Newyddion Diweddaraf
Mae’r Gronfa Cymorth Penodol i’r Sector (cost gweithredu) wedi’i dargedu at fusnesau Lletygarwch,Twristiaeth a Hamdden a chwmnïau yn y gadwyn gyflenwi gyda 10 neu fwy o staff sy’n cael eu heffeithio’nsylweddol, gyda gostyngiad mewn trosiant o fwy na 60% o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud (lefel rhybudd4) parhaus rhwng 25 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2021.
Ceisia’r gronfa ategu mesurau ymateb i COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol asefydliadau elusennol yng Nghymru.
Gwiriwr cymhwysedd: Busnes Cymru
Bydd yr ail gyfnod ymgeisio am y Gronfa Penodol i'r Sector yn agor am 10am ddydd Mawrth 9 Mawrth 2021 tan 8pm ddydd Gwener 12 Mawrth 2021.
Estyniad y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau 25 Ionawr – diwedd Mawrth 2021
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, mae grantiau Ardrethi Annomestig Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau ar gyfer y sectorau manwerthu dianghenraid, lletygarwch, twristiaeth a hamdden wedi'u hymestyn. Gweler Cymorth Cysylltiedig ar Gyfraddau Annomestig i Fusnes isod. Bydd grant dewisiol ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2021 hefyd ar gael trwy wneud cais trwy awdurdodau lleol.
Cymorth Sy'n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig ar gyfer Busnesau
Os ydych eisoes wedi derbyn y grant Ardrethi Annomestig yn Rhagfyr 20 neu Ionawr 21, PEIDIWCH â gwneud cais arall. Bydd busnesau cymwys a dderbyniodd y grant Cyfyngiadau Ardrethi Annomestig (£3,000 neu £5,000) yn Rhagfyr 20 neu Ionawr 21 yn derbyn grant Cyfyngiadau ychwanegol awtomatig erbyn 19.02.21 (bydd hyn yn cwmpasu mis Chwefror a mis Mawrth).
s nad ydych wedi derbyn grant Cyfyngiadau yn Rhagfyr 20 neu Ionawr 21, gwiriwch eich cymhwysedd a gwnewch gais isod.
Estyniad i’r Grant yn ôl Disgresiwn
Er mwyn canfod a ydych yn gymwys darllenwch nodiadau canllaw Estyniad y Grant yn ôl Disgresiwn.
Bydd y grant ar agor i geisiadau o 15 Chwefror 2021 am 2.00pm a bydd yn cau ar ddyddiad i’w benodi gan yr awdurdod lleol neu pan fo’r gronfa wedi’i hymrwymo’n llawn.
Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (CThEM)
Pedwerydd grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
Y diweddaraf am y newidiadau i Reoliadau Coronafeirws yng Nghymru.
- Cyngor Bro Morgannwg Diweddariadau Coronafeirws 2020
- Ardaloedd Masnachu ar gyfer Bwyd a Diod a Manwerthu Dros Dro
- Holl gyhoeddiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru
Cynllun Cadw Swyddi
Mae’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws wedi’i ymestyn tan 30 Ebrill 2021.
Gwybodaeth am y Cynllun Ffyrlo
Bonws Cadw Swyddi
Nod y cynllun yw parhau i gefnogi swyddi yn ystod adferiad economaidd y DU o Coronafeirws drwy annog a helpu cyflogwyr i gadw cynifer o weithwyr sydd wedi bod ar ffyrlo ag y bo modd.
Bonws Cadw Swyddi
Cronfa Sgiliau a Swyddi
Mae Llywodraeth Cymru yn addo cefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu helpu i ddechrau eu busnes eu hunain wrth iddi lansio cronfa sgiliau a swyddi gwerth £40m.
Bydd y pecyn gwerth £40m yn cynnig:
- dros £20 miliwn i gymell cyflogwyr i recriwtio a chadw 5,000 o brentisiaid, cynyddu gallu rhaglenni hyfforddi a chefnogi mwy o raddedigion i gael profiad gwaith, cyrsiau blasu gwaith a lleoliadau gwaith â thâl.
- bron i £9m i helpu gweithwyr i gael ail-hyfforddiant a dod o hyd i gyflogaeth newydd, gan gynnwys mewn meysydd lle mae galw am sgiliau, drwy ReACT a Chronfa Ddysgu'r Undebau. Mae hyn yn cynnwys ymestyn y rhaglen cyfrifon dysgu personol yn genedlaethol fel bod 2,000 o bobl ychwanegol yn gallu dysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau newydd.
- mwy o gyllid ar gyfer rhaglenni hyfforddi, Cymru’n Gweithio a Chymunedau am Waith a Mwy i helpu i baru pobl â chyfleoedd am swyddi a hyrwyddo hunangyflogaeth a ffyrdd newydd o weithio, yn ogystal â chyllid i gefnogi hyfforddiant a arweinir gan gyflogwyr drwy'r rhaglen Sgiliau Hyblyg.
- cefnogaeth i Gronfa Rwystrau newydd, fydd yn cynnig hyd at £2,000 i gefnogi pobl nad ydynt o bosibl wedi ystyried hunangyflogaeth o'r blaen, yn enwedig menywod, pobl ifanc, pobl o gymunedau Du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl.
Cymorth Ariannol a Hyfforddiant
Grantiau Busnes
Ffigurau cyfredol ar gyfer Grantiau Busnes ym Mro Morgannwg. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae'r cynllun cymorth busnes ar gyfer eiddo ardrethol cymwys bellach wedi cau. Mae cyfanswm o 2,056 o daliadau grant gwerth £25,652,000 wedi cael eu gwneud.
Diwylliant, Celf a Threftadaeth
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi pecyn cymorth buddsoddi gwerth £1.57 biliwn i ddiogelu sefydliadau diwylliannol, celfyddydol a threftadaeth o safon ryngwladol yn y DU.
Cymorth Celf Ddiwylliannol a Threftadaeth
Eiddo a Busnesau Canol Tref
Am gyngor a gwybodaeth ar weithio neu redeg siopau yn ystod pandemig covid-19, e-bostiwch:
Canllaw Coronafeirws i Fanwerthwyr
Cystadleuaeth Cychwyn Cyflym
Ar 20 Mai 2020 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn dyblu'r buddsoddiad yn y Gystadleuaeth Dechrau'n Gyflym gyda £20 miliwn ychwanegol. Bydd busnesau arloesol a busnesau newydd yn elwa ar fuddsoddiad o £40 miliwn gan Lywodraeth y DU i roi hwb i ddatblygiadau technolegol newydd. Ymhlith y projectau llwyddiannus i dderbyn yr arian hyd yma mae efelychydd hyfforddi llawfeddygol rhithwir a llwyfan marchnad ffermwyr ar-lein.
Hwb i fusnesau newydd arloesol
Cymorth i weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru
Mae Arloesi Bwyd Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi'i leoli mewn tair canolfan fwyd ledled Cymru. Gall y tîm o arbenigwyr diwydiannol gefnogi gweithgynhyrchwyr o bob maint i lywio eu ffordd drwy ystod o faterion technegol a masnachol cymhleth.
Pecyn Cymorth Arloesedd Bwyd
Cynllun Benthyciadau Adfer
Hwb mawr i BBaCh Cymru wrth i'r Cynllun Benthyciadau Adfer agor ar gyfer ceisiadau.
Cynllun benthyciadau Adfer