Cost of Living Support Icon

Ailgylchu Plastigau Meddal 

 

Vale of Glamorgan recycles banner 

Ailgylchwch eich bagiau plastig a'ch deunydd lapio

 

O ddydd Llun 13 Ebrill 2026, rydym yn cyflwyno gwasanaeth casglu plastigau meddal wythnosol ar gyfer pob cartref ledled Bro Morgannwg. 

 

Mae hyn yn dilyn treial llwyddiannus gyda mwy na 16,000 o aelwydydd ym Mhenarth, Dinas Powys, Sili, Llandochau a'r ardaloedd cyfagos. Bydd y gwasanaeth newydd yn ein helpu i ailgylchu hyd yn oed mwy o'n gwastraff a lleihau faint sy'n mynd i fagiau du, gan gefnogi ein huchelgeisiau yn y Fro 2030. 

 

Bydd yr eitemau a gasglwn gennych yn cael eu hailgylchu i gynhyrchion newydd, fel Bagiau am Oes a bagiau bin. Bydd hyn yn lleihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau 'gwyryf' newydd i greu cynhyrchion plastig untro ac yn ein galluogi i ailgylchu mwy o'n gwastraff o gartref.  

 

 

 

Beth ddylwn i ei wneud?

Rhwng 12 Mawrth a 13 Ebrill, byddwn yn dosbarthu rholyn o sachau glas a thaflen i cartrefi yn Y Barri a'r Fro Wledig. 


Os nad ydych wedi derbyn eich rholyn o sachau glas erbyn 13 Ebrill, byddwn yn ychwanegu dolen at ffurflen ar y dudalen hon er mwyn i chi roi gwybod i ni. 
 
Mae'r daflen yn esbonio sut y dylech gyflwyno eich plastigau meddal wrth ymyl y ffordd:

  1. gosod bagiau plastig gwag ac eitemau lapio mewn sach las
  2. ar ôl ei llenwi, clymwch eich sach yn ddiogel gyda chwlwm dwbl i atal ei gynnwys rhag dianc
  3. rhowch eich sach y tu mewn i'ch bag ailgylchu plastig a metelau glas

Rhowch eitemau'n llac y tu mewn i'ch sachau - peidiwch â rhoi un eitem y tu mewn i'r llall, gan fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd didoli eich eitemau pan fyddant yn cael eu prosesu i'w hailgylchu.
 

Pa eitemau ddylwn i eu rhoi yn fy sachau?

TickIe os gwelwch yn dda
  • Bagiau plastig, gan gynnwys bagiau siopa, bagiau pasta, bagiau bwyd anifeiliaid anwes a bagiau parseli
  • Pecynnau creision a chnau
  • Pecynnau bisgedi a lapio siocled/melys
  • Ffilmiau, fel caeadau prydau bwyd parod
  • Labeli plastig a lapio o boteli diodydd
  • Bagiau bwyd wedi'u rhewi
  • Leinin blwch grawnfwyd
Dim diolch
  • Ffilm glynu
  • Codenni neu sachets fel reis microdonadwy neu fagiau rhannu o losin
  • Rhwydo plastig
  • Polystyren neu ewyn
  • Gwellt plastig a chyllyll a ffyrc
  • Caeadau pot iogwrt/pot hufen
  • Pecynnau pothell
  • Menig neu fasgiau tafladwy

Mae ein Cwestiynau Cyffredin yn cynnwys dadansoddiad llawn ar yr hyn y gall ac na all fynd yn eich sach plastig meddal.

 

Pam mae hyn yn bwysig

Mae ailgylchu eich bagiau plastig a'ch deunydd lapio yn ein helpu i leihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau newydd, lleihau allyriadau carbon a chadw mwy o adnoddau yn cael eu defnyddio am gyfnod hirach. Mae hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad i Brosiect Sero ac yn sicrhau bod y Fro yn parhau i fod yn un o'r ardaloedd ailgylchu gorau yng Nghymru.

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw'r gwasanaeth casglu plastigau meddal?

    Mae trigolion Bro Morgannwg eisoes yn ailgylchu 70% o'u gwastraff, ond rydym am eich helpu i ailgylchu hyd yn oed mwy

     

     


    Mae hwn bellach yn wasanaeth casglu wythnosol parhaol ar gyfer bagiau plastig a deunydd lapio o holl aelwydydd y Fro, gan ddechrau 13 Ebrill 2026. Mae'n dilyn treial llwyddiannus gyda 16,000 o gartrefi ar draws Dwyrain y Fro. 

     

     

    Bydd yr eitemau a gasglwn gennych yn cael eu hailgylchu i gynhyrchion newydd, fel Bagiau am Oes a bagiau bin. Bydd hyn yn lleihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau newydd neu 'virgin' i greu cynhyrchion plastig untro fel y rhain ac yn ein galluogi i ailgylchu mwy o'n gwastraff o gartref.

  • A gaf i roi mathau eraill o blastig yn y sachau?  

    Na. Parhewch i roi plastigau 'anhyblyg' - fel poteli, potiau, tybiau a hambyrddau - yn eich bag glas ailddefnyddiadwy presennol ar gyfer eich metelau cymysg, plastigau a chartonau, ar ôl rhoi rinsiad cyflym iddynt.

    Mae'r rhain yn cynnwys:  

    -Poteli cynnyrch glanhau plastig, fel poteli cannydd a chwistrellau sbarduno Poteli diodydd  plastig, fel llaeth, diod feddal a photeli dŵr  

    - Cynwysyddion bwyd plastig, fel potiau iogwrt, tybiau menyn a hufen iâ, punnets ffrwythau a hambyrddau cacennau

     

     

    Rhaid ailgylchu plastigau   meddal - fel bagiau plastig a lapio - ar wahân i blastig 'anhyblyg' - fel poteli plastig, tybiau potiau a hambyrddau.

  • Pam ydych chi wedi darparu sachau untro ar gyfer y gwasanaeth hwn?  
    Ni ellir ailgylchu bagiau plastig na deunydd lapio gyda phlastigau eraill rydyn ni'n eu casglu, fel eich poteli, potiau, tybiau a hambyrddau. Mae'r bag yn eu cadw ar wahân i ddeunyddiau eraill yn ystod y casgliad a phan fyddant yn cael eu prosesu i'w hailgylchu.
    Gallwn ailgylchu'r sachau sydd wedi'u defnyddio ochr yn ochr â'ch bagiau plastig a'ch deunydd lapio.
  • Os yw'n wyntog, sut alla i atal fy sachau rhag chwythu i ffwrdd ar fy niwrnod casglu?  
    Os yn bosibl, rhowch eich sach y tu mewn i'ch bag glas ar gyfer metelau cymysg, plastigau a chartonau ar eich diwrnod casglu arferol a sicrhewch fod y fflap wedi'i sicrhau gyda'r felcro ar flaen y bag. Cofiwch hefyd glymu eich sachau yn ddiogel gyda chwlwm dwbl i atal eu cynnwys rhag dianc.
  • Beth os ydw i'n rhedeg allan o sachau glas?  
    Mae sachau glas ar gael i'w casglu o lyfrgelloedd a'r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. Os na allwch fynd allan i'w casglu eich hun, cysylltwch â ni i ofyn am fwy.
  • Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy sach las yn cael ei chasglu?  

    Efallai na fyddwn yn casglu eich sach am un neu fwy o'r rhesymau canlynol:  

    -mae'n cynnwys eitemau anghywir

    - nid  yw'n cael ei glymu'n ddiogel

    - mae'r eitemau y tu mewn yn cynnwys bwyd neu hylif Os nad ydym wedi casglu eich sach, gwiriwch yr eitemau rydych yn eu rhoi ynddi gan ddefnyddio'r rhestr yn y daflen a ddosbarthwyd gennym gyda'ch sachau, yna tynnwch unrhyw eitemau anghywir. 

     

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn clymu'ch sach yn ddiogel gyda chwlwm dwbl. 
    Os oes unrhyw eitemau yn cynnwys bwyd neu hylif, rhowch rinsiad iddynt yna rhowch eich sach allan ar eich diwrnod casglu nesaf.

  • Ble fydd y plastigau meddal yn mynd? 
     Cynhaliodd WRAP broses dendro i ddod o hyd i'r ailgylchwr cywir ar gyfer y treial plastig meddal, a dewiswyd Jayplas. Fel un o ailgylchwyr a gweithgynhyrchwyr pecynnu plastig annibynnol mwyaf y DU, mae ganddyn nhw gyfleusterau ledled y wlad ac maen nhw wrthi'n adeiladu safle newydd yn Ne Cymru. I ddysgu mwy am eu proses ailgylchu, ewch i'w gwefan: https://jayplas.com/

 

welsh soft plastics graphic