Cost of Living Support Icon

Menter Twyll Genedlaethol

Mae'n ofynnol i'r awdurdod hwn yn unol â'r gyfraith ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gall rannu gwybodaeth a roddir iddo â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll. 

 

Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) sy'n archwilio cyfrifon yr awdurdod hwn. Mae hefyd yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data. 


Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall i weld i ba raddau maent yn paru. Gwybodaeth bersonol yw'r data hwn fel arfer. Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu bod modd nodi ceisiadau a thaliadau a allai fod yn dwyllodrus. Os caiff data eu paru, gallai ddynodi bod anghysondeb y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.

 

Ar hyn o bryd, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae'n ofynnol i ni roi setiau penodol o ddata i'r Archwilydd Cyffredinol i'w paru ar gyfer pob ymarfer, a nodir y rhain yng nghanllawiau'r Comisiwn Archwilio.

 

Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol awdurdod statudol i ddefnyddio data fel rhan o ymarfer paru data o dan ei bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid oes angen caniatâd yr unigolion perthnasol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

 

Mae Cod Ymarfer yn berthnasol i ymarferion paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol.  

 

I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau pam ei fod yn paru gwybodaeth benodol, gweler:

 

Swyddfa Archwilio Cymru