Cost of Living Support Icon

Grant Llawrydd - Cylch 2 - AR GAU

Grant yw hwn i roi cymorth ariannol i weithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol ac mae’n agored i dderbyn ceisiadau newydd a hefyd y rheiny sy’n parhau i wynebu heriau ariannol o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.

 

Diben y grant yw cynorthwyo gweithwyr llawrydd sy’n parhau i wynebu heriau ariannol yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2021 o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.

Bydd cyllid ar gyfer gweithwyr llawrydd yn agored am 12pm ar 17 Mai ac yn cau 5pm ddydd Mawrth 1 Mehefin.

  

Mae cymorth ar gael i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol llawrydd sy’n gwneud gwaith â chanlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol, ac sy'n gweithio yn y pum is-sector allweddol: 

  • Y Celfyddydau

  • Y Diwydiannau Creadigol

  • Y Celfyddydau a Threftadaeth

  • Digwyddiadau

  • Diwylliant a Threftadaeth

Ein blaenoriaeth ar gyfer y cylch cyllido hwn yw helpu’r bobl hynny y mae’r pandemig Covid-19 yn dal i effeithio arnynt (awduron/cerddorion/ pobl sy’n gweithio ym maes digwyddiadau, y theatr etc.  Mae gweithwyr llawrydd o’r diwydiannau priodasol gan gynnwys ffotograffwyr, darparwyr cerddoriaeth ac ati a gweithwyr llawrydd o’r diwydiannau digwyddiadau hefyd yn gymwys i wneud cais. 

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth, ewch i’r Gwiriwr Cymhwysedd: 

Gwiriwr Cymhwysedd 

 

Byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael eich cyflogi'n rhan-amser a bod gennych fusnes creadigol proffesiynol llawrydd hefyd. Fodd bynnag, nod y grant hwn yw helpu gweithwyr llawrydd sydd yn yr angen mwyaf oherwydd eu bod wedi colli incwm o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Bydd incwm yn cael ei ystyried wrth inni fynd ati i asesu’ch cais.


Os ydych wedi cael cymorth o’r blaen naill ai o dan Gynllun Cadw Swyddi'r Llywodraeth neu’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) a'ch bod yn wynebu heriau ariannol, rydych yn dal yn gymwys i gyflwyno cais i’r gronfa hon. Fodd bynnag, os ydych wedi cael cymorth o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) yn ystod cylchoedd blaenorol, ni fydd eich cais yn cael yr un blaenoriaeth â cheisiadau oddi wrth bobl ar incwm tebyg nad ydynt wedi cael cymorth o dan y Cynllun hwnnw. 

 

Ni fyddwch yn gymwys: 

 

  • Os ydych yn weithiwr llawrydd yn y sector chwaraeon

  • Nid ar gyfer gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ym maes ffilm a theledu, gemau fideo, meddalwedd a diwydiannau adloniant digidol eraill y bwriedir y cymorth hwn gan fod y marchnadoedd hynny bellach yn gweithredu ar eu lefelau arferol neu’n agos at y lefelau hynny. Er hynny, rydym yn deall y gallai’r sefyllfa fod yn dal i effeithio ar rai rolau penodol, gan gynnwys rhai ym maes ffilm a theledu (e.e. awduron /cerddorion). Os gellir dangos bod yr effaith hon yn ganlyniad i gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â COVID-19, byddwn yn derbyn ceisiadau.

Mae'r cyllid hwn yn benodol ar gyfer yr is-sectorau creadigol a diwylliannol a'r rheini y bu’n rhaid iddynt roi'r gorau i weithio a/neu sy'n cael trafferth ailddechrau oherwydd effaith y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â COVID-19. Os yw pobl wedi llwyddo i barhau i weithio ar lefelau sy'n agos at y lefelau a welwyd yn y gorffennol (penseiri, dylunwyr graffig, dylunwyr gemau etc), gan wneud hynny ar ôl cael cymorth, neu hebddo, ni ddylent wneud cais.

 

PWYSIG 

  • Penderfynir ar geisiadau ar sail yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen gais, ar sail y dystiolaeth gysylltiedig ac ar ôl gwirio gwybodaeth o ffynonellau arall. Os bydd unrhyw ddata’n anghyflawn neu’n anghywir neu os na fyddwch wedi rhoi digon o dystiolaeth, byddwn yn cysylltu â chi, ond os na fydd ymholiadau’n cael eu bodloni, bydd y cais yn cael ei wrthod.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais i’r awdurdod lleol cywir.

  • Ni ddylai cyfanswm y grantiau cymorth gawsoch yn sgil Covid-19 fod yn fwy nag 80% o'r incwm ar gyfer y flwyddyn fasnachu Ebrill 2019 – Mawrth 2021. 

  • Ein nod yw prosesu ceisiadau grant ymhen 30 diwrnod gwaith i’r dyddiad y bydd y cynllun yn cau, ond mae’n bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser mewn ambell achos.

  • Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu i weld a ydynt yn gymwys i gael cymorth ac yna, byddant yn cael eu blaenoriaethau yn unol â hynny.

   

Wrth gyflwyno'ch cais bydd gofyn i chi gwblhau’r holl flychau a nodir a chynnwys y dogfennau tystiolaeth gofynnol. Cyfeiriwch at y canllaw i gael rhagor o fanylion. Mae dogfennau a lluniau wedi'u sganio yn fathau derbyniol o dystiolaeth.

 

Os oes angen i chi gysylltu â'r tîm, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod: 

 

 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.