Cost of Living Support Icon

Datblygiad newydd yn Eagleswell Road, Llanilltud Fawr

Mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwaith i ddatblygu oddeutu 90 uned lety dros dro ar safle hen Ysgol Gynradd Eagleswell yn Llanilltud Fawr. Bydd yr unedau'n darparu llety tymor byr o safon uchel i'r rhai mewn angen, fel ffoaduriaid o'r rhyfel yn Wcráin.

 

Dechreuodd gwaith ar y safle yn gynharach yr haf hwn. Mae’r safle (a elwir bellach yn rhifau 1 i 90 Heol Croeso, Llanilltud Fawr, CF61 1AL, wedi cael ei drawsnewid yn llwyr yn ystod yr 16 wythnos ddiwethaf. Mae lefelau’r tir ar draws y safle wedi cael eu lleihau, mae sylfeini'r hen ysgol wedi'u tynnu, ac mae system draenio dŵr wyneb newydd a ffordd fewnol newydd wedi'u gosod. Mae gwaith wedi dechrau yn ddiweddar ar sylfeini'r plot unigol.

 

Bydd y cartrefi modiwlaidd newydd cyntaf yn dechrau cyrraedd y safle ddiwedd 2023. Disgwylir nawr y bydd y cartrefi modiwlaidd newydd yn barod i'w meddiannu ddiwedd mis Mawrth 2024.

 

Gan y bydd y defnydd o'r safle yn mynd y tu hwnt i'r cyfnod o 12 mis a ganiateir o dan yr Hawliau Datblygiad a Ganiateir a ddefnyddiwyd i ddechrau'r gwaith adeiladu, rydym wedi dechrau'r broses i gyflwyno cais cynllunio manwl i ymestyn y defnydd o’r safle ar gyfer llety dros dro.

 

Rhan gyntaf y broses o gyflwyno cais cynllunio yw'r cam ymgynghori cyn ymgeisio statudol ac mae’r ymgynghorwyr cynllunio, Asbri, yn cynnal y broses hon ar ran y Cyngor. Mae manylion pellach mewn perthynas â’r broses ar gael ar wefan Asbri.

 

Ni fydd rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer defnyddio'r safle am gyfnod estynedig yn newid natur y datblygiad a’n bwriad o hyd yw defnyddio'r llety modiwlaidd fel mesur dros dro yn unig. Nid yw'r unedau tai yn adeileddau parhaol, felly gellir eu symud i leoliad arall yn y dyfodol.

 

Rydym dal yn bwriadu dod o hyd i gartrefi amgen addas ar gyfer ffoaduriaid Wcráin ac ni fydd defnydd dros dro o safle hen Ysgol Eagleswell at y diben hwn yn cyfyngu ar y defnydd o'r safle at ddibenion eraill yn y dyfodol.

 

Dyluniadau ar gyfer y datblygiad newydd

Mae'r unedau sy'n cael eu darparu yn cael eu hadeiladu i safonau dylunio llym sy'n rhagori ar lefelau traddodiadol o ran ansawdd. Byddant yn rhan o ddatblygiad deniadol.

 

Gallwch weld y delweddau dylunio a chynllun arfaethedig o’r safle isod. Mae copïau caled o'r delweddau hyn hefyd ar gael i'w gweld yn swyddfeydd Cyngor Tref Llanilltud Fawr.

 

Dyluniadau arfaethedig

 

Cynllun arfaethedig y safle

 

 

 

Cwestiynau Cyffredin

 

  • Pam mae'r Cyngor yn ailgartrefu gwladolion Wcreinaidd?

    Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod Cymru'n 'Genedl Noddfa', gan bwysleisio ei hawydd i helpu i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

     

    Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'r nod hwnnw ac mae ganddo ymrwymiad statudol yn ogystal â moesol, fel sy’n wir am holl Awdurdodau Lleol Cymru, i ddarparu cymorth dyngarol a llety i'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin.

     

    Mae'r Cyngor yn falch ei fod, ers dechrau'r rhyfel, wedi gwneud ymdrech sylweddol i helpu'r rhai mewn angen. Mae nifer mawr wedi cael llety tymor byr mewn Canolfannau Croeso a gwestai, ac mae cannoedd o drigolion y Fro wedi dangos caredigrwydd aruthrol trwy agor eu cartrefi i faciwîs Wcreinaidd.

     

    Gyda'r rhyfel yn Wcráin yn debygol o barhau am beth amser, mae angen llety mwy addas ar y teuluoedd hyn erbyn hyn.  Dyna fydd y cartrefi dros dro yn Llanilltud Fawr yn ei ddarparu.

  • Pa fath o ddatblygiad yw hwn?

    Bydd y safle hwn yn cynnwys 90 uned o lety modiwlar dros dro i'r rhai a fyddai fel arall yn ddigartref, a bydd yn debyg i ystâd nodweddiadol o dai preswyl.

     

    Mae'r unedau wedi eu dylunio ar gyfer teuluoedd.  Bydd cymysgedd o gartrefi un, dwy a phedair ystafell wely.  

     

    Bydd y datblygiad dros dro ar hen safle Eagleswell ond yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cartrefi i deuluoedd Wcrainaidd sydd wedi ffoi o'r rhyfel yn eu mamwlad.  Bydd yn cynnig cartrefi i'r rhai sydd wedi bod yn byw gyda thrigolion y Fro ers 2022. Os bydd llefydd yn parhau yna bydd unedau yn cael eu cynnig i'r teuluoedd hynny sy’n byw yng Nghanolfannau Croeso Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

     

    Nid yw'r unedau hyn yn adeileddau parhaol, felly gellir eu symud i leoliad arall yn y dyfodol. Bydd y datblygiad ar Eagleswell Road yn cael ei ddylunio'n ofalus a'i gyflwyno'n dda.

