Cost of Living Support Icon

Pentref Canoloesol Cosmeston 

Lavernock Road, Penarth, Bro Morgannwg, CF64 5UY

 

Yn ystod y gwaith datblygu ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn 1978, datgloddiwyd olion cymuned a oedd dros 600 mlwydd oed. Hwn oedd man cychwyn cynllun archeolegol unigryw i adfer pentref Cosmeston.

 

Mae’r pentref canoloesol yn seiliedig ar y flwyddyn 1350. Roedd hwn yn gyfnod difyr yn hanes y pentref, gan ei fod newydd dderbyn cyfraniad sylweddol gan y teulu de Caversham i godi safon byw.

 

Y mae Pentref Canoloesol yn gyfeillgar i cadair olwyn ac yn agor 7 dydd pob wythnos

 

Ar gyfer iechyd a diogelwch y cyhoedd mae'r Pentref Canoloesol ar agor ar gyfer teithiau canllaw sain yn unig

 

 

 

 

 

Bride-and-Groom-at-Cosmeston

Priodasau mewn Parciau Gwledig

Gallwn gynnig Ysgubor Ddegwm,  adeiladau hanesyddol eraill neu ddôl ddynodedig i’w llogi fel lleoliad ar gyfer seremonïau sifil, bendithiau priodas a gwleddoedd priodas.

 

Priodasau mewn Parciau Gwledig

 

Wrth drefnu ymweliad â Phentref Canoloesol Cosmeston, ffoniwch ymlaen llaw gan fod mynediad yn amodol ar deithiau ysgol/grŵp, digwyddiadau a ffilmio sy'n digwydd

 

Mynediad Am Ddim

Gellir mynd i mewn i’r Pentref Canoloesol ac edrych o gwmpas yr adeiladau a’r tiroedd am ddim.  Mae paneli dehongli wedi'u lleoli drwyddi draw i roi gwybod i ymwelwyr am y safle unigryw hwn sydd wedi'i ailadeiladu ar sylfeini gwreiddiol ac sy’n dangos bywyd yn y flwyddyn 1350

Yr amseroedd agor yw 10.00am tan 5.00pm o fis Ebrill i fis Medi (mynediad olaf am 4.00pm) a rhwng 10.00am a 4.00pm o fis Hydref i fis Mawrth (mynediad olaf am 3.00pm)

(Ar gau 24, 25, 26 Rhag a 01 Ion)

 

 

Medieval Baker

Teithiau Tywys

 

Mae teithiau tywys ar gael i ysgolion a grwpiau wedi'u trefnu yn unig

Bydd y tywysydd mewn gwisg a chymeriad yn eich arwain fel 'yr ymwelydd' i'w bentref ar daith ddifyr o amgylch yr adeiladau wedi'u dodrefnu a’r tiroedd. Yn ystod y daith cewch gyfle i ryngweithio a gofyn cwestiynau i'r pentrefwyr.

 

Efallai mai eich tywysydd ar y diwrnod fydd; Henry Hogg - bugail y moch, Elsbeth o Rydychen, y Tad Edwin - offeiriad y pentref neu Walter - maer y pentref.

 

Mae gweithgareddau ychwanegol hefyd ar gael

Ffoniwch i gael prisiau ac i drafod/trefnu eich ymweliad ysgol/grŵp    

 

(Ar gau ar 24, 25, 26 Rhagfyr a 01 Ionawr)

 

Audio units

Ffyn Sain

Beth am ategu at eich ymweliad drwy logi ffon sain? Bydd y llais mewn cymeriad, ac yn darparu gwybodaeth am y pentref i’r ymwelydd. Gellir clywed y daith ddifyr hon yng Nghymraeg ac Saesneg.

 

Gallwch gasglu ffon sain o’r Ganolfan Ymwelwyr.

 

Mae ffyn sain hunanodywys ar gael drwy gydol y dydd o 10.00am tan 5.00pm rhwng mis Ebrill a mis Medi (mynediad olaf am 4.00pm) ac o 10.00am tan 4.00pm rhwng mis Hydref a mis Mawrth (mynediad olaf am 3.00pm).

 

Pris: Oedolion - £6.15 / Plant a gostyngiadau - £4.31

 

(Ar gau ar 24, 25, 26 Rhagfyr a 01 Ionawr)

Pentref Canoloesol Cosmeston

Lavernock Road

Penarth

Bro Morgannwg

CF64 5UY