Cost of Living Support Icon

Gweithdai

I ddysgu am weithdai ym Mro Morgannwg a’r ardal ehangach dilynwch y ddolen hon Canfod Digwyddiadau a theipio eich cod post yn y blwch priodol.  

 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg gydag Ysgol Technolegau Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd a Technocamps, Prifysgol Abertawe yn cynnal rhwydwaith cymorth dysgu technoleg ddigidol.

Byddant yn cael eu cynnal o fis Medi 2023 i fis Mawrth 2024. 

 

  • Gweithdai 1-2 awr AM DDIM mewn Codio Creadigol; Ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch; gweithio gyda Data; Technoleg, Moeseg a'r Dyfodol; Rhaglennu Python; Diogelwch Seiber a Chryptograffeg; Deallusrwydd Artiffisial; Sgiliau Goroesi Digidol Sylfaenol; Dylunio a Datblygu Gemau; Technoleg Cadwyn Bloc.

  • Gweithdai hanner diwrnod AM DDIM yn Fab Lab, Prifysgol Met Caerdydd (yn cynnwys bysiau) 

  • Cwrs technoleg achrededig 10 wythnos AM DDIM (lefel 4, pwnc i’w gadarnhau)

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â Fiona Carroll  (fcarroll@cardiffmet.ac.uk)

Sylwch y gellir teilwra gweithdai a chyrsiau i ddiwallu anghenion eich dysgwyr.

 

  

Cysylltu â Ni 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymweld â’r safle, ffoniwch neu e-bostiwch y tîm datblygu economaidd am gymorth. 

 

Os ydych chi am gael mwy o wybodaeth ar Fusnes Cymru, ewch i'w gwefan.