Cost of Living Support Icon

Parcio mewn Parciau Gwledig

Gwybodaeth a phrisiau am barcio yn Mharciau Gwledig  Llynnoedd Cosmeston a Phorthceri ym Mro Morgannwg

 

Codir tâl am barcio bob dydd rhwng 9am a 10pm

 

Parking tariffs
 Math y cerbydHydTariff
Ceir Hyd at 1 awr £1
  Hyd at 2 awr £2
  Hyd at 4 awr £4
  Drwy’r Dydd £5
 Bysys/coetsis Drwy’r Dydd £30

 

Sylwer: Ni fydd ffioedd na chyfyngiadau amser ar gyfer pobl anabl sy’n arddangos eu bathodyn glas yn gywir.  Yn yr un modd, ni fydd taliadau ar gyfer beiciau modur unigol.

 

Sut i Dalu

Gellir gwneud taliadau am barcio drwy ddarnau arian, talu dros y ffôn, drwy neges destun, drwy ffôn clyfar neu sglodyn a phin digyffwrdd.

 

  • Talu ag Arian Parod (Dim papur)

    Nid yw’r holl beiriannau Talu ac Arddangos ym Mro Morgannwg yn derbyn arian papur. Sicrhewch eich bod yn rhoi'r arian cywir gan nad yw'r peiriannau parcio yn rhoi newid.

     

    • Rhowch Rif Cofrestru’ch Cerbyd 

    • Rhowch yr arian i mewn am y cyfnod parcio

    • Pwyswch y Botwm Gwyrdd am y tocyn, a rhowch y tocyn wyneb i fyny ar y dashfwrdd

  • Talu dros y Ffôn

    Ta

    Gallwch lawrlwytho’r app o www.paybyphone.co.uk, Google Play a’r Apple App Store. Mae’r app yn cynnwys map sy’n galluogi gyrwyr i ddod o hyd i le parcio cyn iddynt adael ar eu taith.

     

    Gall gyrwyr binio lleoliad eu cerbyd i’r map ar ôl parcio ac mae’r nodwedd parcio cyfagos yn rhoi’r rhif lleoliad parcio PayByPhone agosaf.

     

    Apple-Store
    google-play

Tocynnau Parcio Tymor 

Mae tocynnau tymor ar gael i ymwelwyr rheolaidd â'n parciau gwledig.  

  • £30 am 6 mis
  • £50 am 12 mis

Gellir defnyddio tocynnau tymor parciau gwledig ym mharciau gwledig Cosmeston a Phorthceri.

 

I wneud cais ar-lein, dewiswch ‘Incwm Arall’, ‘Trwyddedau Parcio Arfordir a Gwlad’ a’ch trwydded ddewis:

 

Gwneud cais ar-lein

 

Sylwer: Ar hyn o bryd rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau am drwyddedau tymhorol, bydd trwyddedau'n cael eu postio atoch unwaith y byddant wedi'u prosesu. Bydd trwydded yn benodol ar gyfer cerbyd penodol, ni fydd modd ei throsglwyddo, ac ni fydd gwerth ariannol iddi.