Cost of Living Support Icon

Gwiberod

Mae’n hawdd adnabod gwiber wrth y llinell dywyll, igam-ogam ar hyd ei chefn, a rhes o smotiau bob ochr iddi. Mi welwch chi hefyd farc tywyll ar ffurf X, V neu H ar gefn ei phen onglog.

 

Adder

Y wiber yw unig neidr wenwynig y DU, ond bydd hi dim ond yn brathu o gael ei chodi neu o sefyll arni. Bydd gwiberod yn ceisio dianc yn ôl i’r llystyfiant agosaf os bydd rhywbeth yn tarfu arnynt. Y lle gorau i chwilio am wiberod ym Mhorthceri yw ar ben gorllewinol y bancyn cerrigos, lle maen nhw’n torheulo ar y cerrig mân ger y clogwyn.

 

Mae’r gwryw yn lliw llwyd, melyn golau neu hufen ag arno farciau tywyll cyferbyniol. Fel arfer, mae benyw yn lliw brown neu gochaidd â marciau brown.

 

Creaduriaid y dydd yw gwiberod, ac maent yn hela mamaliaid bach, brogaod ac adar ifanc. Mae gwiberod benywaidd yn atgenhendlu bob dwy flynedd ac yn geni 3–18 o epil byw, nid fel neidr y glaswellt, sy’n dodwy wyau.

 

Er nad yw’r wiber menw perhygl o ddiflannu yn y DU, credir bod y niferoedd wedi gostwng oherwydd y dirywiad yn ei chynefin naturiol, sef rhostiroedd agored a brwgaitsh.