Bydd ceisiadau am Grant Disgresiynol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn cael eu prosesu o fewn 30 diwrnod gwaith i'r dyddiad derbyn ar gyfer ffurflenni cais sydd wedi'u cwblhau'n gywir gyda gwybodaeth ategol. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r amserlen hon ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru.
Peidiwch â chysylltu â ni o fewn y cyfnod o 30 diwrnod gwaith i holi am statws eich cais, eich cyfeirnod yw eich cadarnhad bod eich cais wedi dod i law a byddwn yn ei brosesu cyn gynted ag y gallwn.
Wrth gyflwyno'ch cais bydd gofyn i chi gwblhau’r holl flychau a nodir a chynnwys y dogfennau tystiolaeth gofynnol. Cyfeiriwch at y canllaw i gael rhagor o fanylion. Mae dogfennau a lluniau wedi'u sganio yn fathau derbyniol o dystiolaeth.
Os oes angen i chi gysylltu â'r tîm, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod:
Sylwer: Peidiwch â defnyddio'r cyfeiriad e-bost i wneud cais, defnyddiwch y ddolen uchod i gael mynediad i'r ffurflen gais. Ni fydd cysylltu â'r tîm drwy'r cyfeiriad e-bost yn eich rhoi yn y system ciwio.