Cost of Living Support Icon

Rheoli Perfformiad

Mae’r Cyngor yn sicrhau ei ddyheadau drwy ddefnyddio gwybodaeth perfformiad i wella’r ffordd rydym yn gweithio.

 

Rydym yn gwneud hyn drwy gymharu ein perfformiad dros amser a chydag eraill. Mae hyn yn ein galluogi i nodi camau gweithredu i'w gwella, nodi a lleihau risgiau i achosi gwelliant gwasanaeth a chyflawni canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.

 

Mae proses rheoli perfformiad effeithiol yn darparu systemau rheoli a diwylliant trefniadol sy'n canoblwyntio ar welliant parhaus drwy wybod ble rydym, yr hyn y mae angen inni ei gyflawni a sut i fesur ein cynnydd, dod o hyd i broblemau perfformiad a darparu opsiynau i'w gwella.

 

Mae Rheolaeth Perfformiad yn darparu llawer o fuddion:

 

I’r cwsmer/dinesydd:

  • Darparu gwasanaethau sy’n gwella’n barhaus.
  • Darparu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion defnyddwyr.
  • Gwneud y Cyngor yn fwy atebol i drigolion a’r gymuned.
  • Darparu sail ar gyfer cyfathrebu effeithiol.

I’r cyngor:

  • Nodi blaenoriaethau corfforaethol a sicrhau bod pawb yn cydweithio ac yn canolbwyntio ar eu sicrhau.
  • Datblygu dealltwriaeth o anghenion hyfforddi staff ac aelodau etholedig.
  • Sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni ar bryd yn unol â safonau a gytunwyd a chyda'r adnoddau a sgiliau sydd eu hangen. Darparu tystiolaeth o welliant parhaus. 

I aelodau etholedig:

  • Mae aelodau o’r Cabinet yn ymwneud yn llwyr â gwaith cyfarwyddiaethau ac yn derbyn briffiadau prydlon ar faterion.
  • Mae aelodau craff yn gallu monitro a herio perfformiad.

I staff:

  • Darparu eglurdeb a dealltwriaeth o ble mae pob unigolyn yn cyfrannu at weledigaeth a chyfeiriad yr adran.
  • Cynyddu bodlonrwydd gyda swyddi, a balchder a hunan-barch drwy egluro rolau, targedau a llwyddiannau.
  • Cynnig cyfle ar gyfer dysgwyr a datblygiad.

 

Mae'r ddogfen ar y Broses Rheoli Perfformiad yn amlinelllu mecanweithiau’r Cyngor ar gyfer monitro, mesur ac asesu ei berfformiad. Yn gysylltiedig â’r ddogfen hon yw cylch cynllunio blynyddol sy'n nodi'r gweithgareddau perfformiad allweddol a fydd yn cael eu cwblhau'r flwyddyn ariannol honno. 

 

Adroddiadau Chwarterol a Dangosyddion Perfformiad

Fel rhan o’i adolygiad o’i Fframwaith Rheoli Perfformiad, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Bro 2030, Cynllun Corfforaethol 2025-30, sy’n adlewyrchu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn nodi’r 5 Amcan Lles i’r Cyngor. Rydym hefyd wedi mireinio’r broses adrodd perfformiad a'r dull o fonitro a chraffu ar hyn er mwyn galluogi'r Cyngor i barhau i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf  Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Mae fframwaith perfformiad y Cyngor yn cyd-fynd â Bro 2030 er mwyn galluogi olrhain cynnydd ar bob un o'r 5 Amcan Lles (adolygu perfformiad) a dangos sut y bydd y camau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd yn cyfrannu at gyflawni nifer o amcanion lles ac o ganlyniad y nodau cenedlaethol.

Mae'r Cyngor wedi cytuno ar nifer o Ddangosyddion Perfformiad i helpu i ddangos cynnydd yn well o ran cyflawni ein hamcanion lles.  Mae hyn yn cynnwys cymysgedd o fesurau defnyddwyr gwasanaeth, mesurau persbectif dinasyddion a mesurau canlyniadau gwasanaeth a fydd yn galluogi pob Cyfarwyddiaeth i ddangos cynnydd dros y flwyddyn tuag at eu blaenoriaethau a nodwyd a Bro 2030.  Mae ein Dangosyddion Perfformiad yn ein helpu i ddeall pa mor dda rydym yn darparu ein gwasanaeth a’n gweithgareddau ac yn canolbwyntio ar a yw cwsmeriaid yn fwy ffodus o ganlyniad i’r hyn rydym yn ei wneud.   

Mae adroddiadau perfformiad wedi'u cynllunio i roi trosolwg lefel uchel o berfformiad sy'n cyd-fynd â'r 5 Amcan Lles yn Bro 2030, drwy'r tri chwestiwn hunanasesu blynyddol. Mae'r rhain yn cael eu hadrodd bob dwy flynedd i Bwyllgorau Craffu a’r Cabinet, ac mae diweddariadau Power Bi yn cael eu hadrodd bob tri mis i'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor osod a chyhoeddi Amcanion Lles blynyddol sy'n sicrhau ei fod yn cyfrannu at gyflawni’r nodau lles i Gymru ac adrodd ar ei gynnydd o ran cyflawni'r rhain.

  

 

Panel Performance Assessment (PPA) - [needs translating]

 

Panel Performance Assessment (PPA)