  • Pam cafodd hen safle Ysgol Gynradd Eagleswell Road ei ddewis?

    Oherwydd ei faint, hen safle Ysgol Eagleswell yw'r unig leoliad sy'n eiddo i Adran Tai'r Cyngor sy'n briodol at y diben hwn. Dyma'r unig safle y gellid ei ddatblygu'n gyflym yn unol â gofynion ariannu ac amserlenni Llywodraeth Cymru ac roedd yn wag.

     

    Defnyddiwyd Hawliau Datblygiad a Ganiateir, sy'n caniatáu datblygu heb angen am ganiatâd cynllunio, i ddechrau'r prosiect hwn. Ystyriwyd bod hynny'n briodol oherwydd yr angen brys i ddarparu cymorth sylweddol ac ystyrlon i'r rhai sy'n dianc o'r rhyfel, rhywbeth y mae'n ofynnol i bob cyngor yng Nghymru ei wneud. 

  • A wnaeth y Cyngor ystyried unrhyw safleoedd eraill?

    Ystyriwyd amrywiaeth o safleoedd eraill, gan gynnwys y rhai a oedd yn eiddo i adrannau eraill y Cyngor ac unigolion preifat, ond Eagleswell Road oedd y mwyaf addas.

     

    Mae'r safle yn eiddo i'r Adran Tai, sef y gwasanaeth sy'n gyfrifol am adsefydlu brys. Mae hefyd o faint digonol i fynd i'r afael yn sylweddol ag anghenion llety'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

     

    Mae Eagleswell Road mewn ardal drefol ac yn agos at wasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth. Mae gan y safle eisoes gyfleusterau fel cyflenwad dŵr a thrydan a system ddraenio, sy'n golygu y gellir ei ddatblygu'n gyflym.

  • Pa mor hir bydd hyn yn aros fel llety dros dro?

    Gan nad yw hi'n glir pa mor hir y bydd y rhyfel yn Wcráin yn para, nid oes modd dweud yn bendant pa mor hir y bydd angen yr unedau llety. Nid yw'n hysbys chwaith pa mor hir y bydd yn cymryd ar ôl i’r gwrthdaro ddod i ben i'r wlad sefydlogi ac i wladolion gael mynd adref.

     

     

    Gan y bydd y defnydd o'r safle yn mynd y tu hwnt i'r cyfnod o 12 mis a ganiateir o dan yr Hawliau Datblygiad a Ganiateir a ddefnyddiwyd i ddechrau'r gwaith adeiladu, rydym wedi dechrau'r broses i gyflwyno cais cynllunio manwl i ymestyn y defnydd o’r safle ar gyfer llety dros dro.

  • Wnaethoch chi ystyried yr effaith ar wasanaethau lleol?

    Mae'r safle hwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer tai preswyl o dan Gynllun Datblygu Lleol y Cyngor. Wrth ei asesu at y diben hwn, ystyriwyd tystiolaeth ynglŷn â chynaliadwyedd gwasanaethau lleol. Yn sgil hyn, mae'r safle wedi cael ei ystyried yn briodol at ddibenion preswyl.

     

    Mae nifer o'r plant fydd yn symud i'r safle eisoes yn mynychu'r ysgol ym Mro Morgannwg.  Mae'n debyg y bydd llawer yn dewis aros yn eu hysgol bresennol.  Mae xxx o lefydd ysgol ar gael ar hyn o bryd yn ardal Llanilltud sy'n debygol o fod yn fwy na digon i'r teuluoedd hynny sy'n symud i'r Fro. 

     

    Cydnabyddir bod pryderon yn Llanilltud Fawr am lefel y gwasanaethau lleol, yn enwedig cyfleusterau iechyd, ac yn hyn o beth bydd sgyrsiau pellach ar reoli effaith y datblygiad yn parhau dros yr wythnosau nesaf pan fydd manylion yr union ofynion ar gyfer addysg a darpariaeth arall yn dod yn amlwg.

  • A fydd cymorth ar gael i'r meddianwyr?
    Mae gan y Cyngor dîm penodol o Weithwyr Cymorth ac Arbenigwyr Rheoli Tenantiaeth a fydd yn gweithio gyda thrigolion Wcreinaidd i'w helpu i gael mynediad i wasanaethau, cymorth a chyfleoedd gwaith.
  • Sut bydd y cynllun yn cael ei ariannu?

    Bydd y cynllun yn cael ei ariannu trwy Gynllun Busnes Tai y Cyngor a chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
  • Faint o amser bydd hi'n ei gymryd i gwblhau gwaith ar y safle?
    Dechreuodd gwaith ar y safle yn gynharach yr haf hwn. Bydd y cartrefi modiwlaidd newydd cyntaf yn dechrau cyrraedd y safle ddiwedd 2023. Disgwylir nawr y bydd y cartrefi modiwlaidd newydd yn barod i'w meddiannu ddiwedd mis Mawrth 2024.
  • Beth fydd yn digwydd i’r safle yn y dyfodol?

    Pan na fydd angen y llety brys mwyach bydd yr unedau dros dro yn cael eu symud a bydd y safle ar gael i'w ddatblygu.

     

    Mae'r safle wedi’i ddyrannu ar gyfer datblygu tai yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol ac mae unrhyw ddefnydd yn y dyfodol yn debygol o gynnwys datblygiad preswyl. 

     

    Cafwyd trafodaeth hefyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynglŷn â'r defnydd o ran neu'r cyfan o'r safle ar gyfer canolfan iechyd newydd ar gyfer Llanilltud Fawr.  Bydd y trafodaethau hyn yn parhau a bydd unrhyw ddatblygiad parhaol o'r safle'n destun ymgynghoriad cyhoeddus.