Cost of Living Support Icon

Making space for nature banner CY

 

Ynglŷn ag ecosystemau glaswelltir

 

Beth yw ecosystemau glaswelltir?

Nid oes dwy ddôl yr un fath, ond mae dolydd blodau gwyllt bob amser yn gynefinoedd sy'n isel o ran maethynnau. Maent yn ffynnu ar briddoedd sy'n isel mewn nitradau, ffosfforws a photasiwm, ac mae'r planhigion sy'n byw yno wedi esblygu i ffynnu yn yr amodau maethynnau isel hyn.

 

Mae priddoedd llawn maethynnau yn tueddu i ffafrio rhywogaethau mwy bras o blanhigion a all fygu rhai o’n blodau gwyllt llai cystadleuol gan arwain at lai o fioamrywiaeth.

 

Mae cynefinoedd glaswelltir sy'n gyfoethog mewn rhywogaethau yn rhai lled-naturiol, sy'n golygu bod angen eu rheoli'n barhaus gan bobl a/neu lysysyddion i atal y broses naturiol o olyniaeth llystyfiant.

 

Mae rheoli trwy dorri gwair, ei bori a thorri gwair yn hanfodol i gynnal strwythur, cydbwysedd ac amrywiaeth mewn glaswelltir.

 

Os nad yw'n cael ei reoli, mae'r glaswelltir yn mynd yn fras ac yn drwchus (wedi'i gyfoethogi â maethynnau), gan golli ei amrywiaeth a'i natur ddiddorol, ac yn y pen draw bydd yn troi'n brysgwydd neu'n goetir.

 

Mae’r dull o reoli a ddefnyddir yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad, y pridd a'r rhywogaethau sy’n bresennol:

 

Grassland Management - Conservation Grazing

Pori er Lles Cadwraeth

Grassland Management - Machinery

Peiriannau

Grassland Management - Scything Pladuro

 

Yn y Fro, mae gennym nifer o wahanol gynefinoedd glaswelltir, gan gynnwys glaswelltir calchaidd, niwtral, asid a chorsiog.

 

Er mwyn sicrhau bod gan laswelltir blodau gwyllt amrywiaeth fawr o rywogaethau, mae angen cael gwared ar y sgil-gynhyrchion (y deunydd wedi’i dorri) ar ôl ei dorri er mwyn sicrhau nad yw’r maethynnau’n dychwelyd i’r pridd ac mae angen gadael y glaswelltir i flodeuo am y tymor blodeuo cyfan nes bydd yr hadau wedi disgyn.

 

Unwaith y bydd y tymor blodeuo wedi'i dod i ben, bydd y glaswelltir yn cael ei dorri a'i gasglu gan ddefnyddio peiriannau arbenigol a bydd yn cael ei gadw'n isel dros y gaeaf i atal glaswellt marw a maethynnau rhag cronni yn y pridd. Mae cadw'r glastir yn borfa isel hefyd yn fuddiol i ffwng glaswelltir.

 

Gellir pentyrru’r sgil-gynhyrchion yn domenni compost bach gan gynnig lloches a man bwydo i rywogaethau eraill fel chwilod, draenogod, nadroedd y gwair, nadroedd defaid, mamaliaid bach, ystlumod ac adar.

 

Fel arall, gellir ei fyrnu fel gwair i ffermwyr neu fel gwair gwyrdd i greu dolydd newydd mewn mannau eraill yn y Fro.

Dros y gaeaf, bydd rhai ardaloedd yn cael eu gadael heb eu torri er mwyn darparu safleoedd gaeafu ar gyfer infertebratau, adar, amffibiaid a mamaliaid fel draenogod.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: