Cost of Living Support Icon

Llogi’r Pentref Canoloesol

Mae’r pentref yn lleoliad delfrydol i dynnu lluniau llonydd neu ffilm unigryw, neu i gynnal digwyddiad. Mae ar gael i’w logi gan bartïon neu grwpiau sydd â diddordeb. 

 

Re-enactors in medieval battle

Mae’r pentref wedi ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer llawer o ddigwyddiadau, yn cynnwys ail-greu brwydrau, hanes byw a hanes drwy’r oesoedd.

 

Yn ystod y digwyddiadau blaenorol, gwelwyd atyniadau a ddenodd filoedd o ymwelwyr ar y diwrnod, gan gynnwys: arddangosiadau hebogaeth, stondinau crefft, dramâu ac adrodd straeon, ailgreadau, saethyddiaeth a bwyd a diod.

 

Nid yw digwyddiadau ail-greu wedi eu cyfyngu i’r cyfnod canoloesol chwaith. Rydyn ni wedi croesawu Rhufeiniaid, Llychlynwyr a hyd yn oed môr-ladron.

 

Mae poblogrwydd Pentref Canoloesol Cosmeston fel lleoliad ffilm a theledu wedi arwain at gynnydd yn y galw am ddefnydd y lleoliad.

 

Bu’r BBC yn ffilmio ar gyfer ‘Dr Who a ‘Merlin’ yma sawl gwaith. Bu ABC yn ffilmio ‘Galavant’, a defnyddiodd Sky adnoddau’r pentref ar gyfer y gyfres ‘Stella’. Ymhlith cynyrchiadau eraill, mae hysbysebion, rhaglenni hanes a rhaglenni dogfen.

 

Gall Pentref Canoloesol Cosmeston dderbyn cynyrchiadau bach a mawr, a darparu maes parcio ar gyfer yr uned ar y safle. 

 

Llogi’r Pentref

I drafod cynigion ac amodau llogi’r pentref canoloesol, cysylltwch â: