Rydym yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd hwn fesul cam ar draws y sir. Bydd hyn yn ein galluogi i gael cipolwg ar sut rydym yn rhedeg y gwasanaeth hwn, pa mor dda y mae'n cael ei ddefnyddio gan breswylwyr, cael adborth gan ein criwiau casglu, sicrhau bod gennym ddigon o le ar ein cerbydau i gasglu'r holl decstilau y mae trigolion yn eu rhoi allan i ni eu casglu, a sicrhau ein bod yn gallu gwirio a phasio eich eitemau yn ddiogel i sefydliadau addas i'w hailddefnyddio.
 
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno'n raddol i bob cartref ar draws y sir. Tan hynny, os ydych chi'n byw y tu allan i'r Barri, parhewch i fynd â thecstilau amldro i'ch Canolfan Ailgylchu leol, neu ystyriwch roi neu werthu eitemau ar-lein neu mewn siopau elusen lleol.  
 
 
Cyn i ni gyflwyno'r gwasanaeth hwn yn eich ardal, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych o bryd y byddwn yn dechrau casglu'r eitemau hyn o'ch cartref a sut y dylech ddefnyddio'r gwasanaeth.