Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae'r Gronfa Grant Cymunedau Cryf bellach ar agor i geisiadau, bydd yn cau am hanner dydd ar 30 Ebrill 2025. Bydd penderfyniadau ar geisiadau yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Rhaid cwblhau prosiectau llwyddiannus erbyn 31 Mawrth 2026 FAN BELLAF.
Y Gronfa Grant Cymunedau Cryf yw £180,000 ar gyfer 2025 i 2026. Grantiau rhwng £5,001 a £15,000 ar gael. £15,000 yw'r uchafswm grant a ddyfernir i unrhyw brosiect unigol.
Mae gwerth am arian yn ffactor asesu allweddol ar gyfer pob cais gan ein bod yn disgwyl i'r galw fod yn uchel. Rhaid i geisiadau gael o leiaf 20% o arian cyfatebol yng nghyfanswm eu cyllideb. Dylai unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais e-bostio'r tîm Grantiau Cymunedau Cryf yn scgfapplications@valeofglamorgan.gov.uk gyda pharagraff byr yn amlinellu'r prosiect, fel y gellir asesu cymhwysedd yn gynnar. Os ydynt yn gymwys, bydd ymgeiswyr yn derbyn ffurflen gais Grant Cymunedau Cryf i'w llenwi a'i chyflwyno.
Nod y gronfa yw:
Gweld yr Adroddiad - 2020Gweld yr Adroddiad - 2022
LAWRLWYTHO LOGO'R GRANT CYMUNEDAU CRYF
Mae Canllawiau’r Gronfa Cymunedau Cryf yn cynnwys mwy o fanylion am y Gronfa, y broses ymgeisio a'r meini prawf asesu. Mae hefyd yn cynnwys cyfres o astudiaethau achos sy'n rhoi enghreifftiau o brosiectau cymwys a chostau. Cymerwch olwg ar ein Hadroddiad Cynnydd diweddaraf i weld cofnod llawn o’r ystod o sefydliadau a phrosiectau a gefnogir drwy’r Gronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf.
Dylid gwneud ymholiadau am grantiau o hyd at £5,000 i enquiries@gvs.cymru.
I gael cyngor neu i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer y rhaglen grant hon, cysylltwch â'n tîm Grant Cymunedau Cryf gyda'ch syniad:
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.
Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan
Dychwelyd i'r Dudalen Cymorth Busnes