Gofod Rhentu ar Gael yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia
Mewn lleoliad hardd ym Mro Morgannwg, yn agos i Gaerdydd, y Bont-faen a'r Barri, mae Fferm Ymddiriedolaeth yn elusen fach lle mae byd natur yn helpu i drawsnewid bywydau. Mae'r elusen yn cefnogi pobl ifanc difreintiedig ac agored i niwed sy'n cael trafferth yn yr ysgol i oresgyn eu hanawsterau a rhoi eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.
Mae'r elusen hefyd yn atyniad i ymwelwyr ac mae 20 o wahanol rywogaethau o anifeiliaid i'w gweld gan gynnwys cwningod anferth, alpacas, ymlusgiaid ac asynnod. Mae Fferm Ymddiriedolaeth Amelia yn ganolbwynt gweithgareddau, gyda gwirfoddolwyr a dwy elusen arall hefyd wedi'u lleoli ar y safle.
Roedd Uned Cyfeirio Disgyblion Bro Morgannwg wedi'i lleoli yn y Fferm am dros 20 mlynedd, ond yn ddiweddar mae wedi symud i adeilad newydd yn y Barri felly mae cyfle gwych i rentu lle ar dir y Fferm. Mae tair ystafell ar gael i'w rhentu ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, ac maent yn ddelfrydol ar gyfer elusennau neu fusnesau bach sy'n chwilio am swyddfa neu fan cyfarfod.
I gael rhagor o wybodaeth am y gofod sydd ar gael, cysylltwch â'r Fferm ar 01446 782030 neu e-bostiwch general@ameliatrust.org.uk.
