Cost of Living Support Icon

Eiddo Masnachol Gwag

Ydych chi'n chwilio am eiddo masnachol gwag ym Mro Morgannwg ar gyfer eich busnes?

Gall ein tîm Adfywio eich helpu! 

Commercial Property

 

Mae gan ein cronfa ddata eiddo y rhestrau diweddaraf o dir ac eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg a all eich helpu i ddod o hyd i eiddo sy'n bodloni eich gofynion.  Mae'n cynnwys eiddo sy'n eiddo preifat yn ogystal ag unedau masnachol sy'n eiddo i'r Cyngor neu'n cael eu rheoli. 


Chwilio Eiddo Bro Morgannwg

 

Os ydych yn berchen ar eiddo neu os ydych yn asiant sy'n dymuno gosod neu werthu eiddo nad yw'n ymddangos yn ein cronfa ddata ar hyn o bryd, cysylltwch â ni gyda'r manylion eiddo perthnasol a byddwn yn eu hychwanegu at ein cronfa ddata.

 

Ar gyfer ymholiadau ynghylch dod o hyd i eiddo addas neu ychwanegu eiddo at y gronfa ddata, cysylltwch â: 

  

Ydych chi'n berchen ar eiddo masnachol gwag? 

Efallai y bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gallu eich cynorthwyo i ddod ag ef yn ôl i ddefnydd gyda'r canlynol:  

 

generic shops illustration

 

Transforming Towns Logo

Trawsnewid Trefi: Cynllun Benthyciadau Canol Trefi (2025-2031)

Cynllun benthyciadau sy'n helpu i ariannu gweithgareddau adfywio yng nghanol trefi ar draws Bro Morgannwg. Ariennir y cynllun gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (i'w ad-dalu gan y Cyngor i Lywodraeth Cymru erbyn 2031).

 

  • Benthyciad Gwella Eiddo Masnachol 
    Benthyciad Gwella Eiddo Masnachol – y benthyciadau sydd ar gael i berchenogion adeiladau masnachol gwag yng nghanol trefi. Ei bwrpas yw trawsnewid adeiladau, gwella ffryntiau adeiladau ynghyd ag uwchraddio arwynebedd llawr masnachol gwag i'w ddychwelyd i ddefnydd busnes buddiol. 

     

  • Benthyciad Preswyl Canol Trefi  

    Benthyciad Preswyl Canol Trefi – yn cynnwys gwariant cymwys yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol i greu llety preswyl (tai ar y farchnad agored) newydd ar loriau uchaf adeiladau gwag yng nghanol tref. Dim ond ochr yn ochr â gwaith masnachol (Benthyciad Gwella Eiddo Masnachol) y gellir cymeradwyo’r Benthyciad Preswyl Canol Tref ac nid fel cynllun annibynnol.

     

    Mae’r cynllun hwn yw blaenoriaethu gweithgarwch mewn canol trefi, creu unedau masnachol a chynnig i'r dref ac nid ar gyfer trosi unedau masnachol yn rhai preswyl. Er enghraifft, os caiff uned fasnachol wag ar y llawr gwaelod ei hadfer i’w hailddefnyddio, gellir ariannu lle dros ben ar y llawr uchaf at ddibenion preswyl (tai ar y farchnad agored) yn amodol ar ganiatâd cynllunio ac ati.

     

    Y gofyniad lleiaf o bob cynllun yw 1 fflat un ystafell wely hunangynhwysol. Dylai cynlluniau gydymffurfio â'r isafswm arwynebedd llawr fel yr argymhellir yn Safonau Ansawdd Tai mwyaf diweddar Cymru, sydd ar hyn o bryd fel a ganlyn:

     

    I. 46m² fesul fflat un ystafell wely

    II. 59m² fesul fflat dwy ystafell wely

     

    Nid yw llety myfyrwyr, fflatiau un ystafell a stiwdios yn gymwys i gael benthyciad.    

     

     

     

     

     

Gweler isod y mapiau o'r prif ardaloedd siopa yn y canol trefi sy'n gymwys i gael y benthyciad:

 

Darllenwch y Nodiadau Canllaw i Ymgeiswyr cyn llenwi'r Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb:

  • Gwybodaeth bwysig i fod yn ymwybodol ohoni:

    Ffi Ymgeisio - bydd ffi o 2% o swm y benthyciad yn daladwy cyn i'r benthyciad gael ei gwblhau.

    Arwystl Cyfreithiol - Bydd y Cngor ond yn ystyried sicrhau pridiant cyfreithiol 1af neu 2il. 

    Diogelwch Benthyciadau - ni all y gymhareb benthyciad i werth fod yn fwy na 80% o werth yr eiddo gan gynnwys unrhyw daliadau/benthyciadau cyfreithiol eraill sydd wedi'u sicrhau yn erbyn yr eiddo. 

     

    Y cyntaf i'r felin – ni ellir dibynnu ar y benthyciad nes bod dogfennau cyfreithiol wedi'u cwblhau. Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu i geisiadau cymwys ar sail y cyntaf i'r felin sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd (a bod yr holl ddogfennau ategol wedi'u hadolygu ac yn foddhaol). Yn achos ceisiadau cymwys sy'n fwy na'r cyllid sydd ar gael, bydd y benthyciadau yn cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar effaith y prosiect datblygu ar ganol tref.

    Cyfnod y Benthyciad - uchafswm tymor y benthyciad yw 3 blynedd.

    Talu’r Benthyciad - telir benthyciadau mewn ôl-ddyledion ar ôl cwblhau’r gwaith, yn unol â chytundebau’r benthyciad (taliadau fesul cam ar gyfer prosiectau mawr).

    Statws yr eiddo - bydd angen cofrestru'r eiddo fel gwag / segur (6+ mis) gydag Ardrethi Busnes. 

  

  

Addasu o fasnachol i breswyl 

Os ydych yn ystyried addasu eiddo masnachol yn eiddo preswyl (yn amodol ar ganiatâd cynllunio), efallai y gallwn eich helpu gyda Benthyciad Eiddo Gwag Di-log i Landlordiaid.

 

Cysylltu chi â Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a allai weithio gyda chi neu a allai fod â diddordeb mewn prynu'r eiddo gennych.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch y cymorth a restrir uchod, cysylltwch â:

 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan