Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae gan y pedwar awdurdod wariant blynyddol cyfunol o dros £1 biliwn, a nod y bartneriaeth yw darparu caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol i bob partner trwy gyfrwng adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd a rennir.
Wrth bwyso a mesur cynigion, maent yn cael eu hystyried naill ai ar sail y mwyaf manteisiol yn economaidd, o ran ansawdd a phris, neu ar sail y pris isaf, yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei brynu. Anogir rhai sydd â diddordeb mewn cyflenwi'r Cyngor i gofrestru ar y wefan gaffael genedlaethol GwerthwchiGymru, lle ceir hysbysebion am anghenion caffael y Cyngor.
Mae’r Cyngor hefyd yn rhan o gytundebau fframwaith a sefydlwyd gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS). Hysbysebir cyfleoedd busnes NPS hefyd ar wefan gwerthwchigymru.
GwerthwchiGymru
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i egwyddorion Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a dileu caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Rydym wedi cyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl sy'n nodi ein hymrwymiadau i sicrhau nad oes lle i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ein cadwyni busnes a chyflenwi:
Browser does not support script.