletya yn drefniant llety mwy ffurfiol, gall y tîm cymorth gynnig mwy o wybodaeth am y broses hon.

     

    Os nad ydych chi’n dymuno parhau â'r trefniant y tu hwnt i chwe mis (neu’n methu gwneud hynny), dylech roi gwybod i'r person neu'r teulu rydych chi'n eu noddi mewn da bryd fel y gallant wneud trefniadau eraill gyda chymorth Cyngor Bro Morgannwg.

     

    Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau cymorth digartrefedd a gallant fynd ati i gefnogi'r gwaith o chwilio am lety amgen i unrhyw berson o Wcráin y disgwylir iddynt fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Mae gan bobl o Wcráin fynediad i arian cyhoeddus, a byddan nhw'n gallu rhentu eiddo fel unrhyw un arall. Os bydd angen, byddant yn gallu hawlio elfen dai y Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai os ydynt dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae gan Rhentu Doeth Cymru wybodaeth ddefnyddiol i denantiaid am rentu eiddo sydd ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru

     

    Cysylltwch â'r tîm ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk os ydych am drafod opsiynau symud ymlaen i'ch gwesteion ymhellach. Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd i gefnogi Gwladolion o Wcráin i ofyn am gyngor, arweiniad a gwybodaeth am eu dewisiadau tai. Mae’r amserau i'w gweld ar wefan Bro Morgannwg

     

     

     

     

     

     

  • A allaf ail-baru fy ngwestai/ngwesteion â lletywr arall?  

    Mae'n rhaid i'r Awdurdod Lleol fod yn ymwybodol o unrhyw drefniadau anffurfiol i ail-baru gwesteion â lletywyr newydd gan fod angen i ni gwblhau gwiriadau diogelu sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a'r DU cyn i ni symud ymlaen. Ni fydd lletywr newydd yn gymwys i dderbyn taliadau "diolch" nes bod y gwiriadau hyn wedi cael eu cynnal yn llwyddiannus.

     

    Cysylltwch â thîm Cymorth i Wcráin cyn gynted â phosibl os ydych wedi nodi lletywr newydd ar gyfer eich gwestai/gwesteion fel y gellir dechrau’r gwiriadau.

     

     

     

     

     

     

     

     

  • A all fy ngwestai/ngwesteion symud i mewn i ddatblygiad Eagleswell Road, Llanilltud Fawr o’r llety dyngarol?

    Mae mwy o wybodaeth a chwestiynau cyffredin am y datblygiad dyngarol yn Eagleswell Road, Llanilltud Fawr ar wefan Bro Morgannwg. Nid oes disgwyl i'r datblygiad gael ei gwblhau tan ddechrau 2024 felly nid yw'n bosibl dyrannu llety ar hyn o bryd gan y bydd angen ystyried hyn fesul achos yn agosach at yr amser y bydd y datblygiad yn barod.

     

     

  • A allaf gynnig lletya dros dro? 

    Ar hyn o bryd, mae Tîm Cymorth i Wcráin Bro Morgannwg yn chwilio am letywyr fyddai'n barod i letya Gwladolion o Wcráin dros dro heb unrhyw ofyniad i ymrwymo i ddarparu llety am 6 mis. Fel arfer, mae angen trefniadau dros dro pan fydd teulu neu aelwyd rhwng diwedd trefniant lletya a symud i eiddo rhentu preifat, os oes newid sydyn mewn amgylchiadau gyda'u trefniant lletya presennol a’i fod wedi dod i ben neu, o bryd i'w gilydd, i gefnogi ailuno teuluoedd. Mae'n dal yn ofynnol i unrhyw un sy'n cofrestru i ddod yn letywr dros dro gael gwiriad eiddo a gwiriad GDG safonol neu uwch yn unol â chynllun lletya Cartrefi i Wcráin. Bydd taliadau "Diolch" yn cael eu cynnig ar y cyfraddau canlynol:

     

    - Hyd at 7 diwrnod o letya: £125

     

     

    - Rhwng 7 a 15 diwrnod o letya: £250

    - 15 diwrnod + o'r mis yn lletya: £500

     

    Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnig trefniant lletya dros dro gysylltu â'r tîm ar e-bost yn ukrainiansupport@valeofglamorgan.gov.uk i ychwanegu eu henw a'u manylion cyswllt at ein cofnodion ynghyd â rhywfaint o wybodaeth am yr ystafell/ystafelloedd y gallant eu cynnig ac unrhyw wybodaeth ddefnyddiol arall, fel a yw'r cartref yn cynnwys anifeiliaid anwes neu ysmygwyr. Os yw'r tîm yn nodi bod angen trefniant lletya dros dro, byddwn yn cysylltu â'r lletywr i weld a allant ddarparu llety ar gyfer rhywun yn ystod y dyddiadau sydd eu hangen ac, os felly, byddwn yn cynorthwyo’r gwaith o sefydlu'r trefniant.

    - Hyd at 7 diwrnod o letya: £125

     

     

    - Rhwng 7 a 15 diwrnod o letya: £250

    - 15 diwrnod + o'r mis yn lletya: £500

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Sut alla i neu fy ngwestai/ngwesteion roi gwybod am drosedd casineb, bwlio neu ddigwyddiad hiliol? 

    Gellir adrodd am Droseddau Casineb drwy wefan Canolfan Cymorth Casineb Cymru. Mae'r dudalen hefyd wedi cael ei chyfieithu i Wcreineg. Gall swyddogion troseddau casineb gael cymorth ieithyddol trwy Language Line fel bod pawb yn gallu cyfathrebu a rhannu eu stori a'r effaith arnynt yn eu hiaith gyntaf. Os oes angen ein cymorth ni arnoch chi gydag unrhyw beth mewn perthynas â rhoi gwybod am Drosedd Casineb, mae croeso i chi gysylltu â ni.

     

    Os yw'n argyfwng, ffoniwch 999 neu 101 ar gyfer unrhyw achosion nad ydynt yn argyfwng.

     

     

  • Beth os hoffai fy ngwestai gael cyngor cyfreithiol ar eu sefyllfa mewnfudo?
     Gall Ukraine Advice Project UK a Here For Good gynnig cyngor am ddim ar fewnfudo a lloches i Wcreiniaid a'u teuluoedd. Ewch i’w gwefannau perthnasol am fwy o fanylion.  

     

    Mae Asylum Justice yn cynnig sesiynau untro yn rhoi cyngor mewnfudo am ddim i Wcrainiaid i'w helpu i ddeall eu statws mewnfudo. 

     

    E-bostiwch s.mcgarrity@asylumjustice.org.uk am fwy o wybodaeth.  

 

Os nad ydych wedi gallu dod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn, siaradwch â'ch gweithiwr cymorth dynodedig neu anfonwch e-bost i:

 

 

Cynllun Teulu Wcráin

Mae Cynllun Teulu Wcráin yn caniatáu i ymgeiswyr ymuno ag aelodau o'r teulu neu ymestyn eu harhosiad yn y DU.

 

Gwneud cais am fisa Cynllun Teulu Wcráin

 

Pwyllgor Argyfyngau

Os ydych am helpu ond na allwch gynnig llety, gallwch gyfrannu at y Pwyllgor Argyfyngau.  Mae'r grŵp hwn o elusennau yn gweithio ar lawr gwlad yn Wcráin a gwledydd cyfagos i ddarparu nwyddau hanfodol, gan gynnwys bwyd, dŵr, cysgod a chymorth meddygol.

 

Dylai pobl sy'n dymuno rhoi cymorth i helpu gydag apêl Wcráin wneud hynny fel rhodd ariannol drwy'r sianeli priodol fel y Pwyllgor Argyfyngau. Dyma'r opsiwn a ffefrir yn hytrach na thrwy wneud rhoddion o nwyddau gan y gall y rhain beri problemau logistaidd.

 

 

Llinell gymorth ar gyfer ceiswyr lloches sy’n cyrraedd y wlad o Wcráin a noddwyr

Mae llinell gymorth bwrpasol wedi'i lansio ar gyfer pobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin ac i bobl sy'n gweithredu fel noddwyr i roi cyngor ac arweiniad.

  • Y rhif i’r rheiny sy’n ffonio o’r DU yw: Rhadffôn 0808 175 1508

  • Ar gyfer galwyr y tu allan i'r DU, y rhif yw: +44 20 4542 5671

 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gefnogi Wcráin, anfonwch e-bost at: