Cost of Living Support Icon

Strategaeth Cyfranogiad Y Cyhoedd

Mae ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn esbonio sut y byddwn yn annog ac yn hwyluso cyfranogiad y cyhoedd ym Mro Morgannwg. Mae'r strategaeth yn nodi sut y bydd y Cyngoryn amrywio ei ddulliau ymgysylltu, ganddefnyddio llwyfannau cyfryngaucymdeithasol, cysylltwyr cymunedol acymgysylltu wyneb-yn-wyneb i weithredu dullintegredig o ran cyfranogiad y cyhoedd.

 

Mae ein strategaeth yn ceisio rhoi cyfle igynifer o randdeiliaid â phosibl gymryd rhanyn y broses o wneud penderfyniadau, ganalluogi pobl i siapio’r hyn a wnawn a sutrydym yn ei wneud.

 

 

Ynglŷn â chyfranogiad y cyhoedd

Gall cyfranogiad cyhoeddus fod yn unrhyw broses sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cyhoedd o ran sut y gwneir penderfyniadau ac sy'n ystyried sut mae'r cyhoedd yn cyfrannu at y broses o wneud y penderfyniadau hynny. Proses yw cyfranogiad cyhoeddus, nid un digwyddiad.


Mae'n cynnwys cyfres o weithgareddau a chamau dros oes prosiect i hysbysu'r cyhoedd a chael mewnbwn ganddynt. Mae cyfranogiad cyhoeddus yn rhoi cyfle i randdeiliaid (y rhai sydd â diddordeb neu fuddiant mewn mater, megis unigolion, grwpiau buddiant, cymunedau) ddylanwadu ar sut y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a'u cymuned.


Mae cyfranogiad cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwell canlyniadau i'r Cyngor a rhanddeiliaid. 


Pan gaiff ei wneud mewn ffordd ystyrlon, mae cyfranogiad cyhoeddus yn arwain at well dealltwriaeth o ffeithiau, gwerthoedd a safbwyntiau ychwanegol a gafwyd drwy fewnbwn cyhoeddus – i ddwyn i'r broses benderfynu ac i lywio sut mae'r sefydliad yn gweithio.

 

Beth yr ydym eisoes yn wneud

Yn y gorffennol, mae'r Cyngor wedi ceisio datblygu'r dulliau a ddefnyddir iymgysylltu â rhanddeiliaid mewn ffordd sy'n hygyrch ac yngyfleus.

 

Mae hyn yn cynnwys cynnal gweminarau ymgynghori ar Zoom, y gwahoddwyd rhanddeiliaid iddynt i gwrdd a thrafod gyda swyddogion y Cyngor mewn ffordd adeiladol. Dangosodd adborth fod y sesiynau wedi cael croeso cynnes ac y gellid eu datblygu ymhellach.

 

Mae'r Cyngor hefyd wed iehangu ei ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i gynnwys arolygon cyfryngau cymdeithasol ac annog trigolion i adael 'sylwadau' yn mynegi eu barn. Mae data o'r adran arolygon a’r adran sylwadau wedi'i ddefnyddio mewn adroddiadau. Rydym hefyd wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ymgynghoriadau, ochr yn ochr â fideos pwrpasol i hyrwydd ogwell dealltwriaeth o'r materion dan sylw.

 

Rydym yn dal i ymrwymo i gynnal sesiynau ymgysylltu wyneb-yn-wyneb lle bo hynny'n bosibl ac i gyflwyno dogfennau ymgynghori ar-lein.

 

Beth yr ydym eisiau gyflawni

Mae'r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni amcanion lles y Cyngor ac yn dilyn y camau gweithredu a geir yn ymrwymiadau Amcan Lles 1 - "Gweithio gyda a thros ein cymunedau."

 

Dyma’r canlyniadau rydym am eu cyflawni drwyein gwaith cyfranogiad y cyhoedd: 

  • Hysbysu: Rydym am fod yn dryloyw ynghylch sut y gwneir penderfyniadau a rôl rhanddeiliaid yn y broses

  • Ymgysylltu: Rydym am annog rhanddeiliaid i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a'i gwneud hi’n hawdd iddynt wneud hyn

  • Adborth: Rydym am wella'r ffordd rydym yn bwydo'n ôl i randdeiliaid, fel eu bod yn deall canlyniad eu cyfranogiad

 

Er mwyn sicrhau bod y canlyniadau hyn yn cael eu cyflawni, mae'r Cyngor wedi datblygu cyfres o gamau gweithredu. Gan adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad o fod yn Uchelgeisiol, yn Agored, Gyda'n Gilydd ac yn Falch, mae ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn adlewyrchu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac yn dilyn ein dyletswyddau i gydymffurfio ag adran 39 ac adran 40 o'r Ddeddf.