Benthyciad Eiddo Gwag Landlordiaid
Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo perchnogion i wneud gwaith atgyweirio neu wella fel bo modd byw yn y cartref. Bydd y benthyciad ar gael i berchnogion sy’n dymuno gwerthu neu rentu’r eiddo. Gellir defnyddio’r benthyciad ar gyfer gwaith ar eiddo preswyl neu adeiladau masnachol, gan gynnwys rhannu eiddo’n fflatiau. Rhaid bod yr eiddo’n wag am leiafswm o chwe mis.
Gall perchnogion eiddo gwag, elusennau, busnesau a datblygwyr tai wneud cais am fenthyciad di-log. Gall ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad o hyd at £35,000 yr uned, a’r uchafswm yw £250,000 i bob ymgeisydd. Caiff y benthyciad ei ad-dalu dros gyfnod o ddwy flynedd os caiff yr eiddo ei werthu, neu bum mlynedd os caiff yr eiddo ei osod.
Ar gyfer ceisiadau newydd o fis Mai 2025 ymlaen, mae'r cyfnod benthyg hiraf wedi'i gyfyngu i 3 blynedd (mae hyn yn seiliedig ar gyllidebau cyfredol a thelerau ad-dalu'r Cyngor i Lywodraeth Cymru)
Benthyciad Eiddo Gwag Landlordiaid - Cwestiynau Cyffredin