Cost of Living Support Icon

Parciau Gwledig a Lladdwr yr Ynn

Mae lladdwr yr ynn, sydd hefyd â’r enw ‘Chalara’, yn glefyd ffyngaidd sy’n effeithio ar bob rhywogaeth o ynn. 

 

Mae’r clefyd wedi lledaenu i’r gorllewin ar draws y wlad ac mae bellach yn effeithio ar bron pob rhan o Gymru.

 

cogan woods

Mae’r ffwng (Hymenoscyphus fraxineus) yn atodi ei hun i ddail ynn ac yn lledaenu trwy’r canghennau, gan achosi i’r goeden farw yn y pen draw. Nid os gwellhad na ffordd ymarferol hysbys o atal y clefyd rhag lledaenu. Mae’r clefyd yn effeithio ar ynn trwy rwystro’r systemau cludo dŵr, gan achosi dail i gael eu colli, difrod i’r coed ac i’r rhisgl. Mae hyn yn arwain at gorun y goeden yn cael ei lladd. Mae coed yn dod yn bregus dros amser gyda changhennau’n torri oddi ar brif gorff y goeden. Os na ymdrinnir â hyn, wedyn dros amser, mae coed mewn perygl o gwympo a dod yn berygl i’r ardal amgylchynol.

 

Mae lladdwr yr ynn yn broblem ledled Ewrop i gyd a disgwylir y bydd 90% o goed ynn yn marw oherwydd y cyflwr.  Mae gan laddwr yr ynn oblygiadau mawr ar gyfer perchenogion tir a Chynghorau ledled y DU sydd ag ynn ar eu tir. Mae rhai Cynghorau gwledig yn Lloegr yn credu bod cymaint â 500,000 o ynn wedi’u heffeithio gan laddwr yr ynn.

 

Sut rydym yn mynd i’r afael â lladdwr yr ynn

 

woodlands porthkerry drone view

Mae’r tîm cefn gwlad yn cynnal rhaglen o archwiliadau ynn yn y parciau gwledig i nodi  faint o ynn sydd gennym ynghyd â’u cyflwr. Bydd yn cymryd llawer o fisoedd i gwblhau’r arolygon a byddwn yn cwblhau’r arolygon hyn bob blwyddyn nes y daw’r clefyd i ben. Dros yr ychydig o flynyddoedd nesaf, caiff ynn yn y parciau Gwledig eu hasesu i gael gwybod sut mae’r clefyd wedi effeithio arnynt - a pha mor gyflym mae angen iddynt gael eu torri, trwy weithredu’n awr byddwn yn gallu rheoli’r clefyd mewn modd a reolir.

 

Mae cannoedd o ynn yn y parciau Gwledig ac yn anffodus yr unig ffordd o ddileu’r risg a grëir gan goed sydd wedi’u heffeithio’n fawr yw eu torri.

 

Class of tree
 Dosbarth 1 100% - 75%   Canopi sy’n weddill  (dosbarth bywioldeb 0)
 Dosbarth 2 75% -  50%   Canopi sy’n weddill  (dosbarth bywioldeb 1)
 Dosbarth 3 50% -  25%  Canopi sy’n weddill  (dosbarth bywioldeb 2)
 Dosbarth 4  25% -  0%   Canopi sy’n weddill  (dosbarth bywioldeb 3)

 

Bydd hyn yn ein helpu i gael gwybod pa goed mae angen eu torri. Mae coed yn nosbarth un naill ai heb eu heffeithio gan laddwr yr ynn neu’n dangos arwyddion cynnar o’r clefyd. Bydd coed yn nosbarth pedwar wedi’u heffeithio’n fawr gan y clefyd gyda llawer o ddail wedi’u colli a changhennau bregus - bydd yn flaenoriaeth torri’r coed hyn.

 

Y gobaith yw y bydd rhai ynn yn dangos lefelau da o wrthsefyll y clefyd ac na fydd rhai ystyried eu torri - Mae’r coed hyn yn bwysig iawn oherwydd y gwerth ecolegol sydd ganddynt yn yr amgylchedd a gallant helpu i ailboblogi'r rhywogaeth yn y dyfodol.  Bydd y tîm cefn gwlad yn hyrwyddo adfywio naturiol mewn coetiroedd Parciau Gwledig ond pan fo coed mewn ardaloedd cyhoeddus megis meysydd parcio wedi’u heffeithio, bydd y tîm yn rhoi 2 goeden newydd o rywogaeth wahanol  yn lle unrhyw goeden sydd wedi’i cholli oherwydd y clefyd.