Cost of Living Support Icon
Workshops webpage banner WELSH

 

Gweithdai ac Unedau Dechreuol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn helpu busnesau lleol mewn sawl ffordd. Un o’r rhain yw drwy gynnig unedau gweithdy ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach. 

  

Business Support Centre BSC

Canolfan Gwasanaeth Busnes (CGB)

Ardal Arloesi, Heol Hood, Y Barri, CF62 5QN

 

Gweld ar Fap

 

Y CGB yw canolfan y Cyngor ar gyfer darparu unedau swyddfa a gweithdai i fusnesau newydd, busnesau lleol sy’n ehangu'n gyflym a mewnfuddsoddwyr. 

 

Mae wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Glannau’r Barri, ger y Tŷ Pwmpio a Chanolfan Feddygol Cei’r Gorllewin.  

Mae yna wyth gweithdy o 48 a 97 metr sgwâr (523 a 1045 troedfedd sgwâr) a 15 swyddfa o 21 a 43 metr sgwâr (226 a 463 troedfedd sgwâr).  

 

Mae ystafell gyfarfod a gofod ymlacio ynghyd â chyfleusterau cegin ar gael i denantiaid.BSC - inside images

 

Unedau sydd ar gael 

  

Unedau Storio Glan Môr DUNRAVEN UNITS PHOTO copy

Dwnrhefn, Southerndown

 

Gweld ar Fap 

 

Cafodd pum uned eu creu ger y Ganolfan Ymwelwyr yr Arfordir Treftadaeth ym Mae Dwnrhefn i annog darparwyr gweithgareddau traeth lleol a mentrau glan môr i ddefnyddio Arfordir Treftadaeth Morgannwg fel lleoliad ar gyfer eu busnes. Mae’n rhaid i fusnesau sydd â diddordeb gyfrannu at dwristiaeth glan môr. Mae’r unedau bellach ar gael i’w llogi mewn dau faint ac maent yn cynnig lleoliad glan môr unigryw ar gyfer busnesau yn yr ardal.

 

3 x uned 6.8m (H) x 1.8m (Ll)

2 x uned 5.1m (H) x 1.8m (Ll)

 

Nodyn: Mae'r unedau ar gyfer storio yn unig ac nid oes ganddynt unrhyw bŵer, dŵr neuoleuadau.

 

Ymweld â’r safle

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu drefnu i ymweld â’r safle, cysylltwch â:

 

 

Eiddo Masnachol Gwag

Ydych chi'n chwilio am eiddo masnachol gwag ym Mro Morgannwg ar gyfer eich busnes? Mae gan ein cronfa ddata eiddo y rhestrau diweddaraf o dir ac eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg.

 

Am fwy o wybodaeth