Cost of Living Support Icon

Adeiladau’r Pentref 

Darganfyddwch fwy am adeiladau a hanes Pentref Canoloesol Cosmeston

 

Er nad oes bob amser sicrwydd o hunaniaeth wreiddiol adeilad penodol, defnyddir gwybodaeth archeolegol, bensaernïol a hanesyddol i ail-greu adeiladau’r pentref yn arddull y rhai gwreiddiol gymaint â phosibl.

The Reeve's Barn

Adeilad y Stiward

Ar fferm Walter, stiward y pentref, ceir cyfres o adeiladau a gawsai eu gosod gan arglwydd y maenordy, sef bwthyn, ysgubor a beudy a godwyd o amgylch clos agored a gerddi ger llaw.

 

Er nad oes modd gwybod i sicrwydd mai hwn oedd cartref y stiward, mae’r eiddo o’r fath safon nes ei bod yn sicr mai pentrefwr o statws fyddai’n byw ynddo.

 

Prif swyddogaeth stiward y pentref fyddai sicrhau bod byd amaeth y pentref yn rhedeg yn hwylus, a bod y taeogion yn gofalu am eu cnydau heb dresmasu ar dir eu cymdogion. 

Jake's cottage, the bakers property and ovens

Bwthyn Jake

Aelod o ddosbarth taeog tlawd y gymuned fyddai wedi byw yn y math hwn o adeilad syml, siâp petryal. Roedd dau ddosbarthiad o bobl: tenantiaid ‘cyffredin’ neu bentrefwyr ‘rhydd’. Roedd yr olaf yn gymwys i wasanaethu ar reithgor yn llys y faenor, a chyflawni swyddi swyddogol megis y stiward neu’r beili. Ceid hefyd denantiaid ‘cnafaidd’, sef pentrefwyr ‘caeth’ i’r tir ac ynghlwm wrth y pentref. Roeddent yn byw o dan gyfyngiadau niferus, ac nid oedd ganddynt hawl i adael y faenor na phriodi heb ganiatâd yr arglwydd. Ar ben hynny, roedd gofyn iddynt weithio ar gaeau’r arglwydd, a oedd yn cyfyngu ar yr amser y gallant ei dreulio’n cynnal eu cnydau eu hunain.

          

 

Tŷ’r Pobydd a Phoptai’r Pentref

Roedd pobydd y pentref yn ŵr cefnog a fyddai’n rhentu adeilad i gynhyrchu a gwerthu ei nwyddau pob ynddo. Gan y pobydd yn unig roedd hawl i bobl bara, gan ei fod wedi talu rhent i arglwydd y faenor am y poptai. Doedd e ddim yn boblogaidd ymhlith y pentrefwyr eraill. Drws nesaf i fwthyn y pobydd, mae adeilad bach a godwyd o boptu dau bopty. Mae’r naill ar gyfer pob bara, a’r llall ar gyfer rhostio barlys i wneud cwrw, gan mai bwthyn y pobydd yw tafarn y pentref hefyd.  

 

Tithe barn, swine herds cottage and pig sty

Yr Ysgubor Ddegwm

Yn ysgubor ddegwm y pentref byddai trethi’n cael eu cofnodi a’u storio gan offeiriad y pentref cyn i’r arian gael ei ddosbarthu ar gyfer masnach neu i dalu aelodau’r offeiriadaeth. Y ddegwm oedd y dreth ganoloesol a gawsai effaith ar y nifer fwyaf o bobl. Roedd treth o ddeg y cant yn daladwy i’r eglwys ar bob dim a gâi ei dyfu, ei gynhyrchu neu ei wneuthur. 

 

Bwthyn y Bugail Moch

O fewn cymuned y pentref, fwy na thebyg y byddai bugail y moch yn gyfrifol am y rhan fwyaf o foch y pentref wrth iddynt chwilota am fwyd yn y coetiroedd cyfagos. Caiff natur gwaith y bugail moch ei adlewyrchu yn ei dŷ, sy’n gyfuniad o gartref, clos moch a chigydd. Y tu allan, mae libart bach a thwlc ar gyfer y moch oedd yn dod i mewn o’r goedwig.

Herb garden and the herbalists hovel building

Cwt y Meddyg Llysiau a’r Ardd Berlysiau

Yn ystod y cloddfeydd gwreiddiol, darganfu’r tîm archeolegol ‘gysgod’ adeilad ym mhen gogleddol y pentref. Enwyd hwn yn adeilad ‘J’. Nid oes neb wedi gwybod rhyw lawer am ei ddefnydd na’r rheswm dros ei godi erioed. Mi benderfynodd staff ar y safle godi adeilad ‘bangorwaith a dwb’ i ail-greu enghraifft o’r math hwn o adeilad a’i ddefnydd posibl.

 

Heddiw, mae’n agored fel ’cwt y meddyg llysiau’, lle gallai gwraig ddoeth o apothecari orffwys a storio perlysiau wrth iddo weithio yn yr ardd berlysiau dan lygad gwyliadwrus stiward y pentref.

 

Mae elfen adferiad y pentref canoloesol yn cynrychioli rhan fach o’r hyn a fyddai wedi sefyll ar faenor Cosmeston ers llawer dydd. Un o elfennau pwysig y cynllun yw deall cyd-destun y pentref fel y safai yn y dirwedd o’i gwmpas. Yn y cyffiniau, gwelid ffermydd, safleoedd gwlypdiroedd a physgota môr, ffermio caeau ac âr, coetiroedd ac wrth gwrs, y maenordy a’r ffermdir, y gerddi, y perllannau, y llynnoedd pysgota a’r colomendy oedd ynghlwm â’r tŷ.

 

Map o’r pentref canoloesol sy’n dangos lleoliad holl adeiladau Pentref Canoloesol  Cosmeston.