Cost of Living Support Icon

Grant Gwella Masnachol

Bydd y Grant Gwella Masnachol yn darparu cymorth ar gyfer y gwelliannau a'r gwaith cynnal a chadw i wella gwedd flaen eiddo manwerthu ym Mro Morgannwg a gwella ansawdd yr ardal fasnachu fewnol gan gynnwys hygyrchedd.

Bydd disgwyl i'r gwelliannau gyfrannu at effaith gadarnhaol ar y strydlun, gan greu amgylchedd mwy deniadol, bywiog, a mwy diogel a fydd yn cynyddu gweithgarwch manwerthu, yn hybu nifer yr ymwelwyr ac yn ysgogi buddsoddiad pellach gan y sector preifat. 

Commercial Improvement Grant Logo

 

Pwy sy’n gymwys: 

Busnesau a pherchnogion eiddo masnachol a manwerthu ledled Bro Morgannwg yng nghanol trefi, ardaloedd siopa eraill ac eiddo gwag.


Gall y grant gyfrannu 70% tuag at gost gwaith cymwys hyd at uschafswm grant o £2,000*.

 

Beth all ei ariannu:  

  • Paentio'r wedd flaen (rhaid cytuno ar y cynllun lliw ymlaen llaw gyda'r Cyngor)

  • Trwsio, ailbwyntio a glanhau gwaith cerrig neu rendro

  • Gwaith atgyweirio ar wydr, drysau, blaen siopau

  • Trwsio neu adfer nwyddau dŵr glaw

  • Atgyweirio nodweddion gwreiddiol

  • Trwsio arwyddion neu osod arwyddion (heb eu goleuo)

  • Powdr-orchuddio caeadau rholio presennol

  • Addasiadau siop ar raddfa fach (mewnol), a

  • Hygyrchedd gwell (allanol a mewnol)

 

Beth na ellir ei ariannu:  

  • Gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud neu wedi’i gwblhau

  • Ffioedd am gydsyniad statudol, e.e. cynllunio

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i'r Grant Gwella Masnachol, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd cyn llenwi'r ffurflen gais.

 

*Os oes angen i chi godi sgaffaldiau neu logi sgip i wneud y gwaith, gall y cynllun grant wneud cyfraniad ychwanegol tuag at y costau penodol yma.  Bydd hwn yn gyfraniad o 70% ar y mwyaf, hyd at uchafswm grant ychwanegol o £300.

 

 

 

 Cwestiynau Cyffredin:  

  • Beth a ystyrir yn arian cyfatebol?  Sut ydw i'n rhoi tystiolaeth o hyn?
    Mae'n rhaid i arian cyfatebol fod yn gyllid sydd eisoes wedi'i sicrhau ac ni all fod yn dybiannol.   Gallai hyn gynnwys arian parod o gronfeydd wrth gefn busnes, benthyciad banc, cynllun cyllid grant arall. Gallai tystiolaeth fod ar ffurf llythyr dyfarnu gan gynllun cyllid grant neu fanc neu gyfriflen banc gyda chronfeydd priodol wedi’u clirio. 
  • Faint o arian cyfetabol sydd ei angen arnaf?  
    Mae angen i chi gael cyfanswm o 70% o gostau'ch prosiect fel arian cyfatebol e.e. Cyfanswm Cost y Prosiect £2,000
    Arian cyfatebol £1,400 
    Cais grant £700
  • Pryd mae'r grant yn cau ar gyfer ceisiadau? 
    Nid oes gan y cynllun grant ddyddiad cau ar hyn o bryd, ond rydym yn rhoi'r grant ar sail y cyntaf i'r felin.  Unwaith y bydd yr arian grant wedi'i glustnodi'n llawn i brosiectau, byddwn yn cau ar gyfer ceisiadau. 
  • Rwyf wedi cyflwyno cais, pryd alla i ddechrau fy mhrosiect? 
    Ni allwch ddechrau ar eich prosiect nes ei fod wedi'i gymeradwyo a’ch bod wedi derbyn llythyr cyllido gennym ni.




  

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Datblygu Economaidd:

 

 

 

  

 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan