Cost of Living Support Icon

Making space for nature banner CY

 

Y buddion

 

Ecosystem-Services-Hoverflies-Eristalsis-arbustorum

Gwasanaethau ecosystemau

Mae dolydd blodau gwyllt yn ecosystemau cyfoethog ac amrywiol sy’n bwysig ar gyfer darparu “gwasanaethau ecosystem” hanfodol”. Maent yn cefnogi poblogaethau sy’n prinhau o bryfed peillio sy’n hanfodol ar gyfer peillio ein cnydau bwyd. Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau allweddol eraill fel rheoli plâu yn naturiol ac mae priddoedd dolydd iach yn gweithredu fel dalfeydd carbon mawr gan helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd a hybu gwasanaethau ecosystem eraill.

 

Wellbeing-and-People-Field-with-flowers

Iechyd corfforol, meddyliol a llesiant pobl

Mae mynediad at natur ar garreg eich drws yn gysylltiedig â buddion gwybyddol a gwelliannau mewn llesiant meddyliol a chorfforol. Mae tystiolaeth wedi dangos y gall edrych ar ddôl blodau gwyllt am ddim ond chwe eiliad ostwng eich pwysedd gwaed a gwneud i chi deimlo'n hapusach! 

 

 

Biodiversity-Scarlet-Waxcap

Mwy o fioamrywiaeth

Mae dolydd blodau gwyllt yn un o'n cynefinoedd pwysicaf a mwyaf bioamrywiol yn y DU. Gall glaswelltiroedd llawn rhywogaethau gynnal amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt gan gynnwys blodau gwyllt, ffyngau, infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid, mamaliaid bach, ystlumod ac adar. Mae un rhan o bump o'r holl rywogaethau â blaenoriaeth ar gyfer cadwraeth yn y DU yn gysylltiedig â chynefinoedd glaswelltir

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: