Rydyn ni’n gwneud y newid hwn i'r gwasanaeth oherwydd pwysau ariannol cynyddol ar y Cyngor.
Er nad oes rhaid i ni gynnig gwasanaeth gwastraff gardd yn ôl y gyfraith, hoffen ni barhau i gynnig y gwasanaeth hwn ond mae angen i ni godi tâl amdano bellach.
Mae'r Dreth Gyngor yr ydych chi’n ei thalu yn helpu i ddarparu gwasanaethau gorfodol y mae'n rhaid eu blaenoriaethu.
Bydd cael gwasanaeth casglu gwastraff gardd dewisol, wedi’i ariannu gan y defnyddiwr, yn ein helpu i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus mwy hanfodol.
Mae'r tâl newydd yn talu cost y bagiau gwyrdd a'n costau yn sgil casglu ac ailgylchu eich gwastraff gardd.
Mae defnyddio'r tâl newydd hwn i'r gwasanaeth hefyd yn ei gwneud yn decach i drigolion nad ydyn nhw’n cynhyrchu gwastraff gardd, sy’n dewis compostio gartref, neu sy’n dewis peidio â defnyddio'r gwasanaeth.
Mae hefyd yn golygu y bydd ond angen i ni ymweld â'r ardaloedd lle mae preswylwyr yn defnyddio'r gwasanaeth. Bydd hynny’n lleihau nifer yr adnoddau sydd eu hangen arnom i gasglu'r gwastraff hwn, gan gynnwys amser staff a thanwydd ar gyfer ein cerbydau. Drwy leihau'r pellter yr ydym yn ei deithio, bydd hefyd yn lleihau faint o lygredd sy'n cael ei ryddhau gan gerbydau ac yn lleihau ein hallyriadau carbon, a bydd hynny’n helpu i atal newid yn yr hinsawdd.
Mae hanner cynghorau Cymru eisoes yn codi tâl am y gwasanaeth hwn, ac mae llawer o rai eraill hefyd yn ystyried gwneud hynny.
Mae'r gost flynyddol am y gwasanaeth hwn yn gystadleuol iawn o'i chymharu â chwmnïau preifat neu fasnachol sy'n casglu gwastraff gardd.