Cost of Living Support Icon

Making space for nature banner CY

 

Creu lle ar gyfer byd natur

Mae colli glaswelltiroedd llawn blodau gwyllt a’r bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal yn fater o bryder i'r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth drwy wneud lle i fyd natur ym Mro Morgannwg.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn rheoli swmp sylweddol o laswelltir. Mae gennym gyfle i adfer a gwella’r glaswelltiroedd hyn fel cynefin i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall. Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy ein dull newydd o reoli ymylon ffyrdd a glaswelltir yn y Fro. Mae'r dull newydd hwn yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd wrth i adnoddau ganiatáu. Mae'n ymhelaethu ar y Cynllun Cadwraeth Ymylon Ffyrdd ac yn cysylltu â Rhwydweithiau Gwyrdd.

 

Sut y byddwn yn gwneud lle i fyd natur ym Mro Morgannwg

  • Byddwn yn cynyddu maint y glaswelltir blodau gwyllt i annog pryfed peillio a bywyd gwyllt arall. Byddwn yn creu lle i laswelltir blodau gwyllt ar ymylon ffyrdd a reolir, parciau a'r dolydd mwy o faint

  • Byddwn yn ffafrio newid y ffordd o reoli hadu neu blannu lle bo modd. Bydd hyn yn annog y storfa hadau brodorol i ffynnu heb gyflwyno rhywogaethau estron neu rywogaethau na fyddent yn digwydd yn naturiol yn yr ardal leol

  • Byddwn yn dosbarthu pob ymyl ffordd ym Mro Morgannwg i un o’r categorïau canlynol: (i) Torri gwair ar gyfer Amwynder, (ii) Torri gwair er lles Cadwraeth a (iii) Llain Welededd

  • Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd glaswelltiroedd llawn rhywogaethau ar gyfer bioamrywiaeth ac ar gyfer iechyd a llesiant pobl

 

 

Cynlluniau a pholisïau

Mae’r cynlluniau canlynol yn dylanwadu ar sut y byddwn yn gwneud lle i fyd natur ym Mro Morgannwg.

 

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: