Cost of Living Support Icon

Codi Llais

Mae codi’ch llais neu 'chwythu'r chwiban' yn cael effaith gadarnhaol ar y sefydliad, gan ddiogelu cyllid ac enw da'r Cyngor tra'n cadw cydweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel.

 

Polisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor

Mae polisi chwythu'r chwiban y Cyngor yn croesawu'r holl bryderon gwirioneddol ac yn trin materion a adroddwyd o ddifrif.

Mae'r polisi yn esbonio:

  • Sut i fynegi pryder

  • Y mathau o weithgarwch y dylid rhoi gwybod

  • Yr amddiffyniad y mae'r Cyngor yn ei ddarparu

  • Cyfrinachedd

  • Ymateb y Cyngor

  • Sut i fynd â materion ymhellach, os oes angen

Polisi Chwythu'r Chwiban

Eich Diogelwch

Mae polisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor yn caniatáu i chi godi pryder mewn modd cyfrinachol.

 

Mae'r polisi'n sicrhau nad yw'r rhai sy'n dewis codi eu llais yn cael eu herlid na'u diswyddo am godi eu pryderon.

 

Mae'r rhai sy'n dewis codi eu llais wedi'u diogelu'n gyfreithiol a bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw eich enw'n cael ei ddatgelu heb eich caniatâd.

 

Gallwch ddarllen mwy am yr amddiffyniad cyfreithiol a roddir i chwythwyr chwiban ar dudalen 5 o Bolisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor. 

Pryd i Godi Llais

Dylech godi llais pan fydd gennych bryder gwirioneddol am gamymarfer, megis:

  • Ymddygiad sy’n drosedd neu sy’n torri’r gyfraith

  • Torri ein Cod Ymddygiad ar gyfer staff neu Gynghorwyr

  • Cam-drin rhywiol, corfforol neu eiriol tuag at gleientiaid, gweithwyr, contractwyr neu'r cyhoedd

  • Gweithdrefnau peryglus sy'n peryglu iechyd a diogelwch cleientiaid, cyflogeion, contractwyr neu'r cyhoedd

  • Defnydd anawdurdodedig o arian cyhoeddus

  • Amheuaeth o dwyll neu lygreddn

  • Difrod i'r amgylchedd (e.e. tir, adeiladau, priffyrdd, dŵr, aer, gwastraff, ynni, trafnidiaeth, cynefin naturiol ac ati)

  • Ymddygiad anfoesegol neu amhriodol

  • Gwasanaethau sy'n disgyn yn ddifrifol is na safonau neu arferion cymeradwy

  • Methiant i ddilyn polisïau a gweithdrefnau'r Cyngor

Sut i Godi Llais

Rhowch wybod am eich pryderon yn gyfrinachol gan ddefnyddio'r ffurflen Codi Llais ar-lein, dros e-bost neu dros y ffôn.

  • speakout@valeofglamorgan.gov.uk
  • 01446 731115

 

Ffurflen ar-lein Codi Llais