Cost of Living Support Icon

Troseddau Bywyd Gwyllt

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn aelod o’r Bartneriaeth Weithredu i Atal Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt (PAW).

 

Mae PAW yn dod â llawer o’r sefydliadau sydd â diddordeb mewn gorfodi cyfreithiau diogelu bywyd gwyllt ynghyd. Ymhlith yr aelodau mae adrannau’r llywodraeth ganolog, yr heddlu, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a chyrff gwirfoddol.

 

Mae aelodau PAW yn ymrwymo i ostwng lefelau troseddau yn erbyn bywyd gwyllt drwy godi ymwybyddiaeth a hyrwydd gorfodaeth y cyfreithiau perthnasol.

 

Mae cyfrifoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg i geisio arbed troseddau yn erbyn bywyd gwyllt. Mae tîm ecoleg y Cyngor yn helpu i gyflawni hyn drwy gynnig cyngor i’w swyddogion a chyflwyno argymhellion ar rywogaethau a chynefinoedd a warchodir i’r adran Rheoli Datblygu.

 

Drwy Gynllun Gweithredu’r Bartneriaeth Bioamrywiaeth Leol, mae Cyngor Bro Morgannwg yn helpu i ddiogelu rhywogaethau prin a’r rhai sydd o dan fygythiad, ac yn gweithio i reoli ac adfer safleoedd sy’n bwysig i gynnal bywyd gwyllt.

 

Gwefan PAW 

 

 

Gellir rhannu troseddau bywyd gwyllt yn dri math cyffredinol:

  • Y fasnach anghyfreithlon mewn anifeilaid sydd mewn perygl

    Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i CITES (y Cytundeb ar Fasnach Ryngwladol Rhywogaethau mewn Perygl). Mae hyn yn rheoleiddio masnach yn achos mwy na 33,000 o rywogaethau er mwyn amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o fynd i’w tranc neu a allai ddiflannu’n gyfan gwbl yn y dyfodol agos.

  • Troseddau sy'n ymwneud â rhywogaethau brodorol

    Yn y DU, ceir ystod o ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn llawer o rywogaethau a chynefinoedd rhag niwed neu aflonyddwch neu fasnach.

     

    Mae hyn yn cynnwys aflonyddu ar neu ddifrodi rhywogaethau syn cael eu hamddiffyn megis ystlumod a madfallod cribog, ac aflonyddu ar adar sy’n nythu a chasglu wyau. 

  • Creulondeb ac erlyniad rhywogaethau bywyd gwyllt

    Mae deddfwriaeth benodol yn ei lle yn y DU i amddiffyn rhywogaethau megis moch daear a cheirw, ac yn ogystal, un sy’n datgan ei bod yn drosedd o beri dioddefaint i anifeiliaid gwyllt drwy gyflawni gweithredoedd penodol. 

Tystio i Drosedd yn erbyn Bywyd Gwyllt

Os ydych yn dyst i drosedd o’r fath, cysylltwch â’r heddlu lleol a gofyn i siarad â’r Swyddog Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt a’r Amgylchedd. 

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn rhif achos bob tro. 

 

  • 101