Cost of Living Support Icon

Prosiect Bioamrywiaeth Gwenog Court

Mae Cartrefi'r Fro a Phartneriaeth Natur Leol Bro Morgannwg yn ymuno i lansio prosiect pontio'r cenedlaethau sy'n gweithio gydag Ysgol Gynradd yr Holl Seintiau a thrigolion cynllun tai gwarchod Gwenog Court i gynyddu Bioamrywiaeth a gwella'r mannau gwyrdd lleol.

 

Mae Partneriaeth Natur Leol y Fro (PNL) wedi llwyddo i dderbyn cyllid grant ar gyfer 2021/2022 gan Gronfa Gyfalaf Llywodraeth Cymru - 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur'.

 

gwenog court 3
vog_lnp_valehomes partnership logos

 

Bydd y gronfa yn galluogi PNL y Fro i gyflawni prosiectau sy'n anelu at adfer a gwella natur lle mae pobl yn byw, gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

 

Gan weithio mewn partneriaeth â thimau Cyfoethogi Cymunedau a Rheoli Cymdogaethau Cartrefi'r Fro, rydym yn bwriadu datblygu prosiect bioamrywiaeth ar dir Gwenog Court, datblygiad tai gwarchod yn y Barri sy'n cefnogi 87 o drigolion.

 

Ochr yn ochr â'r cyngor, bydd Ysgol Gynradd yr Holl Seintiau hefyd yn rhan o'r prosiect gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyswllt rhwng cenedlaethau. Ar hyn o bryd, nid oes gan y tiroedd fawr ddim i'w gynnig i'r trigolion, y disgyblion na'r gymuned leol. Drwy broses ddylunio sy’n codi o’r gymuned, ein nod yw gwneud yr ardal hon yn un flaenllaw o'r hyn y gellid ei gyflawni ar gyfer bioamrywiaeth a thrigolion sy'n byw yn y Fro.

"Rydym wrth ein boddau o dderbyn y gefnogaeth hon trwy grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn gyfle cyffrous i'r trigolion a'r gymuned leol gael mynediad i fyd natur ac ymgysylltu ag ef ar garreg eu drws."

 - Emily Shaw, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol 

gwenog court1c
gwenog court2

Mannau gwyrdd o amgylch Gwenog Court

 

Nod y prosiect yw cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r gymuned leol fwynhau natur ac ymgysylltu â hi mewn lleoliad trefol, yn ogystal â chefnogi lles cymdeithasol, corfforol a meddyliol. O'r dechrau i'r gweithredu, bydd y trigolion a'r ysgol leol yn gweithio'n agos gyda phenseiri tirlunio, Soltys Brewster, i gyflawni gweledigaeth sy'n ystyriol o bobl a natur.

 

"Mae trigolion Gwenog Court yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut bydd y prosiect hwn yn datblygu. Bydd yn helpu i leihau allgáu cymdeithasol ac unigedd gan y bydd cyfleoedd i'r trigolion gael mynediad i'r awyr agored lle gallant gwrdd â’i gilydd a mwynhau natur yn y gymuned y maent yn byw ynddi".

 

 - Dwedodd Mark Ellis, Swyddog Cyfoethogi a Chynnwys Cymunedau

Prosiect PNL Cymru

Rydym yn un o 23 o Bartneriaethau Natur Lleol ledled Cymru sy'n ymwneud â phrosiect PNL Cymru a gydlynir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae ein PNL yn rhan o rwydwaith Cymru gyfan i warchod, hyrwyddo a gwella natur yn ein hardal leol. 

 

Mae pob awdurdod lleol ledled Cymru yn rhan o'r prosiect sy’n galluogi pob partneriaeth ledled Cymru i gydweithio i sicrhau newid ystyrlon ac wedi'i dargedu yn unol â nodau Llywodraeth Cymru ac amcanion polisi adfer natur.

Ein cenhadaeth yn y Fro yw ailgysylltu pobl o bob rhan o'r sir â byd natur. Drwy weithio mewn partneriaeth, rydym yn ceisio ymgysylltu â'r cyhoedd, grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol, yn ogystal ag ysgolion a busnesau i gymryd rhan yn gweithredu dros natur yn eu cymunedau.

 

www.biodiversitywales.org.uk/Bro-Morgannwg