Cost of Living Support Icon

Making space for nature banner CY

 

Cwestiynau cyffredin

 

Pa feysydd fydd yn cael eu rheoli wrth symud ymlaen?

Gallwch weld yr ardaloedd a fydd yn cael eu rheoli wrth symud ymlaen ar y map isod:

 

 

  • Pwy sy'n rheoli'r ymylon ffyrdd?

    Mae adrannau Parciau a Mannau Agored a Phriffyrdd yn rheoli'r glaswelltiroedd ar ymylon ffyrdd, parciau ac o fewn ardaloedd preswyl.

     

    I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar reoli glaswelltiroedd ar dir preifat a mannau nad ydynt yn eiddo i'r awdurdod lleol (h.y. cynghorau cymuned) cysylltwch â Phartneriaeth Natur Leol y Fro.

  • Ai cynllun er mwyn torri costau yn unig yw hwn?

    Mae tystiolaeth o siroedd eraill yn dangos y gall fod arbedion costau ond mae angen buddsoddi hefyd mewn peiriannau wrth i’r rhaglen gael ei chyflwyno ar draws y Fro. Y prif gymhelliant yw ymateb i’r argyfwng ym myd natur drwy wneud cymaint ag y gallwn i wneud y Fro yn fwy deniadol i fywyd gwyllt ac i bobl. 

  • A fydd diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei beryglu?

    Na, mae diogelwch bob amser yn dod yn gyntaf, sy'n golygu y bydd rhai ardaloedd yn cael eu torri'n rheolaidd fel lleiniau gwelededd a bydd pob ardal yn cael eu monitro a'u hadolygu ar y cyd â'n Tîm Priffyrdd.

  • Oni fydd yn edrych yn flêr?

    Nid yw byd natur trwy ddiffiniad yn daclus!

     

    Fodd bynnag, credwn y dylem fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pryfed peillio a bywyd gwyllt arall. Byddwn yn parhau i 'dorri ymylon' yn rhai o'r ardaloedd, lle mae llwybrau ac ymylon ffyrdd yn cyfarfod i'w cadw'n daclus.

  • A allaf i blannu hadau blodau gwyllt yn fy nghymuned?

    Mae rhywogaethau a geir mewn pecynnau hadau masnachol yn aml o darddiad anhysbys a gallant gynnwys rhywogaethau estron gan gynnwys cyltifarau gardd nad ydynt i'w cael yn naturiol yn y DU, heb sôn am Fro Morgannwg.

     

    Ein nod yw cadw elfen wyllt blodau gwyllt gan y gall rhywogaethau estron ddisodli blodau gwyllt brodorol sydd eisoes yn bresennol yn y storfa hadau, gan erydu hynodrwydd ac amrywiad genetig naturiol ein fflora lleol.

     

    Ar ôl dwy neu dair blynedd o reoli trwy dorri a chasglu, os nad yw ardaloedd yn dangos unrhyw arwyddion o amrywiaeth cynyddol o flodau gwyllt, byddwn yn ystyried gwella’r ymylon ffyrdd gan ddefnyddio hadau blodau gwyllt o ffynonellau lleol, gwair gwyrdd neu blanhigion plwg a dyfwyd o hadau o ffynonellau lleol.

  • Pam fod blodau gwyllt mewn un ardal o fy nghymuned wedi eu torri?

    Mae 'Creu Lle i Fywyd Gwyllt' yn gynllun newydd a ddatblygwyd yn 2022. Rydym yn gynyddol yn ychwanegu safleoedd at ein cynllun rheoli newydd ac efallai nad ydym yn ymwybodol o'r ardal.

  • A gaf i awgrymu safle ychwanegol i'w gynnwys yn y cynllun?

    Wrth gwrs! Cysylltwch drwy e-bost: biodiversity@valeofglamorgan.gov.uk. Cofiwch fod yna gyfyngiadau a allai olygu na fydd yr ardal yn medru cael ei chynnwys yn y cynllun, gan gynnwys rhesymau diogelwch neu amwynder. Yn ogystal, dim ond tir y mae'r awdurdod lleol yn berchen arno y gallwn ei gynnwys.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: