Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Cyflymu Cymru

Mae’r rhan fwyaf o drigolion a busnesau ym Mro Morgannwg yn gallu manteisio ar wasanaeth band eang cyflym iawn erbyn hyn diolch i gyfuniad o waith gan y sector preifat a phroject Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru. Mae Cyflymu Cymru wedi cyflwyno gwasanaeth band eang cyflym iawn i rannau helaeth o Gymru a fyddai hebddo fel arall.

 

Logo Cyflymy Cymru

Band llydan ffeibr yw’r genhedlaeth nesaf o fand llydan – llawer cyflymach, yn fwy dibynadwy ac mae’n defnyddio technoleg wahanol.

 

 

Caiff band llydan traddodiadol ei gludo drwy linellau ffôn copr ond mae band llydan ffeibr yn defnyddio cebl ffeibr optig. 

 

 

Bydd hyn yn gallu trawsnewid bywyd, gwaith a hamdden dinasyddion ar draws Bro Morgannwg.  At hyn, bydd band llydan Cyflymu Cymru yn hybu'r economi’n lleol, gan alluogi busnesau i weithio'n fwy effeithiol mewn ffyrdd newydd a chysylltu â chwsmeriaid newydd.

 

 

Dyn a menyw yn defnyddio gluniadur

 

Cyflwyno’r Band Eang

 

Daeth Cyflymu Cymru i ben yn gynnar yn 2018.

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio ar gam nesaf y gwaith o gyflwyno band eang cyflym a dibynadwy â’r nod o ymestyn y gwasanaeth hyd yn oed ymhellach.

  

Gweld a yw Cyflymu Cymru ar gael yn eich ardal

 

Mae ardaloedd yn y trefi hyn, Y Bont-faen, Dinas Powys, y Rhws, Southerndown, Sili, y Wig a Sain Tathan, ymhlith y cymunedau cyntaf ym Mro Morgannwg a fydd yn gallu defnyddio'r gwasanaeth newydd hwn o dan y rhaglen. Y bwriad yw y bydd yn mynd yn fyw yn Nhresimwn yn ystod gwanwyn 2016.

 

Cofrestru’ch diddordeb

Os ydych yn byw ym Mro Morgannwg, cofrestrwch eich diddordeb ar wefan Cyflymu Cymru.  Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am y rhaglen a byddwch yn cael cylchlythyr drwy’r post yn gadael ichi wybod pan fydd band llydan ar gael i chi.  Mae nifer o Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISPs) yn cynnig y gwasanaeth, felly gallwch siopa o gwmpas a dewis y fargen orau i chi.  

 

 

Ddim ar gael? Mae help ar gael

Efallai y byddwch yn gallu cysylltu drwy gynllun grant Allwedd Band Eang Cymru. Mae’r cynllun hwn yn cynnig grantiau i ariannu (neu rannol-ariannu) y gwaith o osod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. 

 

 

Astudiaeth Achos

Dyma sylwadau pâr ifanc sydd yn byw yng Ngwenfô ac yn cefnogi'r ymgyrch. 

 

Pum ffordd mae'r rhyngrwyd wedi newid Bro Morgannwg 

Darllenwch am sut mae'r rhyngrwyd wedi newid bywydau ar draws Y Fro.