Cost of Living Support Icon

Cronfa Deddf Eglwysi Cymru

Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru yn ymddiriedolaeth elusennol sy’n annibynnol ar y Cyngor.

 

Ei nod yw rhoi grantiau dyngarol ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion megis:

  • Addysg: Buddion sydd ar gael gan ffynonellau eraill.
  • Cymorth gyda salwch: cymorth pan nad yw help o’r fath ar gael gan ffynonellau eraill.
  • Cymorth gydag angen: Cymorth cyffredinol pan fo angen, caledi neu ofid
  • Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau celf, ac ati sy’n cynyddu gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol.
  • Cyfleusterau cymdeithasol a hamddenol yn gyffredinol.
  • Ymchwil, triniaeth feddygol a chymdeithasol ac ati.
  • Cyfnod Prawf: Cymorth i bobl sydd ar gyfnod prawf, neu eu teuluoedd.
  • Cymorth i Bobl Ddall neu'r Henoed.
  • Lleoedd addoli a thiroedd claddu: adfywio a chynnal a chadw.
  • Argyfyngau neu gymorth gyda thrychinebau.
  • Dibenion elusennol eraill, sy'n gyson â'r uchod.
  • Amddiffyn adeiladau hanesyddol: Cynyddu diddordeb ym mhensaernïaeth Cymru, hanes a gwyddoniaeth yn gyffredinol, er budd pobl Cymru.

Rhoddir grantiau unwaith bob blwyddyn.

 

  •  Oes blaenoriaethau cyllid?

    Ni nodir blaenoriaeth cyllid ond o ganlyniad i lefel yr adnoddau sydd ar gael, fel arfer ni dderbynnir ceisiadau gan unigolion. Derbynnir ceisiadau gan sefydliadau yn ardaloedd daearyddol Cynghorau Bro Morgannwg a Dinas a Sir Caerdydd.

  •  Beth yw uchafswn / lleiafswm y grantiau a roddir?
    Nid yw uchafswm / lleiafswm wedi’u pennu ond fel arfer tua £1,500 y mae’r grantiau.
  •  Beth yw'r amserlen ar gyfer ceisiadau?

    Derbynnir ceisiadau trwy gydol y flwyddyn a bydd ymddiriedolwyr yn cyfarfod er mwyn ystyried ceisiadau yn ôl yr angen.

 

 

 

Manylion Cyswllt

Bro Morgannwg

Miss. G H Jones, 

Adran Gyfrifyddiaeth, 
Cyfarwyddiaeth Cyllid, TGCh ac Eiddo,
Cyngor Bro Morgannwg,

Swyddfeydd Dinesig,

Heol Holltwn,

Y Barri,

CF63 4RU

  • 01446 709152 / Fax: 01446 701729

Caerdydd

Robert Giddings, 

Strategaeth Tai, 
Cyngor Caerdydd, 
Tŷ Willcox, 
Blwch SP 335 
Caerdydd

CF11 1FP

 

  • 029 2053 7484