Cost of Living Support Icon

Cronfa Argyfwng i Fusnesau - Ar gau

Diben y cynllun grant yw cefnogi busnesau yn y sectorau hamdden, twristiaeth, manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn talu ardrethi busnes ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd, gyda'u llif arian parod uniongyrchol a'u helpu i oroesi canlyniadau economaidd cyfyngiadau ychwanegol angenrheidiol a gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021 i reoli lledaeniad Covid-19.

 

Bwriedir i'r arian helpu gyda’r effaith ar fusnesau rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.  Ni allwch, ac ni ddylech, wneud cais am y grant hwn os ydych yn gymwys i wneud cais am grant Ardrethi Annomestig.

 

Yn benodol, bydd y Gronfa Argyfwng i Fusnesau’n cefnogi busnesau yn y categorïau isod:

i) Grant A: Taliad grant £1000 i fusnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu neu fusnesau cadwyn gyflenwi a gweithwyr llawrydd cysylltiedig a gweithwyr llawrydd sy'n gweithio yn y sectorau nad ydynt yn cyflogi unrhyw un heblaw am y perchennog, ac nad oes ganddynt eiddo.


ii) Grant B: Taliad grant £2,000 i fusnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sy'n cyflogi staff drwy PAYE (yn ogystal â'r perchennog).

 

 

Canllawiau

 

Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn os ydych yn perthyn i un o'r categorïau canlynol: 

  • Cau gorfodol wedi torri rheolau ymbellhau cymdeithasol  Fodd bynnag, os yw gwelliannau wedi'u gwneud a bod y busnes wedi cael ail-agor, yna efallai y bydd yn gymwys i gael y grant (yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd).

  • Mae’r busnes wrthi’n ymddiddymu neu wedi diddymu neu yn y broses o gael ei ddileu

  • Wedi torri trothwy’r cymhorthdal

  • Os nad y busnes rydych chi'n gwneud cais ar ei ran yw eich prif ffynhonnell incwm

  • Busnes arlwyo i lai na 30 o bobl yw’r busnes

  • Mae eich busnes yn talu ardrethi

Pwysig:

  • Gwneir penderfyniadau ar geisiadau ar sail yr wybodaeth a gyflwynir yn y ffurflen gais, y dystiolaeth gysylltiedig a'r gwiriadau gwybodaeth a wneir o ffynonellau data busnes eraill. Os nad yw unrhyw ddata yn gyflawn neu'n gywir, neu os nad yw’r dystiolaeth a roddir yn ddigonol, ni fyddwn yn prosesu’r cais a chaiff y cais ei wrthod. 

  • Rydym yn eich cynghori'n gryf i ddarllen y canllawiau cyn llenwi'r ffurflen gais.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais i’r Awdurdod Lleol cywir.

  • Ein nod yw prosesu ceisiadau am grantiau o fewn 30 diwrnod gwaith (i dderbyn yr holl dystiolaeth/gwybodaeth ategol ofynnol).

  • Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, cewch e-bost yn amlinellu'r rheswm/rhesymau dros wrthod.  Nid oes proses apelio.

Wrth gyflwyno'ch ffurflen gais bydd gofyn i chi gwblhau’r holl flychau a nodir a chynnwys y dogfennau tystiolaeth gofynnol.  Darllenwch y canllawiau i gael mwy o fanylion.  Mae dogfennau a lluniau wedi'u sganio yn fathau derbyniol o dystiolaeth. 

 

Os oes angen i chi gysylltu â'r tîm, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod: 

  • EBF@valeofglamorgan.gov.uk

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.