Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Gwastraff Masnachol

Gallai eich busnes arbed hyd at 50% ar filiau gwastraff yn y dyfodol, dim ond trwy ailgylchu gyda Chyngor Bro Morgannwg.

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth cymysg a hefyd yn gallu casglu eich gwastraff gardd/gwyrdd a gwastraff bwyd. Yn rhan o’n gwasanaeth, rydym yn gallu cynnig amrywiaeth o gynhwysion i chi i’ch helpu i gadw eich gwastraff rhwng casgliadau, o fagiau gwastraff ac ailgylchu i fin olwynion 1100 litr.

 

Gall ein tîm cyfeillgar a gwybodus eich helpu i ddewis gwasanaeth sy’n addas i’ch anghenion; byddwn yn eich arwain gyda’r gwaith papur angenrheidiol fel yr ydych yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn gallu rhedeg eich busnes.

 

Fel busnes, mae gofyniad cyfreithiol arnoch i drefnu gwaredu eich gwastraff trwy sefydliad rheoli gwastraff awdurdodedig. Mae eich dyletswydd gofal yn para o’r eiliad y mae’r gwastraff yn cael ei greu i’r eiliad y mae’n cael ei dderbyn gan fusnes sydd wedi’i awdurdodi i’w waredu, ystyriwch: 

 

  1. Waredu mewn ffordd wahanol, er enghraifft trwy ailgylchu

  2. Storio eich gwastraff yn ddiogel trwy'r amser, heblaw am ddiwrnodau casglu. Gallwch wneud hyn trwy sicrhau bod caeadau yn cael eu cau a’u cloi neu fod biniau’n cael eu cadw mewn man diogel y gellir ei gloi (gyda ffens a giatiau). Os nad oes clo ar y bin, dylech ddiogelu’r bin trwy ddulliau eraill.

  3. Cwblhewch nodyn trosglwyddo gwastraff ar gyfer pob llwyth a wastraff a gludwch a chadwch ef am 2 flynedd neu sicrhewch fod gennych 'ddyletswydd gofal' gwastraff blynyddol a ddarperir gan eich darparwr gwasanaeth, os ydych yn cael casgliadau ar gyfer yr un math o wastraff. Mae dyletswydd gofal gwastraff yn ofyniad cyfreithiol.

  4. Cadarnhau bod unrhyw fusnes yr ydych yn ei ddefnyddio i ddelio â’ch gwastraff wedi’i drwyddedu

  5. Cadw prawf o hyn.

  6. Dysgu mwy yma www.gov.uk

 

Nodwch na allwch fynd â gwastraff masnachol i’n Canolfannau Ailgylchu gan fod y safleoedd hyn wedi’u trwyddedu i dderbyn gwastraff y cartref yn unig.

 

Casglu Bagiau Gwastraff Masnachol/Ailgylchu o Lyfrgelloedd

O ddydd Mawrth Ebrill 6 2021, bydd rhai llyfrgelloedd yn cadw bagiau gwastraff masnachol ac ailgylchu i'w casglu.

 

Bydd angen i chi ffonio'r llyfrgell ymlaen llaw i archebu eitemau a threfnu amser i'w casglu gan y bydd y stoc yn gyfyngedig ac ar gael ar sail clicio a chasglu yn unig. 

 

Peidiwch ag ymweld â llyfrgell heb fod wedi archebu amser ymlaen llaw.

Wrth gasglu, dewch â'r arian cywir gan nad yw staff y llyfrgell yn gallu delio â newid mân ar hyn o bryd.

 

  • Llyfrgell y Barri - 01446 422425

  • Llyfrgell y Bont-faen - 01446 773941

  • Llyfrgell Llanilltud Fawr - 01446 792700

  • Llyfrgell Penarth - 02920 708438

 

Ailgylchu ar gyfer Busnesau

Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth ailgylchu masnachol am hanner pris ar gyfer:

  • Papur

  • Gwydr

  • Caniau metal

  • Plastig

  • Cardfwrdd

  • Caniau erosol gwag

  • Cartonau fel Tetra Pak

  • Ffoil heb ei heintio â bwyd/ diod neu gemegolion 

  • Gwastraff bwyd

  • Gwastraff gardd

 

 
EitemNiferPris (Eithriad TAW)

Bagiau Ailgylchu Tryloyw

Bwndel o 25

£36.50

Bagiau Ailgylchu Tryloyw

Bocs o 250

£363.70

Noder: ni dderbynnir sieciau fel tâl dilys yn y Swyddfeydd Dinesig bellach.

 

Gwastraff sy’n weddill

Gwastraff na ellir mo’i ailgylchu yw gwastraff sy’n weddill. Ystyriwch cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn a cheisiwch ailgylchu pryd bynnag mae’n bosib.   

 

 Bagiau Glas Gwastraff Masnachol Pris (Eithriad TAW)

 Fesul bwndel - 25 sach

 £108.20

 Fesul bocs - 250 sach

 £1,080.80

 

 

* Noder y gallai fod casgliadau dyddiol ar Ynys y Barri yn ystod tymor yr haf.

**Mae'r prisiau yma'n ddilys tan 31 Mawrth 2020