Cost of Living Support Icon

Making space for nature banner CY

 

Sut mae'r gwaith o reoli glaswelltir yn newid

Yn ôl y cynllun rheoli presennol, mae'r rhan fwyaf o ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd yn cael eu torri bob tair wythnos yn ystod y tymor tyfu (diwedd mis Mawrth i fis Medi). Mae'r toriadau'n cael eu taenu a’u gwasgaru ar y glaswellt. Mae hyn yn ailgyflwyno'r maethynnau yn ôl i'r pridd ac yn annog y glaswellt i dyfu.

 

Gan ddechrau yn 2023, byddwn yn cyflwyno cynllun rheoli newydd i ffafrio gadael blodau gwyllt i dyfu a lleihau amlder toriadau trwy ddefnyddio peiriannau 'torri a chasglu'.

 Cut and collect machine

 

Gwaith rheoli ‘torri a gwasgaru’

  • Mae'r peiriant torri gwair yn gwasgaru wrth iddo dorri, gan ddychwelyd y maethynnau i'r pridd

  • Mae mwy o laswellt yn tyfu, yn gyflymach, gan drechu rhywogaethau eraill gan gynnwys blodau gwyllt sy'n ffynnu mewn priddoedd â lefel isel o faethynnau

  • Mae tyfiant mwy trwchus o laswelltau yn cuddio llinellau gwelediad yn gyflymach

  • Mae angen torri eto o fewn tair wythnos

Gwaith rheoli ‘torri a chasglu’

  • Mae'r peiriant torri gwair yn casglu sgil-gynhyrchion, gan leihau faint o faethynnau sy'n dychwelyd i'r pridd

  • Mae tyfiant glaswellt a blodau gwyllt yn llai egnïol ac mae gan rywogaethau llai cystadleuol fwy o gyfleoedd i sefydlu gan gynyddu amrywiaeth y rhywogaethau o blanhigion flwyddyn ar ôl blwyddyn

  • Mae tyfiant glaswellt a blodau gwyllt yn gyffredinol yn llai gan gadw lleiniau gwelededd

  • Mae amlder torri gwair yn cael ei leihau i ddwywaith y flwyddyn

 

Sut bydd glaswelltiroedd yn cael eu rheoli wrth symud ymlaen

Mae adrannau Parciau a Mannau Agored a Phriffyrdd yn rheoli'r glaswelltiroedd ar ymylon ffyrdd, parciau ac o fewn ardaloedd preswyl. 

 

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar reoli glaswelltiroedd ar dir preifat a mannau nad ydynt yn eiddo i awdurdodau lleol (er enghraifft, cynghorau cymuned) cysylltwch â Phartneriaeth Natur Leol y Fro.

 

Torri gwair ar gyfer amwynder (torri bob tair wythnos) 

  • Mae mannau agored ac ymylon ffyrdd yn cael eu torri ar gylchred o dair wythnos

  • Mae Parciau Baner Werdd yn cael eu torri bob 10 diwrnod gydag ardaloedd wedi'u neilltuo sy'n cael eu rheoli fel ardaloedd cadwraeth

 

Torri gwair er lles cadwraeth (dim torri yn ystod y tymor blodeuo Ebrill-Medi) 

  • Ymylon ffyrdd gwledig, ymylon ffyrdd preswyl ac ardaloedd dynodedig o fewn parciau a mannau agored

  • Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu torri yn gynnar yn y gwanwyn a’r hydref gan ddefnyddio peiriant torri a chasglu, os yw’n briodol, bydd y sgil-gynhyrchion yn cael eu gadael mewn pentyrrau ar y safle, ac efallai y bydd yr ymylon yn cael eu torri ar rai safleoedd trwy gydol y tymor tyfu i'w cadw'n daclus

 

Torri gwair ar gyfer lleiniau gwelededd (Torri yn ôl yr angen; hyd at dair gwaith yn ystod y tymor blodeuo mewn ardaloedd nad ydynt yn drefol a phob tair wythnos mewn ardaloedd trefol)

  • Ardaloedd ger cyffyrdd, cylchfannau, ffyrdd troellog er mwyn cynyddu gwelededd i fodurwyr

  • Mae lleiniau gwelededd ar rwydweithiau ffyrdd strategol ac anstrategol yn cael eu torri ddechrau mis Mai, gydag ymylon ffyrdd y rhwydwaith strategol yn cael eu torri ar ddau achlysur arall a'r ymylon ar ffyrdd anstrategol yn cael eu torri unwaith yn ychwanegol os oes angen

 

Bydd ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun yn cael eu nodi gan ddefnyddio arwyddion.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: