Benthyciadau Eiddo Gwag i Landlordiaid
Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo perchnogion i wneud atgyweiriadau neu welliannau er mwyn galluogi'r eiddo i gael ei feddiannu. Byddant ar gael i berchnogion sy'n dymuno gwerthu neu rentu'r eiddo a gellir eu defnyddio i uwchraddio eiddo preswyl neu i droi adeiladau masnachol yn adeiladau preswyl, a all gynnwys rhannu eiddo yn fflatiau. Rhaid i eiddo fod yn wag am o leiaf 6 mis. Gellir rhoi benthyciadau hyd at £35,000 fesul uned, gydag uchafswm o £250,000 fesul cais.
Enghraifft ddiweddar o waith trawsnewid ar westy gwag a gafodd ei droi'n 7 uned breswyl yn ystod 2024-2025.
Mae'r safle wedi'i leoli tua 7km i'r de-orllewin o ganol dinas Caerdydd a thua 1.1km i'r gogledd-orllewin o ganol tref Penarth, ym Mro Morgannwg.
"Mae'r Benthyciad Eiddo Gwag i Landlordiaid gan Gyngor Bro Morgannwg yn opsiwn cyllido cost isel iawn a ganiataodd fwy o gyllideb ar gyfer y gwaith trawsnewid ac adnewyddu. Credwn fod hyn wedi caniatáu i ni ddarparu gorffeniad gwell a meddylgar i'r cartrefi sydd newydd gael eu creu."
Enghraifft 1
Mae'r darn o dir yn ymestyn i oddeutu 0.05 hectar ac yn wreiddiol roedd yn cynnwys y Station Hotel, adeilad tri llawr ar wahân y credir ei fod yn dyddio'n ôl i oes Fictoria ac a oedd wedi bod yn gweithredu fel tafarn a gwesty.
Roedd y brif lolfa ac ardaloedd bar ar y llawr gwaelod, gyda llety ategol a phreswyl wedi'u lleoli ar y llawr cyntaf a’r ail lawr. I'r cefn roedd cwrt/gardd gwrw gaeedig. Ar ôl bod yn wag ers peth amser, roedd yr eiddo mewn cyflwr gwael ac roedd angen ei foderneiddio.
Roedd y llain gornel yn gyfle i ail-ddylunio er mwyn ei drawsnewid yn adeilad preswyl ynghyd â maes parcio a gwaith cysylltiedig.
Cymeradwywyd benthyciad o £245,000 gan Gyngor Bro Morgannwg i greu cymysgedd o stiwdios 1 ystafell wely ac unedau 2 ystafell wely wedi'u gorffen i safon uchel, a gafodd eu gosod yn llwyddiannus yn fuan ar ôl cwblhau'r gwaith. Mae nodweddion y Station Hotel gwreiddiol yno o hyd ac yn rhan amlwg o’r eiddo, ynghyd â nodweddion modern a chynaliadwy.
Roedd y rhestr o’r gwaith yn cynnwys:
- Dymchwel yr adeiladau cefn a chlirio’r safleCloddio a draenio
- Atgyweirio’r to, strategaeth ffotofoltäig, ac inswleiddio
- Strwythur y llawr mewnol a’r waliau mewnol – addasiadau
- Gwaith trydan a phlymio (cegin ac ystafelloedd ymolchi)
- Newid yr holl ffenestri a drysau am rai newydd
- Gwaith addurno allanol a mewnol – rendro/paentio
- Tirlunio
Enghraifft 2
Enghraifft arall o'r benthyciad a helpodd i drawsnewid eiddo gwag gyda gwaith a oedd yn cynnwys gosod to newydd, ffenestri a drysau newydd, cegin ac ystafell ymolchi newydd, triniaeth lleithder a gwaith plastro.
Cyn 
Ar ôl
Dilynwch y ddolen i weld rhagor o enghreifftiau o eiddo gwag hirdymor sydd wedi cael eu trawsnewid trwy fenthyciadau tai a hwyluswyd gan Gyngor Bro Morgannwg.
Cysylltwch â Ni
Os hoffech ragor o wybodaeth am y cynlluniau benthyciadau cysylltwch â:
Benthyciadau Tai
Adfywio a Chynllunio
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holton
Y Barri
CF63 4RU