Cost of Living Support Icon

Making space for nature banner CY

 

Pam mae ecosystemau glaswelltir yn bwysig?

Mae glaswelltiroedd llawn rhywogaethau yn un o’n cynefinoedd pwysicaf yn y DU. Maent yn cynnal amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt gan gynnwys blodau gwyllt, ffyngau, infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid, mamaliaid bach, ystlumod ac adar. Mae un rhan o bump o'r holl rywogaethau â blaenoriaeth ar gyfer cadwraeth yn y DU yn gysylltiedig â chynefinoedd glaswelltir.

 

Cymerodd tua 6,000 o flynyddoedd i greu’r glaswelltir llawn rhywogaethau y mae’r DU yn enwog yn fyd-eang amdano. Ers y 1930au rydym wedi colli 97% ac mae hyn y parhau i ddigwydd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd chwe miliwn erw o laswelltir ei aredig i dyfu cnydau, ac roedd hyn yn ddechrau proses lle byddem yn gweld dolydd yn lleihau.

 

Mae colli cynefinoedd yn sbardun mawr i ddirywiad rhywogaethau ac mae colli cynefin dolydd wedi cael effaith drychinebus ar bryfed peillio

 

Mae’r DU yn gartref i rai o laswelltiroedd ffyngau cap cwyr pwysicaf y byd, gyda dros hanner o'r rhain i'w gweld yng Nghymru. Er hynny, mae llawer o'r rhywogaethau hyn yn prinhau o ganlyniad i golli cynefinoedd a newidiadau i'w hamgylchedd. Mae'n bwysig cadw glaswelltiroedd llawn ffyngau oherwydd unwaith y cânt eu colli, maent yn cael eu colli'n llwyr gan na ellir byth eu hadfer.

 

Drwy weithredu trefn reoli newydd sy’n fwy cydnaws â bioamrywiaeth, gallwn adfer a gwella’r glaswelltiroedd hyn fel cynefin i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall ledled Bro Morgannwg.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: