Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Ailgylchu Gwastraff Bwyd

 

Casgliad: Bob Wythnos

 

 

Cadi Gwyrdd - Gwastraff bwyd

Gwnewch yn siŵr fod eich cist wrth ochr y ffordd (neu yn eich ardal biniau cymunedol) erbyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad os gwelwch yn dda.

Food-waste-caddy
Food-waste

 

TickIe, plîs
  • Hen fagiau te a gwaddodion coffi
  • Plisg wyau
  • Crafion ffrwythau a llysiau
  • Cig a physgod amrwd ac wedi’u coginio, yn cynnwys esgyrn a chregyn
  • Crafion oddi ar eich plât
  • Bwyd dros ben na ellir ei storio’n ddiogel i’w fwyta’n nes ymlaen
  • Bwyd nad yw’n ddiogel i’w fwyta bellach
  • Bwyd anifeiliaid
Dim diolch
  • Deunydd pacio o unrhyw fath
  • Hylifau fel llaeth. Cewch arllwys symiau bach o fwyd hylifol neu ddiod i lawr y sinc, yn ddelfrydol ynghyd ag ychydig o ddw^ r i sicrhau bod y gwastraff yn llifo i ffwrdd yn hawdd, heb flocio’r draeniau
  • Olewau neu fraster hylifol. Ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol mewn cynhwysydd addas
  • Unrhyw ddeunydd nad yw’n wastraff bwyd

Os bydd angen ichi gael gwared ar unrhyw fraster sy’n solid neu ddim ond yn rhannol hylifol, rhowch y rhain yn eich bagiau du.

 

 

Cofiwch:

  • pan fyddwch ar fin rhedeg allan o’r bagiau leinio ar gyfer eich cadi gwastraff bwyd yn y gegin, clymwch un ar handlen eich cadi mwy ar garreg y drws ar eich diwrnod casglu, a bydd ein criwiau’n gosod rholyn newydd o fagiau leinio wrth ei ymyl. Cewch hefyd gasglu bagiau leinio cadi o’ch llyfrgell leol

 

 

Gwirio eich dyddiadau casglu a tanysgrifo ar gyfer negeseuon atgoffa

Rhowch eich manylion isod i dderbyn e-byst wythnosol y noson cyn eich casgliad.



 

windfall fruitFfrwyth cwympo 

Cofiwch roi unrhyw ffrwythau gwastraff yn eich cynwysyddion bwyd i’w casglu pan yn bosib.

 

Os oes gormod i’w ffitio yn eich cadi gwastraff bwyd, gallwch lenwi 2 fag gwastraff gardd a’u gosod allan ar eich diwrnod casglu bagiau du. Os oes gennych fwy na 2 fag, rhowch y rhain allan gyda'ch gwastraff gwyrdd i'w gasglu.

 

Nodwch y gwastraff fel ffrwyth cwympo.

 

Peidiwch â gorlenwi'ch bagiau gan y byddant yn mynd yn rhy drwm i'r criwiau eu codi.