Cost of Living Support Icon

Cydnabyddiaeth a Choffáu

Adolygiad o gerfluniau, henebion, enwau strydoedd ac enwau adeiladau - ac awgrymiadau ar gyfer coffáu yn y dyfodol.

 

Ar draws Bro Morgannwg mae enwau coffaol ar strydoedd ac adeiladau, placiau, cerfluniau a henebion.

 

Mae’r Cyngor wrthi’n rhagweithiol yn adolygu’r holl gerfluniau a’r coffadwriaethau, gan gynnwys enwau strydoedd, adeiladau cyhoeddus a phlaciau, ym Mro Morgannwg. Bydd y gwaith hwn yn digwydd er mwyn sicrhau bod cerfluniau a choffadwriaethau ar dir cyhoeddus, yn ogystal ag enwau strydoedd ac adeiladau i’w hadolygu, yn cynrychioli gwerthoedd pobl leol a rhai Cyngor modern a chynhwysol. Ar yr un pryd, mae'r Cyngor yn gwahodd awgrymiadau ar gyfer pobl a digwyddiadau y gellid eu cydnabod neu eu coffáu yn y dyfodol. 

 

Cyflwyno Coffadwriaeth i’w Hadolygu

Yn ystod 2020, tynnodd y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys sylw’r byd at faterion pwysig yn ymwneud â hiliaeth barhaus sy’n bodoli yn y byd. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cynnwys manylion o’r camau gweithredu gwrth-hiliaeth sydd ar y gweill neu wedi’u cynllunio. Fodd bynnag mae’n glir bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â hiliaeth.

 

Mae adolygiad y Cyngor o gerfluniau, henebion, enwau strydoedd ac adeiladau yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys mynd i'r afael â hiliaeth, yn ogystal â sicrhau bod amrywiaeth ein holl gymunedau yn cael ei adlewyrchu'n briodol.

 

Os ydych wedi gweld coffadwriaeth rydych chi’n credu y dylai gael ei hadolygu er mwyn sicrhau ei bod yn briodol, llenwch ffurflen ar-lein. Sicrhewch eich bod yn cynnwys lleoliad a rheswm dros adolygu.

 

Cyflwyno Coffadwriaeth i’w Hadolygu

 

Awgrymu Person/Digwyddiad i'w Goffáu

Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried dathlu'r cymunedau amrywiol ym Mro Morgannwg yn y dyfodol.

 

Os hoffech enwebu person neu ddigwyddiad i'w goffáu, llenwch y ffurflen ar-lein isod. Sicrhewch eich bod yn cynnwys yr enw a'r rheswm dros goffáu.  

 

Awgrymu Person/Digwyddiad i'w Goffáu

 

Hysbysiad Preifatrwydd.