Cost of Living Support Icon

Economi’r Fro

Gwybodaeth am economi, pobl a busnesau Bro Morgannwg.

 

Mae Bro Morgannwg yn rhan amrywiol o Gymru, sy'n cynnwys ardaloedd gwledig a chanolfannau trefol Mae’r ardal yn elwa ar gysylltiadau ffyrdd, y môr, y rheilffordd a’r awyr ac mae mewn sefyllfa dda o fewn y rhanbarth ar gyfer datblygu cyflogaeth a busnes. Dysgwch fwy am economi’r Fro a’r hyn sy’n peri iddi weithio, gan ddefnyddio’r ffynonellau data a ddarperir.

  

Cyfeillion Hapus

Ein pobl

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, bu poblogaeth Bro Morgannwg yn tyfu'n gyson . Mae tua 61% o’n trigolion yn oedran gwaith (16-64 oed) ac mae 7,600 o bobl yn disgrifio eu hunain fel hunangyflogedig.  

 

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am boblogaeth y Fro, gan gynnwys gwybodaeth am gyfanswm y boblogaeth, oedran ac amrywiaeth, archwilio’r Proffil Marchnad Llafur ar gyfer y Fro yn Office of National Statistics (NOMIS).

Graff o fusnesau yn y Fro

Ein cyflogwyr

Yn 2016, roedd 4,110 o fentrau busnes ym Mro Morgannwg, ac mae nifer ohonynt yn ficro-fusnesau sy'n cyflogi llai na 10 o gyflogeion. Yn 2016, roedd y nifer fwyaf o gyflogeion Fro yn y sectorau ‘Proffesiynol, Gwleidyddol a Thechnolegol' wedi'u dilyn gan y sectorau 'Adeiladu' a 'Manwerthu'.    

 

I gael gwybodaeth fwy manwl a’r ystadegau diweddaraf ar weithgarwch economaidd, megis y llafurlu, busnesau ac enillion, ewch i Office of National Statistics (NOMIS).

Graff o fusnesau yn y Fro

Ein cymunedau

Yn 2016, fel rhan o'r ymgysylltiad 'Gadewch i ni siarad', datblygai Cyngor y Fro broffiliau cymunedol a amlygodd y prif faterion sy'n wynebu ein cymunedau. Mae’r proffiliau cymunedol hyn yn cynnwys gwybodaeth ddemograffig a ragamcanwyd o ddata cyfrifiad 2016 sy’n amlygu amrywiaeth Bro Morgannwg ac yn rhoi mewnwelediad dyfnach i gyfansoddiad ein cymunedau. Cynhyrchwyd proffiliau cymunedol ar gyfer Bro Morgannwg, Y Barri, Dwyrain y Fro a Gorllewin y Fro.

Adnoddau Ystadegau

Ceir cyfoeth o adnoddau ar y we sydd ar gael i chi i gasglu gwybodaeth fusnes dda am eich cwsmeriaid ac i archwilio economi'r Fro. Archwilio rhai o’r dolenni a ddarperir yma i gael gwybodaeth ychwanegol.

Infographic o InfoBase Cymru

Info Base Cymru

Chwiliad data gwybodaeth er mwyn dod o hyd i wybodaeth sy'n benodol i gymdogaethau.

logo’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol

NOMIS

Chwiliwch am wybodaeth sy’n benodol i Wardiau o'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

logo Llywodraeth Cymru

Stats Wales

Data ystadegol busnes , economaidd a’r farchnad lafur o Lywodraeth Cymru.

Heb weld yr hyn sydd ei angen arnoch? Neu a oes gennych gwestiwn? Cysylltwch â'n tîm datblygu economaidd, hoffwn eich helpu.