Cost of Living Support Icon

Making space for nature banner CY

 

Pori er lles cadwraeth yn y parciau gwledig

Mae Cyngor Bro Morgannwg a Phartneriaeth Natur Leol y Fro yn cydweithio i gyflwyno pori er lles cadwraeth ym Mharciau Gwledig Porthceri a Llynnoedd Cosmeston i wella cyflwr y glaswelltir. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y cyngor i reoli mannau gwyrdd sy'n eiddo i awdurdodau lleol yn well ar gyfer bioamrywiaeth.

 

Pori Cadwraeth Cosmeston

 

Conservation Grazing Map - Cosmeston

Pori Cadwraeth Porthceri

 

Conservation Grazing Map - Porthkerry

 

Mae dolydd yn gynefinoedd lled-naturiol ac angen gwaith rheoli parhaus. Mae pori er lles cadwraeth yn ymwneud ag adfer cynefinoedd sydd wedi’u difrodi yn lleoedd sy’n gyfoethog mewn amrywiaeth naturiol, gan ddefnyddio gwartheg, defaid neu geffylau. Yn y gorffennol, byddai tir wedi ei bori gan anifeiliaid gwyllt, neu gael ei reoli drwy arferion ffermio traddodiadol.

 

Ers y 1930au rydym wedi colli dros 97% o'n glaswelltiroedd llawn blodau gwyllt trwy ddwysáu amaethyddol a datblygu dynol. Bydd cyflwyno llysysyddion fel defaid a gwartheg i bori ein dolydd yn helpu i gyfyngu ar y dirywiad hwn.

 

Ariennir y prosiect Pori er lles Cadwraeth gan gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Cydlynir y grant gan Bartneriaeth Natur Leol y Fro sy’n gweithio gyda thîm Cefn Gwlad Cyngor Bro Morgannwg i gyflawni’r prosiect hwn. 

 

Conservation-grazing-sign

 

  • Pam ydych chi'n ffensio rhannau o'r parc gwledig?

    Ein nod yw creu ardaloedd pori er lles cadwraeth o fewn y parciau gwledig er mwyn gwella bioamrywiaeth. Yn hanesyddol byddai anifeiliaid gwyllt brodorol yn pori ac arferion traddodiadol yn cynnal amrywiaeth strwythurol y llystyfiant.

  • A fydd gan y cyhoedd fynediad i'r safle o hyd?

    Bydd. Bwriad dyluniad y ffens yw caniatáu i bobl gael mynediad i bob man. Bydd pwyntiau mynediad â gatiau yn cael eu lleoli o amgylch ffin y ffens, fel nad yw pobl yn cael eu rhwystro rhag mynd i'r ardal a'i mwynhau. Gofynnwn bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn pan fo anifeiliaid yn y caeau.

  • Beth am yr effaith weledol?

    Rydym yn deall pryder pobl o ran yr effaith weledol y gallai gosod ffensys ei chael ar yr hyn sydd fel arall yn dirwedd agored, a chymerwyd pob gofal i leihau hyn. Bydd pwyntiau mynediad i'r ardaloedd pori a bydd gatiau'n cael eu gadael ar agor tra nad oes da byw yn yr ardaloedd hyn.

  • Beth am ddiogelwch y cyhoedd o amgylch da byw peryglus?

    Er ein bod am i'r cyhoedd barhau i ymweld â'r safleoedd a'u mwynhau os oes anifeiliaid yn pori yno, mae angen i ni reoli unrhyw risg yn unol â hynny. O'r cychwyn cyntaf byddwn yn gosod arwyddion ym mhob mynedfa i'r safle i hysbysu pobl bod anifeiliaid yno'n pori, ac i'w hysbysu o'r hyn i'w wneud a beth i beidio ei wneud pan fyddant yno. Mae’n bwysig gwneud y cyhoedd yn ymwybodol nad anifeiliaid anwes yw’r anifeiliaid, ond anifeiliaid lled-ddomestig.

     

    Bydd dwysedd nifer y da byw ar y safleoedd yn eithaf isel ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau bydd y da byw yn symud i ffwrdd o'r mannau cyhoeddus os aflonyddir arnynt. Ni fyddwn yn cadw anifeiliaid risg uchel fel buchod gyda lloi, teirw neu feirch ar y safle.

  • Pa fath o anifeiliaid fydd yn pori ar y safle?

    Bydd gwartheg a defaid yn cael eu defnyddio i bori'r safle. Byddwn yn defnyddio porfelwr lleol a fydd yn cytuno i bori pan fydd angen er mwyn i ni allu monitro effaith y da byw yn yr ardaloedd a sicrhau eu bod yn cael yr effaith a ddymunir. Mae'n debyg mai dim ond defaid fydd yn cael eu defnyddio ym Mhorthceri.

  • Sut mae gwartheg a defaid yn helpu bywyd gwyllt?

    Pan ganiateir i dda byw bori'n rhydd maent yn dewis gwahanol blanhigion, a hyd yn oed gwahanol rannau o'r planhigyn, i'w cnoi neu eu pori. Dros amser, mae'r bwyta detholus hwn gan yr anifeiliaid yn creu strwythur amrywiol o fewn y cynefin. Dyma sy'n helpu i greu'r amodau cywir i amrywiaeth eang o bryfed, adar, ymlusgiaid, mamaliaid a phlanhigion fodoli.
  • Beth yw'r opsiynau eraill?

    Heb allu pori, yr unig opsiynau fyddai torri'r gwair neu ei losgi. Mae'r ddwy dechneg hyn yn achosi newid cyflym a dramatig i gynefinoedd ac yn gadael strwythur unffurf ar ôl. Ni all dulliau mecanyddol efelychu'r amodau unigryw y mae anifeiliaid yn eu creu drwy bori, sathru a sarnu. Mae torri gwair hefyd yn gofyn am ddefnyddio tanwyddau ffosil felly mae pori er lles cadwraeth yn cyfrannu at leihau llygredd – Prosiect Sero.
  • Pwy fydd yn gofalu am yr anifeiliaid?

    Cyfrifoldeb perchnogion y da byw fydd gofalu am yr anifeiliaid yn ddyddiol i sicrhau bod eu lles yn cael ei gynnal, a bydd ceidwaid y parc hefyd yn cadw llygad ar y da byw. Os yw'r cyhoedd yn gweld unrhyw broblemau yna dylent roi gwybod i wasanaeth ceidwaid y parc ar y naill safle neu'r llall.

  • Pa mor hir fydd yr anifeiliaid ar y safle?

    Bydd pori er lles cadwraeth yn digwydd bob blwyddyn yn ystod tymor y gaeaf o fis Hydref tan fis Mawrth ond ni fydd da byw ar y safle am y cyfnod hwnnw i gyd.
  • A fydd yn rhaid i mi roi fy nghŵn ar dennyn?

    Tra bod da byw ar y safle o fewn y mannau sydd wedi'u ffensio, bydd angen rhoi cŵn ar dennyn.

  • Sut i ymddwyn o gwmpas da byw?

    o   Cadwch gŵn ar dennyn o fewn ardaloedd sydd wedi'u ffensio

    o   Peidiwch â bwydo'r anifeiliaid

    o   Byddwch yn ddigynnwrf a thawel wrth ymyl y da byw

    o   Peidiwch â mynd at y da byw (cadwch bellter o bum metr o leiaf lle bo modd)

    o   Os ydyn nhw'n dod atoch chi, symudwch i ffwrdd

  • Sut mae'n cael ariannu?

    Ariennir y prosiect Pori er Lles Cadwraeth gan gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cydlynir y grant gan Bartneriaeth Natur Leol y Fro sy’n gweithio gyda thîm Cefn Gwlad Cyngor Bro Morgannwg i gyflawni’r prosiect hwn.

     

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: