Cost of Living Support Icon

Making space for nature banner CY

 

Beth i'w ddisgwyl a beth i beidio â'i ddisgwyl

 

What are grassland ecosytems

Yr hyn i'w ddisgwyl

Dolydd blodau gwyllt brodorol, lluosflwydd yn bennaf, gan gynnwys gweiriau, sy'n rhan bwysig o unrhyw ddôl weithredol.

 

Ornamental wildflower meadow

Yr hyn na ddylid ei ddisgwyl

Nid ein bwriad yw cael dolydd blodau unflwydd wedi eu 'dylunio' neu rai 'addurniadol'.

 

Cyfyngedig yw gwerth y cymysgeddau hadau unflwydd lliwgar hyn i fywyd gwyllt.

 

Mae angen gwaith paratoi helaeth i'r tir bob blwyddyn ar eu cyfer, megis tynnu tywyrch a defnyddio chwynladdwyr er mwyn paratoi'r tir. Mae hyn yn lladd yr union blanhigion a phryfed y dylem fod yn eu hannog! Mae'r dull hwn yn anghynaladwy ac yn niweidiol i'r bywyd gwyllt brodorol.

 

Mae’r rhywogaethau a geir yn y pecynnau hadau blynyddol hyn yn aml yn rhywogaethau estron o darddiad anhysbys, gan gynnwys cyltifarau gardd nad ydynt i’w cael yn naturiol yn y DU, heb sôn am ym Mro Morgannwg. Yn wir mae llawer o’r rhywogaethau planhigion yn fwy cartrefol yn ein caeau âr e.e. y pabi, penlas yr ŷd a gold yr ŷd

 

Mae cadw elfen wyllt blodau gwyllt yn bwysig gan y gall rhywogaethau estron ddisodli blodau gwyllt brodorol sydd eisoes yn bresennol yn y storfa hadau, gan erydu hynodrwydd ac amrywiad genetig naturiol ein fflora lleol.

 

 

 

Yn y Fro, rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth o gynefinoedd glaswelltir gan gynnwys Glaswelltir Calchaidd sy’n gynefin cymharol anghyffredin yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol. Mae'n gysylltiedig â chalchfaen carbonifferaidd, sy'n bresennol ar hyd y clogwyni arfordirol. Mae'r ardaloedd hyn yn enwog am eu fflora calchfaen cyfoethog, sy'n cynnwys sawl rhywogaeth sy'n brin yn genedlaethol. 

 

Mae pryfed peillio a phlanhigion sy’n cael eu peillio gan bryfed wedi cyd-esblygu dros 100 miliwn o flynyddoedd gan arwain at set gymhleth o ryngweithiadau sy’n hybu peillio a goroesiad. Mae rhai pryfed yn letyol-benodol sy'n golygu eu bod yn dibynnu ar rywogaethau planhigion penodol i gwblhau eu cylch bywyd. Gall y pryfed hyn hefyd fod wedi addasu'n arbennig i fwydo ar rai planhigion gan eu gwneud yn bryfed peillio pwysig. Mae’r rhyngweithiadau arbenigol hyn rhwng pryfed a phlanhigion yn amlygu pam ei bod yn bwysig cael amrywiaeth o bryfed peillio. Er enghraifft, mae'n well gan y Wenynen Durio Moron chwilota am flodau â strwythur agored fel moronen y maes ac efwr. Dysgwch fwy am boblogaethau'r Gwenyn Turio Moron yn y Fro

 

Y dull mwyaf cynaliadwy o reoli glaswelltiroedd blodau gwyllt yw trwy adael i'r storfa hadau brodorol ffynnu. Efallai y gwelwch degeirian neu 200 ohonynt yn ymddangos ar ymyl eich ffordd leol fel y gwnaethom ar Ffordd Osgoi Ffwl-y-mwn.

 

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: